- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Erthyglau 3 a 4(1) a (2)
Colofn 1 | Colofn 2 | Colofn 3 | Colofn 4 | Colofn 5 |
---|---|---|---|---|
Darpariaeth y Gymuned | Rheolau Manwl | Testun | Uchafswm y ddirwy ar gollfarn ddiannod | Y person atebol |
1. Rheoliad 1382/87 | ||||
(a) Erthygl 3.1 | Gofynion i aros, symud neu gyflawni unrhyw weithred arall i hwyluso mynd ar y cwch. | Yr Uchafswm Statudol | Y meistr, y perchennog, y siartrwr (os oes un), ac unrhyw berson arall sy'n gyfrifol am y cwch. | |
(b) Erthygl 3.2 ac Atodiad II | Darparu ysgol i fynd ar y cwch. | Yr Uchafswm Statudol | Y meistr, y perchennog, y siartrwr (os oes un), ac unrhyw berson arall sy'n gyfrifol am y cwch. | |
(c) Erthygl 3.3 | Defnyddio offer cyfathrebu a pherson i'w ddefnyddio. | Yr Uchafswm Statudol | Y meistr, y perchennog, y siartrwr (os oes un), ac unrhyw berson arall sy'n gyfrifol am y cwch. | |
2. Rheoliad 2847/93 | ||||
(a) Erthygl 4.2 | Gofynion i gydweithio i hwyluso archwilio cychod pysgota, tir ac adeiladau a cherbydau cario. | Yr Uchafswm Statudol | Y meistr, y perchennog, y siartrwr (os oes un), ac unrhyw berson arall sy'n gyfrifol am y cwch, neu, yn ôl y galw, y person sydd â chyrifoldeb am y tir ac adeiladau neu'r cerbyd. | |
(b) Erthygl 6 | Erthygl 1 o Reoliad 2807/83 ac Atodiadau I, II, IIa, IV, V, VI a VII iddo | Gofynion i gadw coflyfr mewn ffurf y gellir ei ddarllen ar gyfrifiadur neu ar bapur, i gychod pysgota 10 metr neu fwy o hyd, a'i gyflwyno i'r Aelod-Wladwriaeth y mae'n cyhwfan ei baner a'r Aelod-Wladwriaeth y mae'n dadlwytho pysgod ynddi, os yn wahanol, o fewn 48 awr o'r dadlwytho. | £50,000 | Y meistr, y perchennog, neu'r siartrwr (os oes un). |
(c) Erthygl 7 | Gofynion i gwch pysgota'r Gymuned sydd am lanio dalfa mewn Aelod— Wladwriaeth wahanol i'r un y mae'n cario ei baner i (a) cydymffurfio â gofynion unrhyw gynllun porthladdoedd cofrestredig a sefydlwyd yn unol ag Erthygl 38 o Reoliad 2847/93 gan yr Aelod-Wladwriaeth y bwriedir dadlwytho'r ddalfa yn ei pharth; neu (b) os nad oes cynllun o'r fath wedi'i sefydlu, i roi o leia 4 awr o rybudd ymlaen llaw (neu 2 awr pan fo erthygl 1 o Reoliad 728/1999(1) yn gymwys) i awdurdod rheoli yr Aelod-Wladwriaeth y mae'n bwriadu dadlwytho'r ddalfa yn ei pharth o | £50,000 | Y meistr, y perchennog, neu'r siartrwr (os oes un). | |
(i) leoliad y dadlwytho ac amcangfyrif o'r amser cyrraedd; a | £50,000 | |||
(ii) maint y ddalfa o bob rhywogaeth sydd i'w dadlwytho. | £50,000 | |||
(ch) Erthygl 8.1 | Erthygl 2 o Reoliad 2807/83 ac Atodlenni I, IIa, III, IV, a V. | Gofynion i gyflwyno datganiad dadlwytho o faint dalfeydd pob rhywogaeth a'r ardal y daliwyd hwynt, wedi bob taith ac o fewn 48 awr o ddadlwytho, i'r Aelod-Wladwriaeth y mae'n cyhwfan ei baner ac Aelod-Wladwriaeth y dadlwytho, os yw'n wahanol, ar gyfer cychod 10 metr neu fwy o hyd. | £50,000 | Y meistr, ei gynrychiolydd, y perchennog, neu'r siartrwr (os oes un). |
(d) Erthygl 9.1 wedi'i ddarllen gydag Erthygl 9.5 | Gofynion i gyflwyno nodyn gwerthu wedi'i gwblhau o fewn 48 awr i'r gwerthiant, pan fydd y marchnata cyntaf o gynhyrchion pysgodfeydd yn cael ei wneud gan ganolfan ocsiwnia neu gan berson neu gorff wedi'i awdurdodi. | £50,000 | Gwerthwr cyntaf y pysgod. | |
(dd) Erthygl 9.2 wedi'i ddarllen gydag Erthyglau 9.3, 9.4, 9.4b, 9.5 a 13 | Gofynion i gyflwyno'r canlynol cyn y bydd y cynhyrchion yn cael eu casglu:— (a) nodyn gwerthu wedi'i gwblhau (pan fydd cynhyrchion wedi eu gwerthu neu yn cael eu cynnig i'w gwerthu yn y man dadlwytho); neu (b) copi o ddogfen gario (pan fydd cynhyrchion wedi'u cynnig i'w gwerthu mewn lleoliad gwahanol i'r man dadlwytho); neu (c) datganiad cymryd trosodd wedi'i gwblhau (os na fydd y cynhyrchion i gael eu cynnig ar gyfer eu gwerthu neu y —bwriedir eu gwerthu ar ddyddiad diweddarach) pan fydd y marchnata cyntaf o'r cynhyrchion pysgodfeydd i'w wneud heb fod yn unol ag erthygl 9.1 o Reoliad 2847/93. | £50,000 | Ynglŷn â'r gofynion i gyflwyno — (a) nodyn gwerthiant wedi'i gwblhau — prynwr y pysgod; (b) dogfen gario — cariwr y pysgod; (c) datganiad cymeryd trosodd wedi'i gwblhau — perchennog y pysgod a'i asiant (os oes un). | |
(e) Erthygl 9.5 wedi'i ddarllen gydag Erthygl 9.2 | Gofynion i — | Ynglŷn â'r gofynion i — | ||
(a) gyflwyno nodyn gwerthu o fewn 48 awr o'r dadlwytho neu'r marchnata cyntaf o gynhyrchion (ar wahân i achosion pan fydd rhaid cyflwyno nodyn gwerthu cyn casglu'r cynhyrchion) ac atodi, pan fydd angen, copi o'r ddogfen gario mewn perthynas â'r cynhyrchion; | £50,000 | (a) nodyn gwerthiant, prynwr y pysgod; | ||
(b) i gyflwyno datganiad cymeryd drosodd o fewn 48 awr o lanio'r dalfeydd (heblaw pan fydd angen cyflwyno'r datganiad cymeryd trosodd cyn casglu'r cynhyrchion); | £50,000 | (b) datganiad cymeryd drosodd, perchennog y pysgod a'i asiant, os oes un; | ||
(c) anfon copi o'r ddogfen gario i'r awdurdodau cymwys yn yr Aelod-Wladwriaeth lle digwyddodd y marchnata cyntaf, pan fydd y marchnata cyntaf yn digwydd mewn Aelod-Wladwriaeth wahanol i'r un y dadlwythwyd y pysgod ynddi. | £50,000 | (c) dogfen gario, cariwr y pysgod. | ||
(f) Erthygl 11 | Gofynion i gadw a hysbysu manylion o unrhyw drawslwytho yn unrhyw le, a dadlwytho cyflenwad y tu allan i diriogaeth y Gymuned, mewn cysylltiad ag unrhyw gwch trawslwytho, y cwch sy'n derbyn a chwch trydedd gwlad. | £50,000 | Y meistr; y perchennog, neu'r siartrwr (os oes un). | |
(ff) Erthygl 12 | Gofynion i gadw a hysbysebu o fewn 15 diwrnod o'r ddalfa, y manylion a fynnir o dan erthyglau 8 ac 11 o Reoliad 2847/93 pan fydd trawslwytho neu lanio yn digwydd fwy na 15 diwrnod wedi'r ddalfa. | £50,000 | Y meistr, y perchennog, neu'r siartrwr (os oes un). | |
(g) Erthygl 13 | Pan fydd cynhyrchion pysgodfeydd yn cael eu cario y tu allan i safle'r porthladd dadlwytho neu le mewnforio— (a) (ac nid yw'r gwerthiant cyntaf wedi digwydd) gofynion i ddarparu dogfen gario wedi'i chwblhau a sicrhau ei bod yn mynd gyda'r cynhyrchion pysgodfeydd hyd y gwerthiant cyntaf; (b) (a phan fydd datganiad wedi'i wneud fod y nwyddau wedi'u gwerthu yn unol ag erthygl 9 o Reoliad 2847/93) gofynion i brofi ar bob adeg drwy dystiolaeth ddogfennol bod gwerthiant wedi digwydd. | £50,000 | Cariwr y pysgod | |
(ng) Erthygl 17.2 | Erthyglau 1 a 2 o Reoliad 2807/83 ac Atodiadau I, II, IIa, IV, V, VI a VII iddo | Mewn cysylltiad â dalfeydd a wnaed y tu allan i ddyfroedd y Gymuned, gofynion i— | Y meistr, y perchennog, neu'r siartrwr (os oes un). | |
(a) cadw coflyfr yn cofnodi dalfeydd; a | £50,000 | |||
(b) cyflwyno datganiad dadlwytho, i'r Aelod-Wladwriaeth y mae'n cyhwfan ei baner a'r Aelod-Wladwriaeth y mae'n dadlwytho pysgod ynddi, os yw'n wahanol, pan fydd yn dadlwytho mewn porthladd yn y Gymuned; ac | £50,000 | |||
(c) cyflwyno manylion trawslwytho i gychod pysgota trydedd gwlad neu ddadlwytho mewn trydydd gwledydd. | £50,000 | |||
(h) Erthygl 19a.2 | Gwahardd gweithgareddau pysgota yn yr ardaloedd a bennwyd yn erthygl 19a.1 ac 19a.1a o Reoliad 2847/93 mewn perthynas â chychod pysgota'r Gymuned sydd fwy na 15 metr o hyd rhwng sythlinau neu fwy na 18 metr o hyd cyflawn ac nas awdurdodwyd gan Aelod-Wladwriaethau yn unol ag Erthyglau 2, 3, 5 a 9 o Reoliad y Cyngor (CEE) Rhif 685/95 ar reoli ymdrechion pysgota mewn perthynas â rhai ardaloedd ac adnoddau pysgota'r Gymuned(2) Rheoliad y Cyngor (CE) Rhif 779/97 a gyflwynodd drefniadau ar gyfer rheoliymdrechion pysgota yn y Môr Baltig(3). | £50,000 | Y meistr, y perchennog, neu'r siartrwr (os oes un). | |
(i) Erthyglau 19b ac 19c | Erthygl 3a o Reoliad 2807/83 ac Atodlenni VIIIa a VIIIb a Rheoliad 1449/98 | Gofynion mewn perthynas â chychod pysgota'r Gymuned sydd fwy na 15 metr o hyd rhwng sythlinau neu fwy na 18 metr o hyd cyflawn a awdurdododd gyflawni gweithgareddau pysgota a anelwyd at rywogaethau dyfnforol i gyflwyno adroddiad ymdrech sy'n cynnwys yr wybodaeth a ragnodwyd gan Erthygl 19b o Reoliad 2847/93 wedi'i ddarllen gyda Rheoliad 1449/98— | Y meistr, ei gynrychiolydd, y perchennog, neu'r siartrwr (os oes un). | |
(a) drwy un o'r dulliau a ragnodwyd yn erthygl 19c.1 (wedi'i ddarllen gydag Erthygl 19c.3) o Reoliad 2847/93 neu, yn achos cychod sy'n cyflawni gweithgareddau pysgota yn nyfroedd y Wladwriaeth y cofrestrwyd hwy ynddi, yn unol â threfniadau a fabwysiadwyd o dan ail gil-osodiad Erthygl 19c.2 o Reoliad 2847/93; | £50,000 | |||
(b) i roi gwybod am dano i'r awdurdodau a ragnodwyd yn Erthygl 19c.1 o Reoliad 2847/93; | £50,000 | |||
(c) ar yr amser neu'r amserau a ragnodwyd yn Erthygl 19c.1 o Reoliad 2847/93 neu — (i) yn achos cychod sy'n cyflawni pysgota trawsbarthol fel y'i diffiniwyd yn Erthygl 19b.2, ac a ragnodwyd yn Erthygl 19b.2 a 19c.2, cil osodiad cyntaf, Rheoliad 2847/93; (ii) yn achos cychod sy'n treulio llai na 72 o oriau ar y môr, a ragnodwyd yn Erthygl 19c.2, trydydd cil-osodiad, o Rheoliad 2847/93 (gan gynnwys gofynion, yn yr achos hwnnw, i roi gwybod am newidiadau sy'n digwydd yn y wybodaeth a ddarperir yn yr adroddiad). | £50,000 | |||
(l) Erthyglau 19e.1 a 19e.2 | Erthygl 1a o Reoliad 2807/83 ac Atodiadau I, IVa a VIa iddo | Gofynion mewn perthynas â chychod pysgota'r Gymuned sydd fwy na 15 metr o hyd rhwng sythlinau neu fwy na 18 metr o hyd cyflawn i gofnodi mewn coflyfrau yr wybodaeth (ynglŷn ag amser a dreuliwyd ar y môr) a ragnodwyd yn Erthygl 19e.1 o Reoliad 2847/93 neu, yn achos cychod sy'n pysgota'n drawsbarthol fel y diffiniwyd yn Erthygl 19b.2, ac a ragnodwyd yn Erthygl 19e.2 o Reoliad 2847/93. | £50,000 | Y meistr, y perchennog, neu'r siartrwr (os oes un). |
(ll) Erthygl 19.3 | Erthygl 1a o Reoliad 2807/83 ac Atodiadau I, IVa a VIa iddo | Gofynion mewn perthynas â chychod pysgota'r Gymuned sydd fwy na 15 metr o hyd rhwng sythlinau neu fwy na 18 metr o hyd cyflawn a awdurdododd gyflawni gweithgareddau pysgota a anelwyd at rywogaethau dyfnforol i gofnodi mewn coflyfrau adroddiad ymdrech yn cynnwys yr wybodaeth a ragnodwyd yn Erthygl 19b o Reoliad 2847/93. | £50,000 | Y meistr, y perchennog, neu'r siartrwr (os oes un). |
(m) Erthygl 20.1 | Gofynion i gadw rhwydau ar gychod pysgota'r Gymuned, pan na fyddant yn cael eu defnyddio. | Yr Uchafswm Statudol | Y meistr, y perchennog, neu'r siartrwr (os oes un). | |
(n) Erthygl 20.2 | Gofynion mewn perthynas â chychod pysgota'r Gymuned i gofnodi mewn coflyfrau a datganiadau dadlwytho bob newid mewn maint rhwydwaith a chyfansoddiad y ddalfa ar adeg y newid. | £50,000 | Y meistr, y perchennog, neu'r siartrwr (os oes un). | |
(o) Erthygl 20a | Gofynion mewn perthynas a chario, defnyddio a chadw offer ar gychod pysgota'r Gymuned sydd fwy na 15 metr o hyd rhwng sythlinau neu fwy na 18 metr o hyd cyflawn sy'n cyflawni gweithgareddau pysgota yn yr ardaloedd a bennwyd yn Erthygl 19a.1 o Reoliad 2847/93. | Yr Uchafswm Statudol | Y meistr, y perchennog, neu'r siartrwr (os oes un). | |
(p) Erthygl 21c.2 | Gwaharddiad mewn perthynas â chychod pysgota'r Gymuned rhag cyflawni gweithgareddau pysgota mewn pysgodfa o'r dyddiad, a bennir gan Gomisiwn y Gymuned Ewropeaidd, y tybir bod uchafswm ymdrech bysgota'r Wladwriaeth honno ar gyfer y bysgodfa honno wedi ei gyrraedd. | £50,000 | Y meistr, y perchennog, neu'r siartrwr (os oes un). | |
(ph) Erthygl 28.2a | Gofynion i brofi tarddiad daearyddol neu darddiad dyframaethol y cynhyrchion, pan fydd cynhyrchion pysgodfeydd sy'n cael eu cynnig i'w gwerthu, eu cadw neu eu cario, yn llai na lleiafswm y maint a osodir ar gyfer y rhywogaeth honno yn unol ag Erthygl 4 o Reoliad 3760/92. | Yr Uchafswm Statudol | Y person sy'n gyfrifol am werthu, cadw, neu gario'r pysgod. | |
(r) Erthygl 28b.1 | Gwaharddiad ar ddal, cadw ar fwrdd cwch, neu brosesu cynhyrchion pysgodfeydd gan gychod pysgota trydedd gwlad oni bai eu bod wedi eu trwyddedu a bod caniatâd pysgota arbennig wedi'i roi iddynt yn unol ag Erthygl 9 o Reoliad y Cyngor (CE) 1627/94(4). | £50,000 | Y meistr, y perchennog, neu'r siartrwr (os oes un). | |
(rh) Erthygl 28c | Gofynion i gychod pysgota trydydd gwledydd sy'n gweithredu ym mharth pysgota'r Gymuned — | Y meistr, y perchennog, neu'r siartrwr (os oes un). | ||
(a) cofnodi mewn coflyfr yr wybodaeth y cyfeirir ati yn Rheoliad 6 o Reoliad 2847/93; | £50,000 | |||
(b) i gydymffurfio â system ar gyfer adrodd dalfeydd a gedwir ar y cwch; | £50,000 | |||
(c) i gydymffurfio â gorchmynion yr awdurdodau sy'n gyfrifol am fonitro a chwilio; | Yr Uchafswm Statudol | |||
(ch) i gydymffurfio â'r rheolau ar farcio ac adnabod cychod pysgota a'u hoffer. | Yr Uchafswm Statudol | |||
(s) Erthygl 28d | Gwahardd cychod pysgota trydydd gwledydd rhag pysgota, cadw ar fwrdd y cwch, trawslwytho a dadlwytho cyflenwad sy'n ddarostyngedig i gwota o'r dyddiad, a bennwyd gan Gomisiwn y Cymunedau Ewropeaidd, pan dybir bod y cyflenwad wedi'i ddihysbyddu. | £50,000 | Y meistr, y perchennog, neu'r siartrwr (os oes un). | |
(t) Erthygl 28e | Gofynion i gwch bysgota trydedd gwlad sydd am ddadlwytho dalfa mewn Aelod-Wladwriaeth | Y meistr, ei gynrychiolydd, y perchennog, neu'r siartrwr (os oes un). | ||
(a) i roi o leiaf 72 awr o rybudd i awdurdod rheoli'r Aelod-Wladwriaeth y bwriedir dadlwytho pysgod yn ei pharth o — | ||||
(i) amser cyrraedd y porthladd dadlwytho, | £50,000 | |||
(ii) y dalfeydd a gedwir ar fwrdd y cwch, | £50,000 | |||
(iii) y parth neu'r parthau lle cafwyd y dalfeydd; | £50,000 | |||
(b) i gael ei awdurdodi gan awdurdod cymwys yr Aelod-Wladwriaeth cyn y bydd dadlwytho'n dechrau. | £50,000 | |||
(th) Erthygl 28f | Gofynion i gychod trydydd gwledydd gyflwyno, o fewn 48 awr o lanio, ddatganiad o — (a) lwyth y cynhyrchion pysgodfeydd a laniwyd yn ôl eu rhywogaeth; a (b) y dyddiad a'r lleoliad lle cafwyd y ddalfai awdurdod cymwys yr Aelod-Wladwriaeth y dadlwythwyd y cynhyrchion pysgodfeydd ynddi. | £50,000 | Y meistr, ei gynrychiolydd, y perchennog, neu'r siartrwr (os oes un). |
Darparodd Rheoliad y Comisiwn (CE) Rhif 728/1999, (yn unol ag Erthygl 7(3) o Rheoliad 2847/93), am gyfnod o hysbysiad ar gyfer cychod pysgota'r Gymuned oedd yn ymwneud â gweithgareddau pysgota ym Môr y Baltig, y Skagerrak a'r Kattegat (O.J. Rhif L93, 8.4.1999, t.10).
OJ Rhif L71, 31.3.95, t.5. Mae'r darpariaethau a osodir yn Erthyglau 2 a 3 o Reoliad 685/95 yn gymwys i gychod y Gymuned sydd fwy na 15 metro hyd rhwng sythlinau yn unig. O dan Erthygl 19a.2 o Reoliad 2847/93 bernir bod cychod sydd fwy na 15 metr o hyd rhwng sythlinau yn gydradd â chychod dros 18 metr o hyd cyflawn. Mae Erthygl 19f.3 o Reoliad 2870/95 yn mynnu bod Comisiwn y Cymunedau Ewropeaidd yn sicrhau bod Aelod-Wladwriaethau yn gyfrifol am reoli a bod ganddynt ar gael manylion ynglŷn ag adnabod cychod pysgota sydd â mynediad i'w dyfroedd.
OJ Rhif L113, 30.4.97, t.1.
Mae Rheoliad y Cyngor (CE) Rhif 1627/94 yn gosod allan darpariaethau cyffredinol ynglŷn â chaniatâd pysgota arbennig. (OJ Rhif L17, 6.7.94, t.7).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys