- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig)
- Gwreiddiol (a wnaed Fel)
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). This item of legislation is currently only available in its original format.
DYMA'R FFURFLEN GAIS I'W DEFNYDDIO OS YDYCH EISIAU GWNEUD CAIS AM GRANT ADNEWYDDU. DYLID DEFNYDDIO FFURFLENNI ERAILL OS YDYCH YN GWNEUD CAIS AM GRANT CYFLEUSTERAU I'R ANABL (FFURFLEN 2), GRANT RHANNAU CYFFREDIN (FFURFLEN 3) NEU GRANT TŶ MEWN AMLDDALIADAETH (FFURFLEN 4). AR ÔL I CHI LENWI'R FFURFLEN HON, DYCHWELER HI I:
(Cyfeiriad)
OS YDYCH YN ANSICR YNGHYLCH SUT MAE ATEB UNRHYW UN O'R CWEST- IYNAU, CYSYLLTWCH Å:
(Enw, cyfeiriad a rhif ffôn y person i gysylltu ag ef/hi yn y Cyngor)
A. Rhaid trin pob cyfeiriad at “chi” ac “eich” yn y ffurflen gais hon
ac eithrio yn Adran A Rhan 3-fel cyfeiriad at yr ymgeisydd am grant.
B. NI fydd eich cais yn ddilys oni lenwch holl rannau perthnasôl y ffurflen hon ac amgáu'r dogfennau angenrheidiôl a fynnir yn Rhan 4.
C. Fel rheôl, ni thelir y grant os ydych chi, neu unrhyw un arall sy'n gweithredu ar eich rhan, yn dechrau ar y gwaith cyn i chi gael cymeradwyaeth ysgrifenedig o'r cais hwn. Gellir gwneud eithriadau lle bo'r gwaith yn ofynnôl er mwyn cydymffurfio a rhai rhybuddion (e.e. y rhai a gyflwynir o dan adrannau 189 neu 190 Deddf Tai 1985). Fel rheôl, fe wrthodir grant os cwblheir y gwaith cyn cymeradwyo'r cais. Nid yw caniatâd cynllunio na chymeradwyaeth o dan y rheôliadau adeiladu yr un peth a chymeradwyo'r grant.
D. Os ydych yn gwneud cais fel deiliad-berchennog neu denant, rhaid i'r eiddo sy'n destun y cais am grant fod, neu rhaid bod bwriad iddo fod, yn unig neu brif breswylfan i chi, neu'n unig neu brif breswylfan i aelod o'ch teulu. Nid yw grant ar gael ar gyfer ail gartrefi neu gartrefi haf.
E. Nid yw grant adnewyddu'n daladwy os yw'r eiddo lle bwriedir cyflawni'r gwaith yn llai na 10 oed neu wedi ei addasu lai na 10 mlynedd yn ôl.
F. Os oes gennych forgais, fe allwch gael bod y telerau'n gofyn i chi gael caniatâd eich morgeisiai i wneud cais am grant (neu gyflawni gwaith). Gwnewch yn siŵr eich bod wedi cael y caniatâd angenrheidiôl cyn cyflwyno cais.
G. Os ydych yn denant, gallwch wneud cais am grant adnewyddu yn unig os yw'n ofynnôl i chi, o dan delerau eich tenantiaeth, gyflawni'r gwaith y ceisir grant ar ei gyfer.
H. Ni allwch wneud cais am grant fel tenant os ydych yn bwriadu prynu prydles yr eiddo neu os ydych eisoes wedi cymryd, neu'n bwriadu cymryd, tenantiaeth ohono lle mae o leiaf 5 mlynedd yn dal ar ôl. O dan yr amgylchiadau hyn, byddai'n rhaid i chi wneud cais perchennog (naill ai fel deiliad-berchennog neu landlord).
J. Mae pedair rhan i'r ffurflen hon—
Rhan 1— sy'n gofyn am wybodaeth am yr eiddo â'r gwaith sydd i'w gyflawni.
Rhan 2— sy'n gofyn am wybodaeth am eich diddordeb yn yr eiddo. Mae dwy adran iddi, ac mae'n ofynnôl i chi lenwi un adran yn unig, gan ddibynnu ar a ydych yn ddeiliad- berchennog, yn landlord neu'n denant.
Rhan 3— sydd mewn dwy adran, a rhaid i chi lenwi un yn unig o'r rhain. Mae Adran A yn ymdrin a deiliaid-berchnogion a thenantiaid, ac yn gofyn am wybodaeth am eich teulu a'ch adnoddau ariannôl, a rhaid i bob person y mae'n ofynnôl iddo/iddi lenwi'r adran hon lofnodi datganiad am y wybodaeth y mae'n ei rhoi. Mae Adran B yn gofyn am wybodaeth ariannôl oddi wrth landlordiaid.
Rhan 4— sy'n ei gwneud yn ofynnôl amga amrywiôl ddogfennau gydâ'r cais. Mae'n ofynnôl i chi hefyd lofnodi datganiad ynglŷn â'r wybodaeth a roddwch yn y cais.
K. Mae'r cyfeiriadau at nodiadau yn y ffurflenni yn gyfeiriadau at y nodiadau a rifwyd ar ddiwedd y ffurflen.
DYMA'R FFURFLEN GAIS I'W DEFNYDDIO OS YDYCH EISIAU GWNEUD CAIS AM GRANT CYFLEUSTERAU I'R ANABL. DYLID DEFNYDDIO FFURFLENNI ERAILL OS YDYCH YN GWNEUD CAIS AM GRANT ADNEWYDDU (FFURFLEN 1), GRANT RHANNAU CYFFREDIN (FFURLEN 3) NEU GRANT Ty MEWN AMLDDALIADAETH (FFURFLEN 4). AR oL I CHI LENWI'R FFURFLEN HON, DYCHWELWCH HI I'R CYNGOR.
OS YDYCH YN ANSICR YNCHYLCH SUT MAE ATEB UNRHYW UN O'R CWESTIYNAU, CYSYLLTWCH Å:
(Enw, cyfeiriad a rhif ffôn y person i gysylltu ag ef/hi yn y Cyngor)
A. Rhaid trin pob cyfeiriad at “chi ac eich” yn y ffurflen gais hon— ac eithrio yn Adran A Rhan 3-fel cyfeiriad at yr ymgeisydd am grant.
B. Ni fydd eich cais yn ddilys oni lenwch hôll rannau perthnasôl y ffurflen hon ac amgáu'r dogfennau angenrheidiôl a fynnir yn Rhan 4.
C. Fel rheôl, ni thelir y grant os ydych chi, neu unrhyw un arall sy'n gweithredu ar eich rhan, yn dechrau ar y gwaith cyn i chi gael cymeradwyaeth ysgrifenedig o'r cais hwn. Fel rheôl, fe wrthodir grant os cwblheir y gwaith cyn cymeradwyo'r cais. Nid yw caniatâd cynllunio na chymeradwyaeth o dan y rheôliadau adeiladu yr un peth a chymeradwyo'r grant.
D. Os ydych yn gwneud cais fel deiliad-berchennog neu denant i wneud gwaith ar eich annedd, rhaid i'r annedd sy'n destun y cais am grant fod, neu rhaid bod bwriad iddo fod, yn unig neu brif breswylfan i chi, neu'n unig neu brif breswylfan i aelod o'ch teulu. Nid yw grant ar gael ar gyfer ail gartrefi neu gartrefi haf.
E. Os ydych yn meddiannu fflat mewn adeilad, a chithau'n dymuno gwneud gwaith ar eich fflat ac ar rannau cyffredin yr adeilad, gall fod angen i chi gyflwyno mwy nag un dystysgrif o ddaliadaeth at y dyfodôl gyda'ch cais. Os oes gennych denantiaeth eich fflat ag o leiaf bum mlynedd eto i fynd, cewch eich ystyried yn ddeiliad-berchennog mewn perthynas â'r cais am waith ar eich fflat (ac felly dylech gyflwyno tystysgrif deiliad-berchnogaeth), ac fel tenant mewn perthynas â'r cais am waith ar y rhannau cyffredin (a dylech gyflwyno tystysgrif tenant ar gyfer hynny). Er hynny, nid oes angen i chi lenwi ond un adran (Adran A) yn Rhan 2. Os oes gennych ddiddordeb tenant yn eich fflat, nid oes angen i chi ddarparu ond un dystysgrif (tystysgrif tenant).
F. Os oes gennych forgais, fe allwch gael bod y telerau'n gofyn i chi gael caniatâd eich morgeisiai i wneud cais am grant (neu gyflawni gwaith). Gwnewch yn siŵr eich bod wedi cael unrhyw ganiatad angenrheidiôl cyn cyflwyno cais.
G. Ni allwch wneud cais am grant fel tenant os ydych yn bwriadu prynu prydles yr eiddo neu os ydych eisoes wedi cymryd, neu os ydych yn bwriadu cymryd, tenantiaeth ohono lle mae o leiaf 5 mlynedd yn dal ar ôl. O dan yr amgylchiadau hyn, byddai'n rhaid i chi wneud cais perchennog (naill ai fel deiliad-berchennog neu landlord).
H. Os ydych yn denant, gall fod angen caniatâd eich landlord arnoch i wneud y gwaith yr ymdrinir ag ef yn y cais hwn. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi cael unrhyw ganiatad angenrheidiôl cyn cyflwyno cais. Os yw'r gwaith arfaethedig yn waith ar rannau cyffredin yr adeilad, mae angen i chi hefyd fod a dyletswydd neu bwer i'w gyflawni.
I. Mae pedair rhan i'r ffurflen hon—
Rhan 1— sy'n gofyn am wybodaeth am yr eiddo ac am y gwaith sydd i'w gyflawni.
Rhan 2— sy'n gofyn am wybodaeth am eich diddordeb yn yr eiddo. Mae dwy adran iddi, ac mae'n ofynnôl i chi lenwi un adran yn unig, gan ddibynnu ar a ydych yn ddeiliad-berchennog, yn landlord neu'n denant.
Rhan 3— sydd mewn dwy adran, a rhaid i chi lenwi un yn unig o'r rhain. Mae Adran A yn ymdrin a deiliaid-berchnogion a thenantiaid, ac yn gofyn am wybodaeth am eich teulu a'ch adnoddau ariannôl, a rhaid i bob person y mae'n ofynnôl iddo/iddi lenwi'r adran hon lofnodi datganiad am y wybodaeth y mae'n ei rhoi. Mae Adran B yn gofyn am wybodaeth ariannôl oddi wrth landlordiaid.
Rhan 4— sy'n ei gwneud yn ofynnôl amgau amrywiôl ddogfennau gydâ'r cais. Mae'n ofynnôl i chi hefyd lofnodi datganiad ynglyn â'r wybodaeth a roddwch yn y cais.
J. Mae'r cyfeiriadau at nodiadau yn y ffurflenni yn gyfeiriadau at y nodiadau a rifwyd ar ddiwedd y ffurflen.
DYMA'R FFURFLEN GAIS I'W DEFNYDDIO WRTH WNEUD CAIS AM GRANT RHANNAU CYFFREDIN, AR GYFER CYFLAWNI GWAITH GWELLA NEU AT- GYWEIRIO I RANNAU CYFFREDIN ADEILAD SY'N CYNNWYS UN NEU RAGOR O FFLATIAU. DYLID DEFNYDDIO FFURFLENNI ERAILL OS YDYCH YN GWNEUD CAIS AM GRANT ADNEWYDDU (FFURFLEN 1), GRANT CYFLEUSTERAU I'R ANABL (FFURFLEN 2) NEU GRANT Ty MEWN AMLDDALIADAETH (FFURFLEN 4). AR ÔL I CHI LENWI'R FFURFLEN HON, DYCHWELWCH HI I'R CYNGOR:
OS YDYCH YN ANSICR YNGHYLCH SUT MAE ATEB UNRHYW UN O'R CWEST- IYNAU, CYSYLLTWCH Å:
(Enw, cyfeiriad a rhif ffôn y person i gysylltu ag ef/hi yn y Cyngor)
A. Rhaid trin pob cyfeiriad at “chi” ac “eich” yn y ffurflen gais hon— ac eithrio yn Adran A Rhan 3-fel cyfeiriad at yr ymgeisydd am grant neu, fel y bo'r achos, at bob un o'r ymgeiswyr.
B. Ni fydd eich cais yn ddilys oni lenwch hôll rannau perthnasôl y ffurflen hon ac amgáu'r dogfennau angenrheidiôl a fynnir yn Rhan 4.
C. Mae “tenant” yn y ffurflen hon yn cynnwys rhywun sydd a thenantiaeth fflat lle mae o leiaf 5 mlynedd o'r denantiaeth honno eto i redeg adeg gwneud y cais.
D. Mae dau fath o gais ar gyfer grantiau rhannau cyffredin, ac ymdrinir â'r ddau ohonynt yn y ffurflen hon. Os ydych yn berchen rhyddfraint yr adeilad neu denantiaeth ohono ac o leiaf 5 mlynedd ohoni i fynd, gallwch wneud “cais rhannau cyffredin gan landlord” cyhyd a bod gennych hefyd bwer neu ddyletswydd i gyflawni'r gwaith dan sylw. Fel rheôl, os ydych yn denant fflat yn yr adeilad, neu'n meddiannu'r fflat fel eich unig neu eich prif breswylfan a bod dyletswydd arnoch i gyflawni peth neu'r cyfan o'r gwaith neu i gyfrannu at gostau eu cyflawni, gallwch ymuno a “chais rhannau cyffredin gan denantiaid”. Bydd angen i o leiaf dri-chwarter y tenantiaid sydd yn y sefyllfa hon yn yr adeilad ymwneud a chais rhannau cyffredin gan denantiaid: ni allwch wneud cais ar eich pen eich hun. Gall landlordiaid hefyd ymuno a'u tenantiaid (fel “landlordiaid cyfranogi” ) mewn cais rhannau cyffredin gan denantiaid.
E. Os ydych yn gwneud cais rhannau cyffredin gan denantiaid, gall fod angen caniatâd eich landlord arnoch i gyflawni gwaith-er enghraifft, os oes dyletswydd arnoch i gyfrannu at gostau'r gwaith, ond lle mae'n ddyletswydd ar y landlord i'w gyflawni. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi cael unrhyw ganiatad angenrheidiôl cyn cyflwyno eich cais.
F. Gall y rhai sy'n cyfranogi mewn cais rhannau cyffredin gan denantiaid ddymuno penodi rhywun i gydgysylltu eu cais, ac os cymeradwyir y cais gallai unrhyw ffioedd a dynnwyd gael eu cynnwys yn y costau sy'n sail i gyfrif y grant. Rhagwelir mai un yn unig o'r rhai sy'n cyfranogi fydd yn cyflwyno'r wybodaeth a fynnir yn Rhannau 1 a 4 y ffurflen; yn achos y wybodaeth a fynnir gan Rannau 2 a 3, rhaid i bob un sy'n cyfranogi gyflwyno'r wybodaeth honno ohono'i hun.
G. Nid yw grant rhannau cyffredin ar gael ar gyfer unrhyw adeilad sy'n llai na 10 mlwydd oed neu, lle crewyd y rhannau cyffredin wrth addasu adeilad, lle gwnaed yr addasu lai na 10 mlynedd yn ôl.
H. Os oes gennych forgais, fe allwch gael bod y telerau'n gofyn i chi gael caniatâd eich morgeisiai i wneud cais am grant (neu gyflawni gwaith). Gwnewch yn siŵr eich bod wedi cael unrhyw ganiatad angenrheidiôl cyn cyflwyno cais.
I. Nid yw grant rhannau cyffredin ar gael i ddarpar-brynwyr adeiladau neu fflatiau.
J. Os yw'r gwaith y dymunwch ei gyflawni yn addasiadau neu'n welliannau i rannau cyffredin er lles person anabl sy'n byw mewn fflat yn yr adeilad, dylech wneud cais am grant cyfleusterau i'r anabl (Ffurflen 2).
K. Fel rheôl, ni thelir y grant os ydych chi, neu unrhyw un arall sy'n gweithredu ar eich rhan, yn dechrau ar y gwaith cyn i chi gael cymeradwyaeth ysgrifenedig o'r cais hwn. Gellir gwneud eithriadau lle bo'r gwaith yn ofynnôl er mwyn cydymffurfio a rhai rhybuddion (e.e. y rhai a gyflwynir o dan adrannau 189 neu 190 Deddf Tai 1985). Fel rheôl, fe wrthodir grant os cwblheir y gwaith cyn cymeradwyo'r cais. Nid yw caniatâd cynllunio na chymeradwyaeth o dan y rheôliadau adeiladu yr un peth a chymeradwyo'r grant.
L. Mae pedair rhan i'r ffurflen hon—
Rhan 1
sy'n gofyn am wybodaeth am yr eiddo â'r gwaith sydd i'w gyflawni.
Rhan 2
sy'n gofyn am wybodaeth am y diddordeb sydd gennych yn yr adeilad neu mewn fflat yn yr adeilad, ac am y ffordd y'i meddiennir. Mae dwy ran i'r adran hon, a rhaid i bob un sy'n cyfranogi mewn cais rhannau cyffredin gan denantiaid lenwi'r Adran berthnasôl yn y rhan hon*.
Rhan 3
sydd mewn dwy adran, a rhaid i chi lenwi un yn unig o'r rhain. Mae Adran A yn gofyn am wybodaeth am deulu ac adnoddau ariannôl y tenantiaid. Rhaid i bob un sy'n cyfranogi mewn cais rhannau cyffredin gan denantiaid lenwi Adran A y rhan hon.* Mae Adran B yn gofyn am wybodaeth ariannôl oddi wrth landlordiaid.
Rhan 4
sy'n ei gwneud yn ofynnôl amgau amrywiôl ddogfennau gydâ'r cais. Mae'n ofynnôl hefyd i bob un sy'n cyfranogi lofnodi datganiad ynglyn â'r wybodaeth y mae'n ei rhoi yn y cais.
Gwnewch yn siŵr bod pob un sy'n cyfranogi yn cael copiu dyblyg o Rannau 2 a 3 i'w llenwi.
M. Mae'r cyfeiriadau at nodiadau yn y ffurflenni yn gyfeiriadau at y nodiadau a rifwyd ar ddiwedd y ffurflen.
DYMA'R FFURFLEN GAIS I'W DEFNYDDIO OS YDYCH EISIAU GWNEUD CAIS AM GRANT Ty MEWN AMLDDALIADAETH, I WNEUD GWAITH GWELLA NEU ATGYWEIRIO I Dy MEWN AMLDDALIADAETH, NEU I ADDASU ADEILAD YN Dy MEWN AMLDDALIADAETH. DYLID DEFNYDDIO FFURFLENNI ERAILL OS YDYCH YN GWNEUD CAIS AM GRANT ADNEWYDDU (FFURFLEN 1), GRANT CYFLEUS- TERAU I'R ANABL (FFURFLEN 2), NEU GRANT RHANNAU CYFFREDIN (FFURF- LEN 3). AR ÔL I CHI LENWI'R FFURFLEN HON, DYCHWELWCH HI I'R CYNGOR.
OS YDYCH YN ANSICR YNCHYLCH SUT MAE ATEB UNRHYW UN O'R CWESTIYNAU, CYSYLLTWCH Å:
(Enw, cyfeiriad a rhif ffôn y person i gysylltu ag ef/hi yn y Cyngor)
A. Rhaid trin pob cyfeiriad at “chi” ac “eich” yn y ffurflen gais hon fel cyfeiriad at yr ymgeisydd am grant.
B. Ni fydd eich cais yn ddilys oni lenwch hôll rannau perthnasôl y ffurflen hon ac amgáu'r dogfennau angenrheidiôl a fynnir yn Rhan 4.
C. Fel rheôl, ni thelir y grant os ydych chi, neu unrhyw un arall sy'n gweithredu ar eich rhan, yn dechrau ar y gwaith cyn i chi gael cymeradwyaeth ysgrifenedig o'r cais hwn. Gellir gwneud eithriadau lle bo'r gwaith yn ofynnôl er mwyn cydymffurfio a rhai rhybuddion (e.e. y rhai a gyflwynir o dan adrannau 189 neu 190 Deddf Tai 1985). Fel rheôl, fe wrthodir grant os cwblheir y gwaith cyn cymeradwyo'r cais. Nid yw caniatâd cynllunio na chymeradwyaeth o dan y rheôliadau adeiladu yr un peth a chymeradwyo'r grant.
D. Nid yw grant ty mewn amlddaliadaeth ar gael ar unrhyw eiddo sy'n llai na 10 mlwydd oed, neu a addaswyd lai na 10 mlynedd yn ôl.
E. Os oes gennych forgais, fe allwch gael bod y telerau'n gofyn i chi gael caniatâd eich morgeisiai i wneud cais am grant (neu gyflawni gwaith). Gwnewch yn siŵr eich bod wedi cael y caniatâd angenrheidiôl cyn cyflwyno cais.
F. Mae pedair rhan i'r ffurflen hon—
Rhan 1 — sy'n gofyn am wybodaeth am yr eiddo ac am y gwaith y dymunwch ei gyflawni;
Rhan 2 — sy'n gofyn am wybodaeth am eich diddordeb yn yr eiddo ac am y ffordd y'i meddiennir;
Rhan 3 — sy'n cynnwys cwestiynau ynglyn a rhent etc., ac, yn achos rhai landlordiaid, am adnoddau ariannôl
Rhan 4 — sy'n ei gwneud yn ofynnôl amgau amrywiôl ddogfennau gydâ'r cais. Mae'n ofynnôl i chi hefyd lofnodi datganiad ynglyn â'r wybodaeth a roddwch yn y cais.
G. Mae'r cyfeiriadau at nodiadau yn y ffurflenni yn gyfeiriadau at y nodiadau a rifwyd ar ddiwedd y ffurflen.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed): Mae'r wreiddiol fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys: