xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Gwnaethpwyd
28 Medi 1999
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 27(3) a (4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999(1)
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Llywodraeth Leol 1999 (Cymru) (Cychwyn) 1999.
(2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Llywodraeth Leol 1999.
2. Daw darpariaethau canlynol y Ddeddf i rym mewn perthynas â Chymru ar 1 Hydref 1999 —
adran 1(1)(a), (b) a (g), (3) a (5)(a),
adran 2(1), (2), (3) a (5),
adran 3(2), (3) a (4),
adran 4(1), (2), (3) a (4),
adran 5(2), (4), (5), (6) a (7),
adran 6,
adran 8(2), (3), (4), (5), (6) a (7),
adran 10(4),
adran 12(1) a (4),
adran 19(1), (2) a (4),
adran 20,
adran 22,
adran 23,
adran 25(1), (2)(a), (d), (e), (f), (g) a (h) a (3),
adran 26.
3. Daw darpariaethau canlynol y Ddeddf i rym mewn perthynas â Chymru ar 1 Ebrill 2000 —
adran 3(1),
adran 4(5),
adran 5(1) a (3),
adran 7,
adran 8(1),
adran 9,
adran 10(1), (2) a (3),
adran 11,
adran 12(2) a (3),
adran 13,
adran 15,
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis Thomas
Presiding Officer of the Assembly
28 Medi 1999
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Daw'r Gorchymyn hwn â darpariaethau Rhan I o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999 (“y Ddeddf”) i rym mewn perthynas â Chymru. Mae'r darpariaethau hyn yn gosod gofynion ar awdurdodau leol ac awdurdodau eraill ynglyn â darbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd. Mae adran 27(3) o'r Ddeddf yn rhoi pŵer i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddod â'r darpariaethau hynny i rym mewn perthynas â Chymru cyn yr amser a bennir gan adran 27(1).
Daw Erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn â darpariaethau canlynol y Ddeddf i rym mewn perthynas â Chymru ar 1 Hydref 1999 —
adran 1(1)(a), (b) a (g), (3) a (5)(a) (awdurdodau gwerth gorau: diffiniad).
adran 2(1), (2), (3) a (5) (pŵer i estyn neu ddatgymhwyso).
adran 3(2), (3) a (4) (y ddyletswydd gyffredinol: ymgynghori, diffiniad o “cynrychiolwyr” a chanllawiau).
adran 4(1), (2), (3) a (4) (dangosyddion perfformiad a safonau).
adran 5(2), (4), (5), (6) a (7) (adolygiadau gwerth gorau: gorchmynion a chanllawiau).
adran 6 (cynlluniau perfformiad gwerth gorau).
adran 8(2), (3), (4), (5), (6) a (7) (cod ymarfer a ffioedd).
adran 10(4) (arolygiadau: canllawiau).
adran 12(1) a (4) (ffioedd: rhagnodi).
adran 19(1), (2) a (4) (contractau: eithrio ystyriaethau anfasnachol).
adran 20 (cyhoeddi gwybodaeth).
adran 22 (Y Comisiwn Archwilio).
adran 23 (cyfrifon).
adran 25(1), (2)(a), (d), (e), (f), (g) a (h) a (3) (cyd-drefnu archwiliadau ac ati).
adran 26 (canllawiau: cyffredinol).
Daw Erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn â darpariaethau canlynol y Ddeddf i rym mewn perthynas â Chymru ar 1 Ebrill 2000 —
adran 3(1) (y ddyletswydd gyffredinol).
adran 4(5) (dyletswydd awdurdodau gwerth gorau i gyrraedd safonau perfformiad).
adran 5(1) a (3) (rhwymedigaeth awdurdodau gwerth gorau i ymgymryd ag adolygiadau).
adran 7 (archwilio cynlluniau perfformiad gwerth gorau).
adran 8(1) (rhwymedigaeth archwilydd i roi sylw i unrhyw god ymarfer a gyhoeddir o dan adran 8).
adran 9 (ymateb i archwiliad).
adran 10(1), (2) a (3) (arolygiadau gwerth gorau gan y Comisiwn Archwilio).
adran 11 (pwerau a dyletswyddau arolygwyr).
adran 12(2) a (3) (ffioedd sy'n daladwy am arolygiadau gwerth gorau).
adran 13 (adroddiadau arolygu).
adran 15 (pwerau gorfodi).