Diwygio Rheoliadau Cyffuriau a Reolir (Goruchwylio Rheolaeth a Defnydd) (Cymru) 2008
69. Yn rheoliad 2 o Reoliadau Cyffuriau a Reolir (Goruchwylio Rheolaeth a Defnydd) (Cymru) 2008(1) (dehongli)—
(a)yn lle’r diffiniad o “fferyllydd cofrestredig” (“registered pharmacist”) rhodder—
“(a)ystyr “fferyllydd cofrestredig” (“registered pharmacist”) yw person sydd wedi’i gofrestru’n fferyllydd yn Rhan 1 neu 4 o’r gofrestr a gedwir gan y Cyngor Fferyllol Cyffredinol o dan erthygl 19 o Orchymyn Fferylliaeth 2010;”; a
(b)yn lle’r diffiniad o “fferyllfa gofrestredig” (“registered pharmacy”) rhodder—
“(c)ystyr “fferyllfa gofrestredig” (“registered pharmacy”) yw busnes manwerthu fferyllol yng Nghymru sydd am y tro wedi’i gofnodi yn Rhan 3 o’r gofrestr a gedwir gan y Cyngor Fferyllol Cyffredinol o dan erthygl 19 o Orchymyn Fferylliaeth 2010 (cofrestru mangreoedd);”.