Yn ddilys o 03/09/2012
27Darparu gwybodaeth bellachLL+C
This
adran has no associated
Nodiadau Esboniadol
(1)Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i awdurdod tai lleol ddarparu gwybodaeth bellach yn ychwanegol at yr wybodaeth a roddwyd mewn cais am gyfarwyddyd, neu am ddirymu cyfarwyddyd, o dan y Rhan hon.
(2)Mae'r pŵer o dan is-adran (1) yn arferadwy os yw Gweinidogion Cymru yn rhesymol o'r farn bod gwybodaeth bellach yn ofynnol er mwyn iddynt benderfynu a ddylid ystyried cais yr awdurdod neu ddyfarnu cais yr awdurdod.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 27 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 90(2)