8Pennaeth gwasanaethau democrataiddLL+C
(1)Rhaid i awdurdod lleol—
(a)dynodi un o'i swyddogion i gyflawni'r swyddogaethau yn adran 9 (“swyddogaethau gwasanaethau democrataidd”);
(b)darparu i'r swyddog hwnnw y staff, y llety a'r adnoddau eraill sydd, ym marn yr awdurdod, yn ddigon i ganiatáu i swyddogaethau'r swyddog hwnnw gael eu cyflawni.
(2)Caiff pennaeth gwasanaethau democrataidd drefnu i swyddogaethau gwasanaethau democrataidd gael eu cyflawni gan staff a ddarperir o dan yr adran hon.
(3)Mae swyddog a ddynodir gan awdurdod lleol o dan yr adran hon i'w alw'n bennaeth gwasanaethau democrataidd.
(4)Ni chaiff awdurdod lleol ddynodi unrhyw un neu ragor o'r canlynol o dan yr adran hon—
(a)pennaeth gwasanaeth cyflogedig yr awdurdod a ddynodir o dan adran 4 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989;
(b)swyddog monitro'r awdurdod a ddynodir o dan adran 5 o'r Ddeddf honno;
(c)prif swyddog cyllid yr awdurdod, o fewn ystyr yr adran honno.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 8 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)