Rheoliadau (Diwygio) Rheoliadau Addysg (Trawsnewid i'r Fframwaith Newydd) (Ysgolion Newydd, Grwpiau ac Amrywiol) 1999 (Cymru) 2000

Enwi, cychwyn, Cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau (Diwygio) Rheoliadau Addysg (Trawsnewid i'r Fframwaith Newydd) (Ysgolion Newydd, Grwpiau ac Amrywiol) 1999 (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 31 Gorffennaf 2000.

(2Yn y rheoliadau hyn —

  • ystyr “y dyddiad gweithredol” (“the operative date”) yw'r dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym; ac

  • ystyr “Rheoliadau 1999” (“the 1999 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Trawsnewid i'r Fframwaith Newydd) (Ysgolion Newydd, Grwpiau ac Amrywiol) 1999((1)

(3Bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys yng Nghymru yn unig.