xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Rhaid i'r ddarpariaeth benodi ddarparu ar gyfer penodi cadeiryddion pwyllgorau yn achosion A i C a nodir yn yr adran hon.
(2)Rhaid i'r ddarpariaeth benodi ddarparu bod cadeirydd y pwyllgor, neu bob cadeirydd pwyllgor, yn yr achosion hynny, i'w benodi gan y pwyllgor y mae'r person hwnnw i'w gadeirio.
(3)Achos pan nad oes grwpiau gwleidyddol ar yr awdurdod yw achos A .
(4)Achos pan nad oes ond un grŵp gwleidyddol ar yr awdurdod yw achos B.
(5)Pan ddigwydd y canlynol ceir achos C—
(a)mae dau grŵp gwleidyddol (ond dim mwy) ar yr awdurdod,
(b)nid oes gan yr awdurdod ond un pwyllgor trosolwg a chraffu, ac
(c)o ran gweithrediaeth yr awdurdod—
(i)mae'n cynnwys aelodau o'r ddau grŵp gwleidyddol, neu
(ii)nid yw'n cynnwys unrhyw aelod o'r naill grŵp gwleidyddol na'r llall.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 67 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)