Fersiwn wedi'i ddisodliFersiwn wedi ei ddisodli: 28/04/2014
Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 22/08/2013. Mae'r fersiwn hon o'r hwn (hon) part yn cynnwys darpariaethau nad ydynt yn ddilys ar gyfer y pwynt mewn amser hwn.
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Mesur Addysg (Cymru) 2011, RHAN 2.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
Yn ddilys o 28/04/2014
(1)Mae'r adran hon yn gymwys i gyrff llywodraethu—
(a)dwy neu ragor o ysgolion a gynhelir,
(b)ffederasiwn sy'n bodoli eisoes ac un neu ragor o ysgolion a gynhelir, neu
(c)dau neu ragor o ffederasiynau sy'n bodoli eisoes.
(2)Caiff cyrff llywodraethu ddarparu i'w priod ysgolion gael eu ffedereiddio.
(3)Mae'r pŵer hwn yn ddarostyngedig i'r canlynol—
(a)cydymffurfio ag unrhyw amodau rhagnodedig, a
(b)arfer y pŵer yn unol ag unrhyw weithdrefn ragnodedig.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 10 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 33(2)
(1)Caiff awdurdod lleol wneud cynigion i ffedereiddio—
(a)dwy neu ragor o ysgolion a gynhelir;
(b)ffederasiwn sy'n bodoli eisoes ac un neu ragor o ysgolion a gynhelir;
(c)dau neu ragor o ffederasiynau sy'n bodoli eisoes.
(2)Rhaid i awdurdod lleol gyhoeddi cynigion a wneir o dan yr adran hon.
(3)Rhaid i awdurdod lleol, yn unol â rheoliadau, ymgynghori â'r personau canlynol ar y cynigion a gyhoeddir—
(a)cyrff llywodraethu ysgolion neu ffederasiynau i'w ffedereiddio;
(b)staff yr ysgolion;
(c)un neu ragor o gyrff (os oes) yr ymddengys i'r awdurdod eu bod yn cynrychioli buddiannau staff yr ysgolion;
(d)i'r graddau y mae'n ymarferol, disgyblion a gofrestrwyd yn yr ysgolion a'u rhieni.
(4)Nid yw is-adran (2) na (3) yn gymwys mewn perthynas â chynnig ar gyfer ffederasiwn a ffurfir o ysgolion bach yn unig.
(5)Mewn perthynas â chynnig ar gyfer ffederasiwn a ffurfir o ysgolion bach yn unig, rhaid i'r awdurdod lleol, yn unol â rheoliadau, ymgynghori â chyrff llywodraethu'r ysgolion dan sylw.
(6)Ystyr “ysgol fach” yn is-adrannau (4) a (5) yw ysgol a gynhelir sydd, ar y dyddiad y gwneir y cynnig o dan is-adran (1), yn ysgol fach a gynhelir yn ôl y diffiniad mewn gorchymyn o dan adran 15.
(7)Rhaid i awdurdod lleol, yn unol â rheoliadau, benderfynu p'un ai—
(a)cadarnhau cynigion, gyda neu heb addasiad neu'n ddarostyngedig i ddigwyddiad, neu
(b)eu tynnu'n ôl.
(8)Caiff awdurdod lleol wneud cynigion ar gyfer ffederasiwn sy'n cynnwys ysgol a gynhelir a honno'n ysgol nad yw'n ei chynnal cyhyd â bod yr awdurdod lleol sy'n cynnal yr ysgol yn cydsynio.
(9)Caiff awdurdod lleol wneud cynigion ar gyfer ffederasiwn sy'n cynnwys ysgol sefydledig neu wirfoddol cyhyd â bod y personau canlynol yn cydsynio—
(a)yn achos un o ysgolion yr Eglwys yng Nghymru neu un o ysgolion yr Eglwys Gatholig Rufeinig, yr awdurdod esgobaethol priodol, a
(b)yn achos unrhyw ysgol sefydledig neu wirfoddol arall, y person neu'r personau y penodwyd y llywodraethwyr sefydledig ganddynt.
(10)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth bellach ynghylch cynigion o dan yr adran hon ac (ymhlith pethau eraill) gwneud darpariaeth ynghylch—
(a)sicrhau cydsyniad personau rhagnodedig i wneud, cyhoeddi neu gadarnhau cynigion;
(b)yr wybodaeth sydd i'w chynnwys yn y cynigion, neu sydd i'w darparu mewn perthynas â hwy;
(c)cyhoeddi cynigion;
(d)ymgynghori ynghylch y cynigion;
(e)gwneud gwrthwynebiadau i'r cynigion neu sylwadau ar y cynigion;
(f)tynnu'r cynigion yn ôl neu eu haddasu;
(g)y modd y mae'r awdurdod lleol i gadarnhau'r cynigion.
Gwybodaeth Cychwyn
I2A. 11 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 33(2)
(1)Mae'r adran hon yn gymwys i gynigion o dan adran 11.
(2)Rhaid i gynigion sydd wedi eu cadarnhau gael eu gweithredu gan y personau a grybwyllir yn is-adran (3), yn ôl eu trefn, i'r graddau (os o gwbl) y mae'r cynigion yn darparu i bob un ohonynt wneud hynny.
(3)Dyma'r personau—
(a)yr awdurdod lleol sy'n cynnal ysgol sy'n ddarostyngedig i'r cynigion;
(b)corff llywodraethu ysgol sy'n ddarostyngedig i'r cynigion;
(c)unrhyw bersonau eraill a ragnodir.
(4)Rhaid gweithredu cynigion sydd wedi eu cadarnhau fel y'u cadarnhawyd, yn ddarostyngedig i'r is-adrannau a ganlyn.
(5)Ar gais personau rhagnodedig, caiff yr awdurdod lleol a wnaeth y cynigion—
(a)addasu'r cynigion ar ôl ymgynghori ag unrhyw bersonau a ragnodir, a
(b)os cafodd unrhyw gadarnhad ei roi yn ddarostyngedig i ddigwyddiad penodedig, bennu dyddiad diweddarach erbyn pryd y mae'n rhaid i'r digwyddiad o dan sylw ddigwydd.
(6)Caiff awdurdod lleol a wnaeth y cynigion benderfynu bod is-adran (2) i beidio â bod yn gymwys i'r cynigion os caiff ei fodloni—
(a)y byddai gweithredu'r cynigion yn afresymol o anodd, neu
(b)bod yr amgylchiadau wedi newid cymaint ers i'r cadarnhad gael ei roi y byddai'n amhriodol gweithredu'r cynigion.
(7)Os yw'n ofynnol o dan reoliadau iddo wneud hynny, rhaid i awdurdod lleol ymgynghori neu sicrhau cydsyniad unrhyw bersonau a ragnodir cyn gwneud penderfyniad o dan is-adran (6).
Gwybodaeth Cychwyn
I3A. 12 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 33(2)
Rhagolygol
O ran ffederasiwn—
(a)rhaid bod ganddo gorff llywodraethu sengl sydd wedi ei gyfansoddi o dan offeryn llywodraethu sengl;
(b)mewn achosion rhagnodedig, rhaid iddo gael ei drin fel ysgol sengl at ddibenion unrhyw ddeddfiadau a ragnodir, ac eithrio unrhyw ddeddfiad a gynhwysir [F1yn Rhan 3 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (trefniadaeth ysgolion) neu yn Rhan 3 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (derbyniadau i ysgolion)]
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn a. 13(b) wedi eu hamnewid (1.10.2013) gan Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (anaw 1), a. 100(4), Atod. 5 para. 29(3); O.S. 2013/1800, ergl. 3(j)
Gwybodaeth Cychwyn
I4A. 13 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 33(2)
(1)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth—
(a)ynghylch diddymu cyrff llywodraethu adeg ffurfio ffederasiwn;
(b)sy'n galluogi corff llywodraethu ffederasiwn i barhau i fodoli fel corff corfforaethol pan fo un neu ragor o ysgolion yn ymuno â'r ffederasiwn neu'n ymadael ag ef;
(c)ynghylch ym mha amgylchiadau ac ym mha fodd y caniateir i ffederasiwn gael ei ddiddymu, neu i un neu ragor o ysgolion ymadael â ffederasiwn;
(d)sy'n galluogi corff llywodraethu ffederasiwn a ddiddymwyd i gael ei ddisodli naill ai gan gyrff llywodraethu ar gyfer pob un o'r ysgolion cyfansoddol neu gan gyrff llywodraethu sy'n cynnwys corff llywodraethu ffederasiwn newydd;
(e)ynghylch y trosi o un corff llywodraethu i un arall;
(f)ynghylch trosglwyddo eiddo, hawliau a rhwymedigaethau rhwng cyrff llywodraethu, neu rhwng awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu;
(g)ynghylch unrhyw faterion eraill sy'n ymwneud â ffederasiynau, ysgolion ffederal neu ffurfio neu ddiddymu ffederasiynau y mae Gweinidogion Cymru yn barnu eu bod yn briodol.
(2)Caiff rheoliadau a wneir yn rhinwedd is-adran (1)(f) mewn perthynas â throsglwyddo eiddo, hawliau a rhwymedigaethau—
(a)darparu bod materion rhagnodedig yn cael eu penderfynu gan Weinidogion Cymru,
(b)cymhwyso gydag addasiadau unrhyw ddarpariaeth yn Atodlen 10 i Ddeddf Diwygio Addysg 1988 (darpariaethau atodol mewn cysylltiad â throsglwyddiadau o dan y Ddeddf honno), neu
(c)gwneud darpariaeth sy'n cyfateb i'r hyn a wnaed gan unrhyw ddarpariaeth yn yr Atodlen honno.
Gwybodaeth Cychwyn
I5A. 14 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 33(2)
(1)Caiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth drwy orchymyn i ddiffinio ysgol fach a gynhelir drwy gyfeirio at nifer penodedig o ddisgyblion sydd wedi eu cofrestru mewn ysgol ar ddyddiad penodedig mewn unrhyw flwyddyn.
(2)Mae gorchymyn o dan yr adran hon yn gymwys at ddibenion darpariaeth o dan y Bennod hon.
(3)Yn yr adran hon, ystyr “penodedig” yw wedi ei bennu mewn gorchymyn a wnaed gan Weinidogion Cymru.
Gwybodaeth Cychwyn
I6A. 15 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 33(2)
Rhagolygol
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Diwygiadau Testunol
F2A. 16 wedi ei hepgor (20.2.2014) yn rhinwedd Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (anaw 1), a. 100(4), Atod. 5 para. 13(2); O.S. 2014/178, ergl. 2(f) (ynghyd ag ergl. 3)
Gwybodaeth Cychwyn
I7A. 16 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 33(2)
Wrth arfer eu swyddogaethau o dan y Bennod hon, rhaid i awdurdod lleol a chorff llywodraethu ysgol a gynhelir roi sylw i ganllawiau a roddir o dro i dro gan Weinidogion Cymru.
Gwybodaeth Cychwyn
I8A. 17 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 33(2)
Rhagolygol
(1)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth at ddibenion y Bennod hon i addasu unrhyw ddarpariaeth sydd wedi ei chynnwys yn—
[F3(a)Pennod 1 o Ran 2 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (ymyrryd ym materion rhedeg ysgolion a gynhelir), neu]
(b)adrannau 49 i 51 [F4o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998] , ac Atodlen 15 iddi (dirprwyo ariannol),
wrth gymhwyso'r ddarpariaeth i ysgolion ffederal neu eu cyrff llywodraethu.
(2)Mae'r addasiadau y caniateir eu gwneud yn rhinwedd is-adran (1) yn cynnwys, ymhlith pethau eraill, addasiadau—
(a)sy'n galluogi'r pwerau a roddwyd gan y darpariaethau y cyfeiriwyd atynt yn yr is-adran honno i gael eu harfer mewn perthynas â'r holl ysgolion mewn ffederasiwn hyd yn oed os nad yw'r amgylchiadau, y mae'r pwerau yn arferadwy drwy gyfeirio atynt, yn bodoli ond mewn perthynas ag un neu ragor o'r ysgolion hynny, a
(b)sy'n ei gwneud yn ofynnol i ddosrannu unrhyw gostau neu dreuliau a dynnir gan gorff llywodraethu ffederasiwn.
(3)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth sy'n addasu unrhyw ddeddfiad sy'n ymwneud ag ysgolion o fewn categori penodol, neu â chyrff llywodraethu ysgolion o fewn categori penodol, wrth gymhwyso'r deddfiad i ysgolion sy'n ffurfio rhan o ffederasiwn neu i gyrff llywodraethu ffederasiynau.
(4)Yn is-adran (3), mae cyfeiriadau at gategorïau o ysgolion a gynhelir yn gyfeiriadau at y categorïau a nodir yn adran 20(1) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.
Diwygiadau Testunol
F3A. 18(1)(a) wedi ei amnewid (20.2.2014) gan Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (anaw 1), a. 100(4), Atod. 5 para. 13(3)(a); O.S. 2014/178, ergl. 2(f) (ynghyd ag ergl. 3)
F4Geiriau yn a. 18(1)(b) wedi eu hamnewid (20.2.2014) gan Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (anaw 1), a. 100(4), Atod. 5 para. 13(3)(b); O.S. 2014/178, ergl. 2(f) (ynghyd ag ergl. 3)
Gwybodaeth Cychwyn
I9A. 18 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 33(2)
(1)Mae Deddf Addysg 2002 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Yn adran 19—
(a)yn is-adran (8), o flaen “Subsection (1)” mewnosoder “In relation to maintained schools in England,”;
(b)ar ôl is-adran (8), mewnosoder—
“(9)In relation to maintained schools in Wales, subsection (1) has effect subject to Chapter 1 of Part 2 of the Education (Wales) Measure 2011; and regulations under this section may include provision with respect to the governing bodies of federations (within the meaning of section 21(1) of that Measure).”
(3)Yn adran 20—
(a)yn is-adran (4), o flaen “Subsection (1)” mewnosoder “In relation to maintained schools in England,”;
(b)ar ôl is-adran (4), mewnosoder—
“(4A)In relation to maintained schools in Wales, subsection (1) has effect subject to Chapter 1 of Part 2 of the Education (Wales) Measure 2011; and regulations under subsection (2) may include provision with respect to instruments of government for federations (within the meaning of section 21(1) of that Measure).”
(4)Yn adran 24—
(a)yn is-adran (1)(a), ar ôl “schools” mewnosoder “in England”;
(b)yn is-adran (1)(b), ar ôl “schools” mewnosoder “in England”;
(c)yn is-adran (2), ar ôl “schools” mewnosoder “in England”;
(d)yn is-adran (4)(g) hepgorer “, or as the case may be the National Assembly for Wales,”;
(e)yn is-adran (5)(a) hepgorer “or the National Assembly for Wales”.
(5)Yn adran 25(1)—
(a)hepgorer paragraff (a);
(b)ym mharagraff (b), ar ôl “federated schools” mewnosoder “in England”.
(6)Yn adran 39(1), ar ôl “federated school” mewnosoder “in relation to England”.
(7)Ym mharagraff 5 o Atodlen 1, ar ôl is-baragraff (1) mewnosoder—
“(1A)Sub-paragraph (1) does not apply if—
(a)the school is a federated school in Wales, and
(b)immediately after the discontinuance date, there will be more than one other school remaining in the federation.
(1B)“Federation” in sub-paragraph (1A) means a group of schools that are federated by virtue of Chapter 1 of Part 2 of the Education (Wales) Measure 2011 or were federated by virtue of section 24 before the coming into force of that Chapter, and “federated school” means a school forming part of a federation.”
Gwybodaeth Cychwyn
I10A. 19 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 33(2)
Rhagolygol
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Diwygiadau Testunol
F5A. 20 wedi ei hepgor (1.10.2013) yn rhinwedd Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (anaw 1), a. 100(4), Atod. 5 para. 29(4); O.S. 2013/1800, ergl. 3(j)
Gwybodaeth Cychwyn
I11A. 20 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 33(2)
Rhagolygol
(1)Yn y Bennod hon—
ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw awdurdod lleol yng Nghymru;
ystyr “ffederasiwn” (“federation”) yw grŵp o ysgolion yng Nghymru sydd wedi eu ffedereiddio yn rhinwedd y Bennod hon neu a oedd wedi eu ffedereiddio yn rhinwedd adran 24 o Ddeddf Addysg 2002 cyn i'r Bennod hon ddod i rym, ac ystyr “ysgol ffederal” (“federated school”) yw ysgol sy'n ffurfio rhan o ffederasiwn;
ystyr “ysgol a gynhelir” (“maintained school”) yw ysgol yng Nghymru sy'n ysgol gymunedol, ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol, ysgol gymunedol arbennig F6... neu ysgol feithrin a gynhelir.
(2)Mewn unrhyw ddeddfiad—
(a)mae unrhyw gyfeiriad at gorff llywodraethu neu lywodraethwyr ysgol i'w ddehongli, mewn perthynas ag ysgol ffederal, fel cyfeiriad at gorff llywodraethu neu lywodraethwyr y ffederasiwn, a
(b)mae unrhyw gyfeiriad at offeryn llywodraethu ysgol i'w ddehongli, mewn perthynas ag ysgol ffederal, fel cyfeiriad at offeryn llywodraethu'r ffederasiwn.
Diwygiadau Testunol
F6Geiriau yn a. 21(1) wedi eu hepgor (1.10.2013) yn rhinwedd Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (anaw 1), a. 100(4), Atod. 5 para. 29(5); O.S. 2013/1800, ergl. 3(j)
Gwybodaeth Cychwyn
I12A. 21 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 33(2)
(1)Rhaid i awdurdod lleol yng Nghymru sicrhau y darperir, yn rhad ac am ddim, i bob llywodraethwr unrhyw wybodaeth y mae'r awdurdod lleol yn barnu ei bod yn briodol mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau llywodraethwr.
(2)Mae'r ddyletswydd hon yn gymwys i'r graddau nad yw'n ofynnol fel arall i'r awdurdod lleol sicrhau bod y cyfryw wybodaeth yn cael ei darparu.
(3)Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol yng Nghymru sicrhau y darperir, yn rhad ac ddim, hyfforddiant rhagnodedig i lywodraethwyr rhagnodedig ysgolion a gynhelir.
(4)Caniateir i hyfforddiant gael ei ragnodi drwy gyfeirio at ddogfen a gyhoeddir, fel a bennir yn y rheoliadau, gan Weinidogion Cymru.
(5)Nid yw gofynion rheoliadau o dan is-adran (3) yn lleihau effaith y ddyletswydd a ganlyn.
(6)Rhaid i awdurdod lleol yng Nghymru sicrhau bod unrhyw hyfforddiant y mae'n barnu ei fod yn angenrheidiol yn cael ei roi ar gael i bob llywodraethwr, yn rhad ac am ddim, er mwyn i swyddogaethau'r llywodraethwr gael eu cyflawni'n effeithiol.
(7)Yn yr adran hon, ystyr “llywodraethwr” yw llywodraethwr ysgol a gynhelir yn ardal yr awdurdod lleol.
(8)Yn adran 22 o Ddeddf Addysg 2002, ar ôl “authority” mewnosoder “in England”.
Gwybodaeth Cychwyn
I13A. 22 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 33(2)
I14A. 22 mewn grym ar 22.8.2013 gan O.S. 2013/2090, ergl. 2
(1)Rhaid i awdurdod lleol yng Nghymru hysbysu, o dro i dro, bob corff y mae'n ofynnol iddo benodi clerc i gorff llywodraethu ysgol a gynhelir yn ardal yr awdurdod lleol o dan adran 23 o Ddeddf Addysg 2002 y caiff y corff hwnnw ofyn i'r awdurdod ddarparu person i'w benodi'n glerc.
(2)Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol yng Nghymru ddarparu person i'w benodi os gwneir cais.
(3)Caiff y rheoliadau (ymhlith pethau eraill)—
(a)rhoi pŵer i awdurdod lleol godi ffi am ddarparu person (gan gynnwys pŵer i godi ffioedd gwahanol mewn achosion gwahanol);
(b)rhagnodi'r person y mae'n rhaid i'r ffi gael ei thalu drwyddo;
(c)darparu ar gyfer eithriadau ac esemptiadau.
Gwybodaeth Cychwyn
I15A. 23 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 33(2)
I16A. 23 mewn grym ar 22.8.2013 gan O.S. 2013/2090, ergl. 2
(1)Mae is-adran (2) yn gymwys mewn perthynas â chorff y mae'n ofynnol iddo benodi clerc i gorff llywodraethu ysgol a gynhelir yng Nghymru o dan adran 23 o Ddeddf Addysg 2002.
(2)Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i'r corff sicrhau bod person a benodir yn glerc wedi cwblhau hyfforddiant rhagnodedig yn ôl safon ragnodedig.
(3)Caiff y rheoliadau—
(a)gwahardd penodi person nad yw wedi cwblhau'r hyfforddiant yn ôl y safon ofynnol;
(b)darparu bod person a benodwyd yn glerc, ac nad yw wedi cwblhau'r hyfforddiant, yn cwblhau'r hyfforddiant yn ôl y safon ofynnol o fewn cyfnod rhagnodedig;
(c)darparu ar gyfer terfynu penodiad clerc nad yw'n cwblhau'r hyfforddiant yn ôl y safon ofynnol o fewn y cyfnod hwnnw;
(d)rhagnodi hyfforddiant a safonau drwy gyfeirio at ddogfen a gyhoeddir, fel a bennir yn y rheoliadau, gan Weinidogion Cymru;
(e)darparu ar gyfer eithriadau ac esemptiadau.
Gwybodaeth Cychwyn
I17A. 24 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 33(2)
I18A. 24 mewn grym ar 22.8.2013 gan O.S. 2013/2090, ergl. 2
(1)Rhaid i awdurdod lleol yng Nghymru sicrhau bod unrhyw hyfforddiant y mae'r awdurdod yn barnu ei fod yn angenrheidiol yn cael ei roi ar gael i bob person sy'n cael ei benodi'n glerc i alluogi'r corff a benododd y clerc o dan adran 23 o Ddeddf Addysg 2002 i gydymffurfio ag unrhyw ofyniad o dan adran 24 o'r Mesur hwn.
(2)Caiff awdurdod lleol yng Nghymru godi ffi am unrhyw hyfforddiant a ddarperir (a chaiff godi ffioedd gwahanol mewn achosion gwahanol).
(3)Yn yr adran hon, ystyr “clerc” yw clerc i gorff llywodraethu ysgol a gynhelir yn ardal yr awdurdod lleol.
Gwybodaeth Cychwyn
I19A. 25 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 33(2)
I20A. 25 mewn grym ar 22.8.2013 gan O.S. 2013/2090, ergl. 2
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Pwynt Penodol mewn Amser: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Testun a grëwyd gan yr adran o Lywodraeth Cynulliad Cymru oedd yn gyfrifol am destun y Mesur i esbonio beth mae’r Mesur yn ceisio ei wneud ac i wneud y Mesur yn hygyrch i ddarllenwyr nad oes ganddynt gymhwyster cyfreithiol. Mae Nodiadau Esboniadol yn cyd-fynd â holl Fesurau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys