PWYSIG DARLLENWCH Y NODIADAU CANLYNOL CYN DECHRAU LLENWI'R FFURFLEN GAIS HON
A. Rhaid trin pob cyfeiriad at “chi” ac “eich” yn y ffurflen gais hon fel cyfeiriad at yr ymgeisydd am grant.
B. Ni fydd eich cais yn ddilys oni lenwch hôll rannau perthnasôl y ffurflen hon ac amgáu'r dogfennau angenrheidiôl a fynnir yn Rhan 4.
C. Fel rheôl, ni thelir y grant os ydych chi, neu unrhyw un arall sy'n gweithredu ar eich rhan, yn dechrau ar y gwaith cyn i chi gael cymeradwyaeth ysgrifenedig o'r cais hwn. Gellir gwneud eithriadau lle bo'r gwaith yn ofynnôl er mwyn cydymffurfio a rhai rhybuddion (e.e. y rhai a gyflwynir o dan adrannau 189 neu 190 Deddf Tai 1985). Fel rheôl, fe wrthodir grant os cwblheir y gwaith cyn cymeradwyo'r cais. Nid yw caniatâd cynllunio na chymeradwyaeth o dan y rheôliadau adeiladu yr un peth a chymeradwyo'r grant.
D. Nid yw grant ty mewn amlddaliadaeth ar gael ar unrhyw eiddo sy'n llai na 10 mlwydd oed, neu a addaswyd lai na 10 mlynedd yn ôl.
E. Os oes gennych forgais, fe allwch gael bod y telerau'n gofyn i chi gael caniatâd eich morgeisiai i wneud cais am grant (neu gyflawni gwaith). Gwnewch yn siŵr eich bod wedi cael y caniatâd angenrheidiôl cyn cyflwyno cais.
F. Mae pedair rhan i'r ffurflen hon—
Rhan 1 — sy'n gofyn am wybodaeth am yr eiddo ac am y gwaith y dymunwch ei gyflawni;
Rhan 2 — sy'n gofyn am wybodaeth am eich diddordeb yn yr eiddo ac am y ffordd y'i meddiennir;
Rhan 3 — sy'n cynnwys cwestiynau ynglyn a rhent etc., ac, yn achos rhai landlordiaid, am adnoddau ariannôl
Rhan 4 — sy'n ei gwneud yn ofynnôl amgau amrywiôl ddogfennau gydâ'r cais. Mae'n ofynnôl i chi hefyd lofnodi datganiad ynglyn â'r wybodaeth a roddwch yn y cais.
G. Mae'r cyfeiriadau at nodiadau yn y ffurflenni yn gyfeiriadau at y nodiadau a rifwyd ar ddiwedd y ffurflen.