- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
TAI, CYMRU
Wedi'u gwneud
30 Mawrth 2000
Yn dod i rym
1 Ebrill 2000
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Dyrannu Tai (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2000.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
2. Bydd Rheoliadau 3, 4, 5, 6, 7 ac 8 o Reoliadau Dyrannu Tai (Lloegr) 2000(3) yn cael effaith yng Nghymru a bydd i'r mynegiadau a ddefnyddir yn y Rheoliadau hynny yr un ystyr ag a roddir iddynt gan Reoliad 2 o'r Rheoliadau hynny.
3. Diddymir y Rheoliadau canlynol mewn perthynas â Chymru –
(a)Rheoliadau Dyrannu Tai 1996(4);
(b)Rheoliadau 2 a 3 o Reoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Diwygio) 1997(5);
(c)Rheoliad 2 o Reoliadau Dyrannu a Digartrefedd (Diwygio) (Rhif 2) 1997 (6).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(7).
D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
30 Mawrth 2000
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae Rhan VI o Ddeddf Tai 1996 (“Deddf 1996”) yn ymwneud â dyrannu llety tai gan awdurdodau tai lleol.
O dan adran 160 o Ddeddf 1996 caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru ragnodi achosion nad yw darpariaethau Rhan VI yn gymwys iddynt.
O dan adran 161 o Ddeddf 1996 gall Cynulliad Cenedlaethol Cymru ragnodi dosbarthiadau o bersonau sy'n ddarostyngedig i reolaeth mewnfudo o fewn ystyr Deddf Lloches a Mewnfudo 1996 ond sy'n gymwys hefyd i ddyraniad llety tai. O dan yr adran hon caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru ragnodi hefyd dosbarthiadau eraill o bersonau sy'n gymwys, neu ddosbarthiadau o bersonau nad ydynt yn gymwys.
O dan adran 162 o Ddeddf 1996 caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru ragnodi gwybodaeth sy'n rhaid ei gynnwys mewn cofrestr tai gan awdurdod tai lleol.
O dan adran 163 o Ddeddf 1996 caiff y Cynulliad Cenedlaethol ragnodi yr hyn sy'n rhaid i awdurdod tai lleol ei wneud cyn arddel ei ddisgresiwn i dynnu rhywun oddi ar eu cofrestr tai.
Mae Rheoliadau Dyrannu Tai (Lloegr) 2000 yn rhagnodi achosion at ddibenion adran 160 ac yn rhagnodi dosbarthiadau at ddibenion adran 161. Maent hefyd yn rhagnodi gwybodaeth at ddibenion adran 162 ac yn rhagnodi gofynion at ddibenion adran 163.
Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu bod y darpariaethau hynny yn Rheoliadau Dyrannu Tai (Lloegr) 2000 yn cael effaith yng Nghymru, ac mewn perthynas â Chymru yn diddymu Rheoliadau Dyrannu Tai 1996 a Rheoliadau a'i diwygiodd.
Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) (O.S. 1999/672).
O.S. 1996/2753; diwygiwyd gan O.S. 1997/631 a 1997/2046.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys