- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
6.—(1) Gellir cymeradwyo cais gweithfeydd am grant at un neu ragor o'r dibenion canlynol:—
(a)darparu inswleiddiad mewn unrhyw wagle to hygyrch yn yr annedd, gan gynnwys inswleiddio unrhyw danc dŵ r oer ac unrhyw bibellau cyflenwi dŵ r, pibellau gorlifo a phibellau ehangu mewn gwagle o'r fath;
(b)darparu inswleiddiad rhwng dalennau mewnol ac allanol waliau dwbl yr annedd;
(c)darparu defnydd gwrth-ddrafft i'r annedd neu ynddi ynghyd ag unrhyw gyfrwng awyru ychwanegol ar gyfer unrhyw ystafelloedd na fyddent fel arall yn cael eu hawyru'n ddigonol ar ôl darpariaeth o'r fath;
(ch)darparu inwswleiddiad i unrhyw system gwresogi dŵ r neu ddarparu unrhyw ran o system o'r fath gan ymgorffori'r inswleiddiad ynddi;
(d)darparu gwresogyddion ystafell sy'n wresogyddion darfudol nwy â rheolaeth thermostat;
(dd)darparu stôr-wresogyddion trydan;
(e)darparu rheolyddion amseru ar gyfer gwresogyddion aer a gwresogyddion dŵ r trydan;
(f)gwella effeithlonrwydd ynni unrhyw system gwresogi aer neu ddŵr a osodwyd yn yr annedd neu amnewid unrhyw ran ohoni neu ei thrwsio;
(ff)darparu system wresogi ganolog nwy neu olew;
(g)trosi tanau tanwydd solet agored mewn ystafelloedd i danau tanwydd solet caeëdig mewn ystafeloedd;
(ng)darparu system wres ganolog sy'n gysylltiedig â'r grid gwres cymunedol lleol.
(2) Pan gymeradwyir cais gweithfeydd at un neu ragor o'r dibenion a nodir ym mharagraff (1), gellir cymeradwyo grant hefyd er mwyn darparu unrhyw un o'r canlynol—
(a)cyngor ynni;
(b)lampau ynni-effeithlon.
(3) At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “gwagle to” (“roof space”) yw gwagle rhwng to annedd a nenfwd unrhyw ystafell a ddefnyddir er mwyn cael lle i fyw neu sydd ar gael at y diben hwnnw, ac nad yw'r gwagle hwnnw wedi'i wahanu'n llwyr o'r to gan unrhyw ystafell arall;
(4) Rhaid peidio â chymeradwyo unrhyw gais oni bai bod yr annedd a chynnwys pob categori gwaith a grybwyllir yn y cais yn bodloni'r amodau a bennir o bryd i'w gilydd gan yr asiantaeth ardal gyda chydsyniad y Cynulliad.
(5) Rhaid i bob gwaith gydymffurfio â'r safonau a bennir o bryd i'w gilydd gan yr asiantaeth ardal gyda chydsyniad y Cynulliad ynglŷn â'r defnyddiau, y crefftwaith a'r perfformiad ffeithlonrwydd ynni ar gyfer cynnwys y gweithfeydd.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys