Rheoliadau Addysg (Ffioedd Myfyrwyr) (Eithriadau) (Cymru) 1999

Rheoliad 3

ATODLENLL+CFFIOEDD A EITHRIR O'R DIFFINIAD O FFIOEDD YN ADRAN 28(1) O'R DDEDDF.

RHAN 1LL+CDEHONGLI

1.  Yn yr Atodlen hon ystyr “darpariaeth graidd” mewn perthynas â nwyddau neu wasanaethau yw darparu nwyddau neu wasanaethau sy'n ymwneud â chwrs a fwriedir, drwy alluogi'r myfyriwr i gael medrau neu wybodaeth, i roi cyfle i'r myfyriwr gyrraedd hyd at y radd neu'r cymhwyster uchaf ar gyfer y cwrs (neu, lle bo mwy nag un radd neu gymhwyster yn gynwysedig mewn cwrs, yr uchaf o'r holl raddau neu gymwysterau ar gyfer y cwrs).LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. para. 1 mewn grym ar 1.9.1999, gweler rhl. 1(1)

RHAN IILL+CDISGRIFIAD O'R FFIOEDD

2.  Unrhyw ffi sy'n daladwy mewn cysylltiad â darparu nwyddau i'r myfyriwr (p'un ai drwy werthu neu hurio) heblaw nodiadau ar ddarlithoedd unigol, crynodebau o ddarlithoedd neu ddeunyddiau tebyg —LL+C

(a)lle nad yw'r nwyddau yn rhan o'r ddarpariaeth graidd ar gyfer y cwrs, neu

(b)lle daw'r nwyddau yn eiddo i'r myfyriwr (p'un ai adeg talu'r ffi neu ar unrhyw adeg ar ôl hynny),

ar yr amod, lle mae nwyddau'n ffurfio rhan o'r ddarpariaeth graidd i'r cwrs a'i bod yn angenrheidiol trefnu bod y nwyddau ar gael i'r myfyriwr mewn cysylltiad ag iechyd neu ddiogelwch y myfyriwr wrth fynychu'r cwrs, ni fydd is-baragraff (b) yn gymwys oni fydd y sefydliad hefyd yn trefnu bod y nwyddau ar gael i'r myfyriwr (heb i'r nwyddau ddod yn eiddo i'r myfyriwr) heb dâl.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. para. 2 mewn grym ar 1.9.1999, gweler rhl. 1(1)

3.  Unrhyw ffi sy'n daladwy mewn cysylltiad â darparu gwasanaethau i'r myfyriwr lle nad yw'r gwasanaethau yn rhan o'r ddarpariaeth graidd ar gyfer y cwrs.LL+C

At ddibenion y paragraff hwn ymdrinnir â rhoi llyfrau neu ddeunyddiau eraill ar gadw mewn llyfrgell fel darpariaeth graidd ar gyfer y cwrs.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. para. 3 mewn grym ar 1.9.1999, gweler rhl. 1(1)

4.  Unrhyw ffi sy'n ad-daliad o gost unrhyw ffi neu bris y mae'r sefydliad yn ei dalu i ryw berson arall ac eithrio pris a godir mewn perthynas â darparu nwyddau i'r sefydliad, mewn cysylltiad â phresenoldeb y myfyriwr ar y cwrs, neu â chwblhau'r cwrs gan y myfyriwr.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. para. 4 mewn grym ar 1.9.1999, gweler rhl. 1(1)

5.  Unrhyw ffi mewn perthynas ag unrhyw dreuliau gweinyddol ychwanegol a dynnir gan y sefydliad o ganlyniad i unrhyw esgeulustod neu fethiant gan y myfyriwr (gan gynnwys treuliau gweinyddol sy'n deillio o'r ffaith bod y myfyriwr yn ailsefyll arholiad, asesiad o waith cwrs, neu fodiwl cwrs).LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. para. 5 mewn grym ar 1.9.1999, gweler rhl. 1(1)

6.  Unrhyw ffi mewn perthynas â chyfleusterau teithio a ddarperir gan y sefydliad.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I6Atod. para. 6 mewn grym ar 1.9.1999, gweler rhl. 1(1)