Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011

77Blaen-gynlluniau a gwybodaeth arall
This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ar gyfer ei gwneud yn ofynnol bod gwybodaeth ragnodedig ynghylch arfer swyddogaethau'r canlynol—

(a)pwyllgor trosolwg a chraffu i awdurdod lleol, neu

(b)is-bwyllgor i'r pwyllgor hwnnw,

ar gael i aelodau o'r cyhoedd neu aelodau o'r awdurdod, neu mewn cysylltiad â hynny.

(2)Mae'r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud o dan is-adran (1) yn cynnwys y canlynol (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt)—

(a)darpariaeth sy'n ei gwneud yn ofynnol bod gwybodaeth ragnodedig ar gael cyn arfer swyddogaethau a grybwyllir yn yr is-adran honno, a

(b)darpariaeth o ran y dull y bydd gwybodaeth ar gael ac ar ba ffurf y bydd yr wybodaeth ar gael.