Sut mae deddfwriaeth yn gweithio
Deddfwriaeth Sylfaenol ac Is-ddeddfwriaeth y DU
'Deddfwriaeth sylfaenol' yw'r term a ddefnyddir i ddisgrifio'r prif gyfreithiau sy'n cael eu pasio gan gyrff deddfu y DU, e.e. Deddfau Senedd y DU, Senedd yr Alban, Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Chynulliad Gogledd Iwerddon. Mae hefyd yn cynnwys deddfau a basiwyd gan seneddau hanesyddol, darnau eraill o ddeddfwriaeth sylfaenol ar gyfer Gogledd Iwerddon a Mesurau Eglwys Loegr (deddfwriaeth ar gyfer yr eglwys sefydledig yn Lloegr a basiwyd gan Synod Cyffredinol Eglwys Loegr).
Weithiau, cyfeirir at y mathau hyn o ddeddfwriaeth fel 'statudau' ac mae'r term 'y llyfr statud' yn cyfeirio at yr holl gyfraith statud sydd mewn grym ar hyn o bryd.
Cyfeirir at rai offerynnau deddfwriaethol a wneir gan y Goron a'r Cyfrin Gyngor o dan uchelfraint Brenin (sef 'Gorchmynion Uchelfreiniol') fel Deddfwriaeth Sylfaenol yn ogystal. Gelwir Gorchmynion Uchelfreiniol naill ai'n 'Orchmynion yn y Cyfrin Gyngor' (pan fyddant yn cael eu gwneud gan y Brenin gyda chyngor gan y Cyfrin Gyngor) neu'n 'Orchmynion y Cyfrin Gyngor' (pan fyddant yn cael eu gwneud gan Arglwyddi'r Cyfrin Gyngor heb unrhyw gymeradwyaeth gan y Brenin). Sylwch y gellir gwneud gorchmynion o'r fath o dan bwerau mewn Offerynnau Statudol hefyd yn hytrach nag o dan yr uchelfraint (er enghraifft, y Gorchmynion yn y Cyfrin Gyngor sy'n cynnwys deddfwriaeth ar gyfer Gogledd Iwerddon). Deddfwriaeth ddirprwyedig a wneir gan berson neu gorff o dan awdurdod sydd wedi'i gynnwys mewn deddfwriaeth sylfaenol yw 'is-ddeddfwriaeth'. Fel arfer, caniateir rhoi pwerau i wneud is-ddeddfwriaeth i weinidogion, y Goron neu gyrff cyhoeddus. Er enghraifft, mae Deddf Cyfathrebiadau 2003 yn rhoi pwerau o'r fath i'r Swyddfa Gyfathrebiadau (OFCOM).
Y prif fathau o is-ddeddfwriaeth yw Offerynnau Statudol, Rheolau a Gorchmynion Statudol, Offerynnau Eglwysig.
Mae tri phrif fath o Offeryn Statudol yn y DU: 'Gorchmynion', 'Rheoliadau', 'Rheolau'. Fodd bynnag, nid oes cyfyngiad o ran y disgrifiadau y caniateir eu rhoi i Offerynnau Statudol. Mae'r enghreifftiau eraill yn cynnwys 'Cynllun', 'Cyfarwyddyd' a 'Declarasiwn'. Mae gwahanol fathau o offerynnau yn cyflawni gwahanol swyddogaethau, ond mae'r un grym deddfwriaethol i bob un ohonynt. Cyn 1948, pan ddaeth Deddf Offerynnau Statudol 1946 i rym, gelwid yr offerynnau cyfatebol yn 'Rheolau a Gorchmynion Statudol'.
Gwneir offerynnau eglwysig gan Archesgobion Caergaint a Chaerefrog o dan awdurdod sydd wedi'i gynnwys mewn Mesurau Eglwysig. Weithiau, cyfeirir atynt mewn anodiadau i'r ddeddfwriaeth ddiwygiedig fel 'Offerynnau Archesgobion', a'u diben, bron yn ddieithriad, yw rhoi Mesurau Eglwysig mewn grym.
Offerynnau a wnaed ers 1999 o dan awdurdod sydd wedi'i gynnwys yn Neddfau Senedd yr Alban yw Offerynnau Statudol yr Alban. Fel yn achos Offerynnau Statudol y DU, mae tri phrif fath o Offeryn Statudol yn yr Alban ('Gorchmynion', 'Rheoliadau' a 'Rheolau'). Yn ogystal, yn yr Alban ceir rheolau llys sydd wedi'u cynnwys mewn Offerynnau Statudol o'r enw 'Acts of Sederunt' ac 'Acts of Adjournal'. Gellir cael disgrifiadau eraill sy'n dod o dan Offerynnau Statudol yr Alban.
Offerynnau Statudol sy'n ymwneud yn benodol â Chymru yw Offerynnau Statudol Cymru. Caniateir eu gwneud o dan awdurdod sydd wedi'i gynnwys yn Neddfau Senedd y DU, Mesurau Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu Ddeddfau Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Cyhoeddir Offerynnau Statudol Cymru yn y Gymraeg a'r Saesneg.
Mae Rheolau Statudol Gogledd Iwerddon yn gyfwerth ag Offerynnau Statudol ar gyfer Gogledd Iwerddon. Caniateir eu gwneud o dan awdurdod sydd wedi'i gynnwys yn Neddfau Cynulliad Gogledd Iwerddon. Caniateir eu gwneud yn ogystal o dan awdurdod sydd wedi'i gynnwys yn Neddfau Senedd y DU neu yn y Gorchmynion yn y Cyfrin Gyngor sy'n cynnwys y ddeddfwriaeth sylfaenol ar gyfer Gogledd Iwerddon yn ystod cyfnodau o reolaeth uniongyrchol gan lywodraeth y DU (ac sy'n parhau i gael eu defnyddio ar gyfer materion nad ydynt wedi cael eu datganoli i'r Cynulliad). Er yr enw, mae tri phrif fath o Reolau Statudol, ac maent yr un rhai â'r prif fathau o Offerynnau Statudol ('Gorchmynion', 'Rheoliadau' a 'Rheolau'). Gellir cael disgrifiadau eraill o Reolau Statudol hefyd.
Is-ddeddfau
Deddfwriaeth sydd wedi ei dirprwyo i gyrff megis awdurdodau lleol, gweithredwyr systemau trafnidiaeth neu weithredwyr cyfleustodau cyhoeddus yw hon. Fel arfer, mae is-ddeddfau'n gymwys mewn ardal leol benodol yn unig neu i weithrediadau corff cyhoeddus penodol yn unig. Nid yw legislation.gov.uk yn cyhoeddi is-ddeddfau.
Cyfraith Achosion
Cyfraith achosion yw'r set o ddyfarniadau o achosion llys sy'n gosod cynsail o ran y ffordd y dehonglwyd ac y cymhwyswyd y gyfraith mewn achosion penodol. Nid yw cyfraith achosion yn cael ei chadw ar legislation.gov.uk.
Cyfeirio a rhifo
Mae deddfwriaeth sylfaenol (e.e. Deddfau) yn cael ei rhifo'n gronolegol o fewn y flwyddyn daw'n ddeddf. Mae'r rhifo'n ailgychwyn bob blwyddyn. Ar gyfer Deddfau Cyffredinol a Chyhoeddus y DU, cyfeirir at y rhif fel 'Pennod'. Felly, fel arfer cyfeirir at ddeddfau yn ôl eu math, blwyddyn a rhif pennod. Er enghraifft, cyfeirir at Ddeddf Diogelu Data 2018 fel '2018 p.12' ('2018 c.12' yn Saesneg'). Mae Deddfau Cynulliad Gogledd Iwerddon hefyd yn defnyddio rhifau pennod, ond maent yn cael eu rhifo ar wahân, felly cyfeirir atynt ar y wefan hon fel '2018 c.3 (N.I.)'. Mae gan Ddeddfau Senedd yr Alban eu system rifo eu hunain sy'n gweithio yn yr un ffordd. Cyfeirir at y rhif fel 'ASP' (sef blaenlythrennau 'Act of the Scottish Parliament'). Er enghraifft, cyfeirir at Ddeddf Anifeiliaid Gwyllt mewn Syrcasau Teithiol (yr Alban) 2018 fel '2018 asp.3'. Mae Deddfau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cael eu rhifo gan ddefnyddio 'dccc' (Deddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru) ac 'anaw' (Act of the National Assembly for Wales) o flaen y rhif.
Caiff Offerynnau Statudol y DU eu rhifo yn ddilyniannol bob blwyddyn. Caiff Offerynnau Statudol Cymru a'r Gorchmynion yn y Cyfrin Gyngor a wneir o dan Ddeddfau Gogledd Iwerddon eu cynnwys yn yr un dilyniant rhifau ag Offerynnau Statudol y DU. O fewn y dilyniant hwnnw, defnyddir rhif atodol mewn cromfachau ar ôl y rhif Offeryn Statudol (e.e. '(Cy. 22)'/'(W. 22)', (N.I. 15), ac ati) i'w dynodi. Mae Offerynnau Statudol gan y DU sy'n berthnasol i'r Alban yn unig wedi'u cynnwys yn nilyniant rhifo y DU hefyd. Dynodir y rhain gan rif atodol (e.e. '(S. 27)'). Ni ddylid cymysgu rhwng y rhain ac Offerynnau Statudol yr Alban - sydd â'u dilyniant rhifo 'SSI' eu hunain. Mae hyn yn wir hefyd am Reolau Statudol Gogledd Iwerddon - sydd â'u dilyniant rhifo 'SR' eu hunain ar wahân i ddilyniant 'SI' y DU.
Mae manylion llawn y ffordd rydym yn cyfeirio at ddeddfwriaeth ar legislation.gov.uk i'w cael yn ein Canllaw i Ddeddfwriaeth Ddiwygiedig.
Seneddau ac awdurdodaethau
Senedd y DU
'Deddfau Cyffredinol Cyhoeddus' yw mwyafrif y Deddfau sy'n cael eu pasio gan Senedd y DU. Deddfau sy'n ymdrin â materion sy'n ymwneud â budd cyffredinol y cyhoedd yw'r rhain. Mae nifer fechan o Ddeddfau yn 'Ddeddfau Preifat'. Caiff y rhain eu hisddosbarthu ymhellach yn 'Ddeddfau Lleol' (sy'n ymwneud â materion budd lleol) a 'Deddfau Personol' (sy'n berthnasol i bersonau penodol, ac sy'n brin iawn y dyddiau hyn). Mae'r ddau ddosbarth hyn o Ddeddfau yn cael eu rhifo'n wahanol i Ddeddfau Cyffredinol Cyhoeddus.
Mae Deddfau Cyhoeddus a Chyffredinol sy'n cael eu pasio gan Senedd y DU yn darparu cyfreithiau ar gyfer y DU gyfan (Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon). Ar wahân i hyn, mae gan Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon bwerau i wneud deddfwriaeth ar gyfer eu hawdurdodaeth eu hunain yn unig.
Cewch fwy o wybodaeth ynghylch senedd y DU a phroses ddeddfwriaethol y DU yn www.parliament.uk.
Senedd yr Alban
Sefydlwyd Senedd bresennol yr Alban ym 1999 gan Ddeddf yr Alban 1998 i drafod materion a deddfu ar gyfer yr Alban. Mae gan Senedd yr Alban y pŵer i ddeddfu ar ystod o faterion a elwir yn faterion datganoledig. Mae rhai materion yn parhau i fod yn gyfrifoldeb i Senedd y DU yn unig. Gelwir y rhan yn faterion a gedwir yn ôl. Trosglwyddir rhagor o bwerau i Senedd yr Alban drwy Ddeddf yr Alban 2016 mewn meysydd megis trethiant, lles ac etholiadau. Mae Your Scottish Parliament yn daflen a gyhoeddwyd gan Senedd yr Alban sy'n esbonio sut mae Senedd yr Alban yn deddfu.
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw'r corff sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i gynrychioli buddiannau Cymru a'i phobl. Mae'r Cynulliad yn deddfu ar gyfer Cymru mewn meysydd pwnc penodol. Y tu allan i'r meysydd hyn, mae gwahanol gyrff (megis awdurdodau lleol neu Lywodraeth y DU) yn gwneud cyfreithiau sy’n gymwys i Gymru.
Cyhoeddir Deddfau Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Mesurau Cynulliad Cenedlaethol Cymru a wnaed rhwng 2008 a 2011 yn y Gymraeg a'r Saesneg.
Cewch fwy o wybodaeth ynghylch Senedd Cymru a'r broses ddeddfwriaethol yng Nghymru yn llyw.cymru a www.senedd.cymru.
Cynulliad Gogledd Iwerddon
Sefydlwyd Cynulliad Gogledd Iwerddon o ganlyniad i Gytundeb Belffast a wnaed ar 10 Ebrill 1998.
Rhoddwyd grym cyfreithiol i'r Cytundeb yn ddiweddarach drwy Ddeddf Gogledd Iwerddon 1998. Arweiniodd at greu cyfres o gyrff cydberthnasol, yn neilltuol Cynulliad Gogledd Iwerddon, sydd, pan fo'n gweithredu, ag awdurdod gweithredol a deddfwriaethol lawn am yr holl faterion sy'n gyfrifoldeb i Adrannau Llywodraeth Gogledd Iwerddon ac a elwir yn faterion trosglwyddedig ('transferred matters'). Mae materion eithriedig ('excepted matters') yn parhau'n gyfrifoldeb i Senedd San Steffan. San Steffan sy'n ymdrin â materion a gedwir yn ôl hefyd, oni bai y bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn penderfynu y dylid datganoli rhai o'r rhain i'r Cynulliad. Diffinnir materion eithriedig a materion a gedwir yn ôl yn yr Atodlenni i Ddeddf Gogledd Iwerddon.
Sut y mae Seneddau wedi newid a chreu gwahanol fathau o ddeddfwriaeth
Y DU
Mae llawer o Ddeddfau a wnaed gan seneddau'r gwledydd neilltuol a oedd yn cydfodoli fel rhan o Ynysoedd Prydain cyn ffurfio Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon ym 1801 yn parhau mewn grym hyd heddiw. Mae'r rhain yn Ddeddfau a wnaed gan:
- Senedd Lloegr (a oedd yn cwmpasu Cymru) o 1267 hyd at 1706
- Senedd yr Alban o 1424 hyd at 1707
- Senedd Prydain Fawr (Cymru, Lloegr a'r Alban) o 1707 hyd at 1800.
- Senedd Iwerddon o 1495 hyd at 1800.
Yr Alban
Mae rhai Deddfau a wnaed gan Hen Senedd yr Alban rhwng 1424 a 1707 yn parhau mewn grym. Ar y wefan hon, cyfeirir at y rhain fel 'Deddfau Hen Senedd yr Alban' ac yna cyfeirir at ddeddfau a basiwyd gan Senedd bresennol yr Alban fel 'Deddfau Senedd yr Alban'.
Ceir hanes Senedd yr Alban yn fanwl yn yr adran Hanes ar wefan Senedd yr Alban.
Cymru
Roedd Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn rhoi pŵer datganoledig i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, sy'n eistedd yng Nghaerdydd, wneud deddfwriaeth sylfaenol mewn perthynas â materion a bennir yn y Ddeddf. I ddechrau, roedd y ddeddfwriaeth hon ar ffurf 'Mesurau' (ond gweler 'Deddfau Cynulliad Cenedlaethol Cymru' isod). Sefydlwyd y Cynulliad yn flaenorol gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998, gyda phwerau i ddeddfu drwy is-ddeddfwriaeth ar ffurf Offerynnau Statudol.
Yn dilyn refferendwm ym mis Mawrth 2011, drwy ddarpariaethau yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006, rhoddwyd y pŵer i Gynulliad Cenedlaethol Cymru wneud 'Deddfau' mewn perthynas â meysydd pwnc a bennir yn y Ddeddf honno. Yn wahanol i'r Mesurau cynharach, gellir pasio Deddfau Cynulliad Cenedlaethol Cymru heb ofyn am gymeradwyaeth Llywodraeth neu Senedd y DU yn gyntaf.
Gogledd Iwerddon
O ganlyniad i hanes cymhleth y sefyllfa wleidyddol yng Ngogledd Iwerddon ers 1921, mae nifer o newidiadau wedi digwydd o ran y ffordd y gwneir deddfwriaeth sylfaenol. Y mathau o ddeddfwriaeth sylfaenol sy'n dal i fodoli ar gyfer Gogledd Iwerddon yw: Deddfau Senedd Gogledd Iwerddon (1921 - 1972), Mesurau Cynulliad Gogledd Iwerddon (1974 yn unig), Deddfau Cynulliad Gogledd Iwerddon (2000 - 2002 a 2007 hyd heddiw), Gorchmynion yn y Cyfrin Gyngor a wnaed o dan Ddeddfau Gogledd Iwerddon (1972 hyd heddiw). Er bod y categori olaf hwn o ddeddfwriaeth ar ffurf offerynnau statudol y DU (sy'n is-ddeddfwriaeth), dyma, i bob pwrpas, y ddeddfwriaeth sylfaenol ar gyfer Gogledd Iwerddon yn ystod cyfnodau o 'reolaeth uniongyrchol' gan lywodraeth y DU. Parheir i ddefnyddio Gorchmynion yn y Cyfrin Gyngor i ddeddfu ar gyfer Gogledd Iwerddon mewn perthynas â materion nad ydynt wedi cael eu datganoli i'r Cynulliad. Ewch i wefan Cynulliad Gogledd Iwerddon i gael gwybod mwy ynghylch hanes Cynulliad Gogledd Iwerddon a sut mae'r cynulliad yn gweithredu.
Sut y gall deddfwriaeth rychwantu a bod yn gymwys i wahanol rannau o'r DU
Defnyddir y term 'Rhychwant Ddaearyddol' i ddisgrifio'r ardal ddaearyddol yn y DU y mae darn o ddeddfwriaeth (neu ran/adran o ddarn o ddeddfwriaeth) yn gymwys iddi.
Pan ddefnyddir y term 'rhychwant' mewn deddfwriaeth, mae'n cyfeirio at yr awdurdodaeth(au) y mae'n gyfraith ar ei chyfer/eu cyfer. Felly, gall y rhychwant fod y DU gyfan, neu un neu ragor o'r tair awdurdodaeth yn y DU: Cymru a Lloegr; yr Alban; a Gogledd Iwerddon. Sylwch nad yw Cymru a Lloegr yn awdurdodaethau ar wahân. Ar hyn o bryd, defnyddir y term 'rhychwant' yn fwy bras ar legislation.gov.uk at ddibenion chwilio, i helpu defnyddwyr i ddod o hyd i ddeddfwriaeth sy'n berthnasol i bob un o bedair rhan ddaearyddol y DU. Am y rheswm hwn, gall ddynodi cymhwysiad tiriogaethol cyfyngedig o fewn rhychwant dechnegol ehangach. Er enghraifft, efallai mai rhychwant y ddeddfwriaeth yw ' Cymru a Lloegr' ond ei bod yn gymwys i Gymru yn unig. Maes o law, bydd newidiadau'n cael eu gwneud i'r ffordd y cyflwynir gwybodaeth am 'rychwant' ar legislation.gov.uk er mwyn dangos gwybodaeth ynghylch rhychwant a chymhwysiad tiriogaethol cyfyngedig o fewn rhychwant ehangach ar wahân i'w gilydd.
Ar hyn o bryd, cynrychiolir pob 'rhychwant' gan un o'r canlynol, neu gyfuniad o'r canlynol: Cymru (W), Lloegr (E), yr Alban (S) a Gogledd Iwerddon (NI). Felly, rhychwant y DU yw E+W+S+NI a rhychwant Prydain Fawr yw E+W+S. Wrth edrych ar ddeddfwriaeth ddiwygiedig, gellir dangos yr wybodaeth hon ynddi drwy ddewis 'dangos rhychwant ddaearyddol' yn y golofn ar y chwith.
Rhoddir ei rychwant ei hun i bob fersiwn o bob darpariaeth (e.e. adran o ddeddf) a phob rhaniad lefel uwch mewn darn o ddeddfwriaeth (lefel deddfwriaeth gyfan neu lefel rhan o ddeddfwriaeth). Yn achos rhaniadau lefel uwch (ar lefel deddfwriaeth gyfan neu lefel rhan o ddeddfwriaeth), bydd y rhychwant wedi'i osod yn ddigon eang i gynnwys rhychwant pob un o'r darpariaethau (e.e. adrannau) ynddi.
Mewn nifer fach o achosion, efallai y bydd sawl fersiwn wedi'i chreu i gynrychioli gwahanol rychwantau daearyddol. Bydd dwy fersiwn neu ragor o ddarpariaeth (neu raniad deddfwriaeth o lefel arall) yn cael eu creu pan fydd amnewidiad testun (neu'r ddarpariaeth gyfan ac ati) yn effeithio ar ran yn unig o rychwant ddaearyddol wreiddiol y ddarpariaeth. Mae fersiynau o'r fath yn dwyn yr un dyddiad cychwyn ac yn parhau i redeg ochr yn ochr â'i gilydd.
Er enghraifft, os ceir amnewidiad testun mewn darpariaeth sy'n rhychwantu'r DU gyfan, ond mae'r amnewidiad yn effeithio ar Gymru yn unig, ceir dwy fersiwn o ganlyniad i hynny: un ar gyfer y ddarpariaeth heb ei diwygio sy'n berthnasol i Loegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon; ac un ar gyfer y ddarpariaeth ddiwygiedig sy'n berthnasol i Gymru.
Dogfennau cysylltiedig a gyhoeddir o fewn deddfwriaeth
Gellir cyhoeddi amrywiaeth o ddogfennau ochr yn ochr â deddfwriaeth. Ceir esboniad o'r dogfennau mwyaf cyffredin isod:
Nodyn/Nodiadau Esboniadol
Dogfennau i gyd-fynd â deddfwriaeth sylfaenol (e.e. Deddf neu Fesur) yw Nodiadau Esboniadol fel arfer. Caiff y testun ei greu gan yr adran o'r llywodraeth sy'n gyfrifol am bwnc y Ddeddf (neu'r Mesur) i esbonio beth y mae'r Ddeddf yn ceisio'i gyflawni ac i'w gwneud yn haws ei deall i ddarllenwyr nad oes ganddynt gymhwyster cyfreithiol. Cyflwynwyd Nodiadau Esboniadol ym 1999 ac maent yn dod law yn llaw â phob Deddf Gyhoeddus, ac eithrio Deddfau Neilltuo Arian, Cronfa Gyfunol, Cyllid a Chydgrynhoi.
Mae testun a elwir yn Nodyn Esboniadol hefyd yn dilyn testun deddfwriaethol Offerynnau Statudol, Offerynnau Statudol yr Alban neu Reolau Statudol Gogledd Iwerddon. Yn achos Offerynnau Statudol Cymru, mae'r Nodyn Esboniadol yn dod cyn corff yr Offeryn mewn fformat print ond yn dod ar ôl y testun deddfwriaethol mewn fformat html. Diben y Nodyn Esboniadol yw rhoi datganiad cryno ac eglur o sylwedd yr offeryn. Mae'n bosib y bydd dogfen esboniadol arall i gyd-fynd â'r offeryn ei hun hefyd. Ar gyfer is-ddeddfwriaeth, megis Offerynnau Statudol, yr enw ar y ddogfen hon yw Memorandwm Esboniadol, neu Nodyn Gweithredol ('Executive Note') / Nodyn Polisi ('Policy Note') ar gyfer Offerynnau Statudol yr Alban.
Memorandwm Esboniadol
Mae Memorandwm Esboniadol yn rhoi datganiad byr o ddiben Offeryn Statudol neu Reolau Statudol Gogledd Iwerddon ac yn darparu gwybodaeth ynghylch ei amcan o ran polisi a'i oblygiadau o ran polisi. Ei nod yw gwneud yr Offerynnau neu Reolau Statudol yn ddealladwy i ddarllenwyr nad oes ganddynt gymhwyster cyfreithiol. Mae Memorandwm Esboniadol yn dod law yn llaw ag unrhyw Offeryn Statudol neu Offeryn Statudol Drafft a gyflynwyd gerbron y Senedd o fis Mehefin 2004 ymlaen ac unrhyw Reol Statudol a gyflwynwyd gerbron Cynulliad Gogledd Iwerddon (neu Senedd y DU pan oedd Cynulliad Gogledd Iwerddon wedi'i atal dros dro) o fis Mehefin 2004 ymlaen.
Nodyn Polisi ar gyfer Offerynnau Statudol yr Alban
Mae Nodiadau Polisi yn rhoi datganiad byr o ddiben Offerynnau Statudol yr Alban ac yn darparu gwybodaeth ynghylch eu hamcan o ran polisi a'u goblygiadau o ran polisi. Eu nod yw gwneud Offerynnau Statudol yr Alban yn ddealladwy i ddarllenwyr nad oes ganddynt gymhwyster cyfreithiol. Maent yn dod law yn llaw â holl Offerynnau Statudol yr Alban neu Offerynnau Statudol Drafft yr Alban a gyflwynwyd gerbron Senedd yr Alban ers mis Gorffennaf 2005 ymlaen. Sylwch mai Nodyn Gweithredol oedd yr enw ar y rhain yn wreiddiol, ond mai Nodyn Polisi yw'r enw ers mis Gorffennaf 2012.
Asesiad o Effaith
Yn gyffredinol, bydd Asesiadau o Effaith yn dod law yn llaw â phob ymyriad gan Lywodraeth y DU sydd o natur reoliadol ac yn effeithio ar y sector preifat, sefydliadau cymdeithas sifil a gwasanaethau cyhoeddus. Maent yn gymwys boed y rheoliad yn tarddu o ffynhonnell ddomestig neu o ffynhonnell ryngwladol a gallant ddod law yn llaw â deddfwriaeth sylfaenol (Deddfau ac ati) ac is-ddeddfwriaeth (Offerynnau Statudol). Mae Asesiad o Effaith yn caniatáu i rai sydd â diddordeb yn y maes polisi ddeall: pam mae'r llywodraeth yn cynnig y dylai ymyrryd; y prif opsiynau mae'r llywodraeth yn eu hystyried, a pha un sy'n cael ei ffafrio; sut ac i ba raddau y gallai polisïau newydd effeithio arnynt; a buddion a chostau bras mesurau arfaethedig.
Cywiriadau
Os yw darn o ddeddfwriaeth yn cynnwys gwallau sylweddol, gwneir darn newydd o ddeddfwriaeth er mwyn cywiro'r gwallau hynny. Os yw'r gwallau'n rhai mân ac nad ydynt yn newid ystyr y ddeddfwriaeth, ond y dylid eu cywiro rhag camarwain darllenwyr - er enghraifft, croes-gyfeiriad anghywir - bydd nodyn cywiro yn cael ei gynhyrchu ac yn cael ei gyhoeddi ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth. Bydd y cywiriad yn cael ei wneud ar y copi ar y wefan, ond ni fydd y PDF print gwreiddiol yn cael ei newid. Rydym yn gwneud y cywiriadau yn y cyfrolau argraffiad blynyddol rhwymedig o ddeddfwriaeth a gynhyrchir.
Sut y daw deddfwriaeth i rym a sut y caiff ei diwygio
Mae Deddf Seneddol yn creu cyfraith newydd neu'n newid cyfraith sy'n bodoli. Bil sydd wedi cael ei gymeradwyo gan Dŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi ac wedi cael Cydsyniad Brenhinol gan y Brenin/Frenhines yw Deddf. Mae'r holl Ddeddfau Seneddol gyda'i gilydd yn ffurfio'r hyn a elwir yn Gyfraith Statud yn y DU.
Gall Deddf ddod i rym ar unwaith, ar ddyddiad penodol yn y dyfodol, neu mewn camau. Os ydych eisiau gwybod pa bryd y bydd Deddf yn dod i rym, gallwch edrych yn yr adran o'r Ddeddf ei hun sy'n dwyn y teitl 'Cychwyn' - mae'r adran hon ymhlith yr adrannau olaf un mewn Deddf.
Weithiau, ni roddir dyddiad penodol a gadewir y penderfyniad ynghylch amseru i'r Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer yr adran berthnasol o'r llywodraeth. Mae'n bosib i ddeddf ddod i rym, felly, drwy Offeryn Statudol o'r enw 'Gorchymyn Cychwyn' neu 'Reoliad Cychwyn'.
Bydd newidiadau i'r gyfraith yn y dyfodol yn digwydd drwy basio Deddf arall neu ddeddfwriaeth ddirprwyedig (e.e. is-ddeddfwriaeth, megis Offerynnau Statudol). Mae'n bosib i'r newid, neu ddiwygiad, ei hun ddod i rym ar unwaith, ar ddyddiad penodol yn y dyfodol, neu mewn camau. Mae hefyd yn bosib diddymu Deddf fel na fydd ei darpariaethau mewn grym wedi hynny.
Ar legislation.gov.uk, rydym yn darparu manylion ynghylch senarios cymhleth o ran pa bryd y daw cyfraith i rym ar ffurf anodiadau 'I-note' ar ein fersiynau diwygiedig. Sylwch nad yw ein fersiynau 'Fel y'i deddfwyd' yn darparu unrhyw wybodaeth ynghylch pryd y daw i rym/cychwyn.
Pa ddeddfwriaeth a gedwir ar legislation.gov.uk
Mae legislation.gov.uk yn cynnwys y rhan fwyaf (ond nid y cyfan) o fathau o ddeddfwriaeth a’r dogfennau esboniadol sydd i gyd-fynd â nhw. Am ragor o fanylion ar pa mor gyflawn yw ein set ddata ar gyfer pob math, cliciwch ar y math o ddeddfwriaeth o’r dudalen Pori drwy Ddeddfwriaeth a gweld y bar gyda chod lliw ar gyfer pob blwyddyn. Mae hefyd yn cynnwys deddfwriaeth sy’n deillio o’r Undeb Ewropeaidd, yn cynnwys cywiriadau (slipiau cywiro i ddeddfwriaeth yr UE) a Chyfarwyddebau’r UE a gyhoeddwyd cyn ymadawiad yr UE. Gweler Deddfwriaeth yr UE a Chyfraith y DU am ragor o wybodaeth.
- Mae’r holl ddeddfwriaethau cynradd o 1988 hyd heddiw ar gael ar y safle hwn (gweler ‘Pam nad yw’r ddeddfwriaeth yr wyf yn chwilio amdani ar y safle hwn?’ am fanylion unrhyw ddeddfwriaeth y gwyddom amdani nad ydym yn ei chynnwys). Mae’r rhan fwyaf o ddeddfwriaethau sylfaenol a sefydlwyd cyn 1988 sy’n dal i fod mewn grym ar gael yma, yn ogystal â’r rhan fwyaf o Ddeddfau lleol, preifat a phersonol. Mewn rhai achosion dim ond y fersiwn wreiddiol a gyhoeddwyd (fel y’i deddfwyd) sydd gennym a dim fersiwn ddiwygiedig. Mae hyn yn digwydd os cafodd y ddeddfwriaeth ei diddymu cyn 1991 ac felly nad oedd wedi ei chynnwys yn y set ddata ddiwygiedig pan dynnwyd hi o’r Statudau Mewn Grym. Mewn achosion eraill efallai mai dim ond y fersiwn ddiwygiedig sydd gennym os nad yw’r fersiwn wreiddiol (fel y’i deddfwyd) ar gael ar ffurf y gellir ei gyhoeddi ar y we.
- Bob deddfwriaeth eilaidd ers 1987, yn cynnwys Offerynnau Statudol y Deyrnas Unedig, Offerynnau Statudol yr Alban a Rheolau Statudol Gogledd Iwerddon. Yn ogystal, rydym yn cynnal detholiad o ddeddfwriaeth eilaidd o 1948-1986, a rhai Rheolau a Gorchmynion Statudol cyn-1948.
- Deddfwriaeth sy’n deillio o’r UE, fel y nodir yn Atodlen 5 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (c. 16) ynghyd â chywiriadau (slipiau cywiro i ddeddfwriaeth yr UE) a Chyfarwyddebau’r UE a gyhoeddir hyd at ymadawiad yr UE ar 31 Hydref 2019. Gweler Deddfwriaeth yr UE a Chyfraith y DU am ragor o wybodaeth.
Deddfwriaeth ddiwygiedig ar legislation.gov.uk
Mae’r rhan fwyaf o fathau o ddeddfwriaeth sylfaenol (e.e. Deddfau, Mesurau, Gorchmynion Gogledd Iwerddon yn y Cyngor) ar gael ar ffurf ‘ddiwygiedig’, yn ogystal â deddfwriaeth eilaidd benodol, a deddfwriaeth sy’n deillio o’r UE:
- Deddfau Cyffredinol Cyhoeddus Senedd y Deyrnas Unedig (1801 hyd heddiw)
- Deddfau Senedd Prydain Fawr (1707 – 1800)
- Deddfau Senedd Lloegr (1267 – 1706)
- Deddfau Hen Senedd yr Alban (1424 – 1707)
- Deddfau Senedd yr Alban (1999 hyd heddiw)
- Deddfau Cynulliad Cenedlaethol Cymru (2012 hyd heddiw)
- Mesurau Cynulliad Cenedlaethol Cymru (2008 - 2011)
- Deddfau Senedd Iwerddon (1495 – 1800)
- Deddfau Senedd Gogledd Iwerddon (1921 – 1972)
- Mesurau Cynulliad Gogledd Iwerddon (1974)
- Gorchmynion yn y Cyfrin Gyngor a wnaed o dan Ddeddfau Gogledd Iwerddon (1972 hyd heddiw) (i bob pwrpas, y ddeddfwriaeth sylfaenol ar gyfer Gogledd Iwerddon o dan reolaeth uniongyrchol, ond ar ffurf Offerynnau Statudol)
- Deddfau Cynulliad Gogledd Iwerddon (2000 - 2002 a 2007 hyd heddiw)
- Mesurau Eglwys Loegr (1920 hyd heddiw)
- Offerynnau Statudol y DU (2018 hyd heddiw)
- Offerynnau Statudol yr Alban (2018 hyd heddiw)
- Offerynnau Statudol Cymru (2018 hyd heddiw)
- Rheolau Statudol Gogledd Iwerddon (2018 hyd heddiw)
- Rheoliadau Ewropeaidd (1958 hyd at 31 Hydref 2019)
- Penderfyniadau Ewropeaidd (1953 hyd at 31 Hydref 2019)
- Cyfarwyddebau Ewropeaidd (1959 hyd at 31 Hydref 2019)
Cedwir fersiynau diwygiedig o rai darnau o is-ddeddfwriaeth (e.e. Offerynnau Statudol) ar legislation.gov.uk hefyd. Mae rhagor o is-ddeddfwriaeth yn cael ei diwygio fel rhan o'n gwaith a bydd yn cael ei chyhoeddi pan fydd ar gael.
Pan ddywedwn 'diwygiedig' yr hyn a olygwn yw bod diwygiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi eu cynnwys yn y testun. Mae'r rhan fwyaf o'r is-ddeddfwriaeth heb ei diwygio ar hyn o bryd ac mae'n cael ei chadw ar y ffurf y'i gwnaed yn wreiddiol.
Daeth testun y cynnwys sylfaenol diwygiedig o'r cyhoeddiad Statudau mewn Grym ('Statutes in Force'/SIF) yn bennaf. Argraffiad swyddogol, 'dalen rydd' o'r llyfr statud diwygiedig wedi'i drefnu yn ôl pwnc oedd SIF. Byddai SIF yn cael ei ddiweddaru'n rheolaidd ag effeithiau deddfwriaeth newydd a wnaed hyd at 1 Chwefror 1991. Daeth dyddiad yr adolygiad terfynol hwn yn 'ddyddiad sylfaen' ar gyfer symud cynnwys diwygiedig ymlaen ar y we. Yn gyffredinol, nid oedd SIF yn cynnwys rhai categorïau o ddeddfwriaeth, megis Deddfau Diwygio Cyfraith Statud, Deddfau Cyfraith Statud (Diddymiadau) a Deddfau a oedd yn rhychwantu Gogledd Iwerddon yn unig. (Am ragor o fanylion, gweler y Canllaw i Ddeddfwriaeth Ddiwygiedig ar legislation.gov.uk ar dudalen 6). Y brif ffynhonnell arall ar gyfer deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar legislation.gov.uk yw 'The Northern Ireland Statutes Revised, sef y fersiwn ddiwygiedig swyddogol o ddeddfwriaeth sylfaenol Gogledd Iwerddon. Mae cynnwys y cyfrolau a rifwyd a'u hatodiadau am y cyfnod o 1921 ymlaen wedi cael ei osod ar legislation.gov.uk fel ag yr oedd ar 31 Rhagfyr 2005.
Gweler Deddfwriaeth yr UE a Chyfraith y DU am ragor o wybodaeth ynghylch deddfwriaeth ddiwygiedig sy'n tarddu o'r UE.
Ein harferion golygyddol a'n hamserlenni
Mae diwygio deddfwriaeth ar legislation.gov.uk yn golygu newid testun y ddeddfwriaeth lle bo hynny'n briodol ac ychwanegu anodiadau sy'n cynnwys gwybodaeth ynghylch effeithiau ar ddeddfwriaeth, neu wybodaeth olygyddol arall.
Ein nod yw cyflwyno testun diwygiedig deddfwriaeth yn eglur a chywir heb ddehongliad na sylw, gan roi awdurdod i newidiadau i'r testun, a chofnodi unrhyw effeithiau eraill sy'n gwneud unrhyw fath o wahaniaeth i ystyr, rhychwant neu gymhwysiad y ddeddfwriaeth. Ond fel arall, ceisiwn adael i'r ddeddfwriaeth siarad drosti'i hun yn union fel y mae'r ddeddfwrfa wedi ei llunio.
Pan fyddwn yn cael darn newydd o ddeddfwriaeth, Deddf newydd ei chyflwyno er enghraifft, byddwn yn ei ddadansoddi er mwyn nodi ei holl effeithiau ar ddarnau eraill o ddeddfwriaeth. Diwygiadau i destun darnau eraill o ddeddfwriaeth yw'r rhain yn bennaf. Ond ceir hefyd lawer o effeithiau nad ydynt yn newid y testun, megis pa bryd y bydd y ddeddfwriaeth arall yn cael ei 'chymhwyso' neu ei 'haddasu'. Byddwn hefyd yn nodi gwybodaeth arall ynghylch deddfwriaeth sylfaenol newydd, megis pa bryd y daw i rym a'i rhychwant ddaearyddol neu gymhwysiad tiriogaethol. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth hon wrth sefydlu'r cyfleusterau llinell amser a rhychwant ar gyfer y ddeddfwriaeth a'i darpariaethau.
Cyhoeddir fersiwn 'fel y'i deddfwyd' o'r ddeddfwriaeth ar legislation.gov.uk ychydig wedi iddi ddod yn ddeddf. Wedi inni gofnodi'r holl effeithiau ar ddarnau eraill o ddeddfwriaeth, ac ychwanegu anodiadau sydd eu hangen ar y cam hwn ynghylch cychwyn neu rychwant, byddwn yn cyhoeddi fersiwn 'Diweddaraf sydd ar Gael (Diwygiedig)'.
Wedi inni ddadansoddi'r ddeddfwriaeth, byddwn yn gosod yr wybodaeth a ddetholwyd ynghylch ei heffeithiau ar ddarnau eraill o ddeddfwriaeth ar ffurf tabl ac yn ei hychwanegu at 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Byddwn yn ceisio gwneud hyn cyn gynted â phosib, ond gall gymryd hyd at chwe wythnos os yw'r ddogfen yn un swmpus neu os oes cryn dipyn o ddeddfwriaeth newydd. Os oes gan y ddeddfwriaeth sylfaenol ar legislation.gov.uk unrhyw effeithiau nad ydynt wedi'u cymhwyso, byddwn yn tynnu sylw atynt yn y faner 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar y wefan. Os cliciwch ar y faner, fe welwch y newidiadau sy'n weddill.
Byddwn yn ceisio gwneud diwygiadau newydd i destun deddfwriaeth cyn pen tri mis i'r dyddiad y daeth y diwygiadau hynny i rym.
Mae manylion llawn y ffordd rydym yn golygu deddfwriaeth ac yn gwneud newidiadau i'w cael yn ein Canllaw i Ddeddfwriaeth Ddiwygiedig.
Deddfwriaeth sy’n deillio o’r UE
Mae Atodlen 5 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (c. 16) yn gofyn i ni wneud trefniadau i gyhoeddi Rheoliadau’r UE, Penderfyniadau’r UE, a deddfwriaeth drydyddol yr UE a gyhoeddir ar EUR-Lex ar ymadawiad yr UE.
Mae'n mynnu hefyd bod pedwar cytundeb rhyngwladol yn cael eu cyhoeddi – Cytundeb yr Undeb Ewropeaidd, Cytundeb ar Weithrediad yr Undeb Ewropeaidd, Cytundeb Euratom a'r cytundeb AEE. Mae'r rhain wedi'u cyhoeddi bellach ar legislation.gov.uk.
Mae Deddf yr UE (Ymadael) 2018 hefyd yn rhoi awdurdod i gyhoeddi dogfennau deddfwriaeth eraill a all fod yn ddefnyddiol, ac felly mae legislation.gov.uk hefyd yn cynnwys cywiriadau (slipiau cywiro i ddeddfwriaeth yr UE) a Chyfarwyddiaethau’r UE fel y cyhoeddir ar EUR-Lex. Bu i ni gadw a chyhoeddi’r rhain hyd at ymadawiad yr UE, ar 31 Hydref 2019.
Mae Archif Gwe Ymadawiad yr UE yn cynnwys detholiad ehangach o ddogfennau, yn cynnwys Cyfamodau, dogfennau deddfwriaethol, Cyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd, cyfraith achosion a deunyddiau atodol eraill, a dyfarniadau Llys Cyfiawnder Ewrop yn Saesneg, Ffrangeg ac Almaeneg. Bu i ni gadw’r rhain o EUR-Lex hyd at ymadawiad yr UE, ar 31 Hydref 2019.