Rheoliadau Addysg (Ffioedd Myfyrwyr) (Eithriadau) (Cymru) 1999

Enwi, cychwyn a dehongliLL+C

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Ffioedd Myfyrwyr) (Eithriadau) (Cymru) a deuant i rym ar 1 Medi 1999.

(2Yn y Rheoliadau hyn ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 1 mewn grym ar 1.9.1999, gweler rhl. 1(1)

CymhwysoLL+C

2.  Bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i'r diffiniad o ffioedd sy'n daladwy i sefydliadau yng Nghymru at ddibenion Pennod 1 o Ran II o'r Ddeddf.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 2 mewn grym ar 1.9.1999, gweler rhl. 1(1)

Ffioedd a eithrir o'r diffiniad o ffioedd yn adran 28(1) o'r Ddeddf.LL+C

3.  Rhagnodir unrhyw ffi o ddisgrifiad a bennir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn at ddiben adran 28(1)(e) o'r Ddeddf (sy'n darparu bod ffioedd sy'n cael eu rhagnodi wedi'u heithrio o ystyr ffioedd ym Mhennod 1 o Ran II o'r Ddeddf).

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 3 mewn grym ar 1.9.1999, gweler rhl. 1(1)

Llofnodwyd ar ran y Cynulliad o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(1).

Dayfdd Elis Thomas

Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru

26 Awst 1999