xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2000 Rhif 2992 (Cy. 192 ) (C. 93 )

Y COMISIYNYDD PLANT, CYMRU

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

Gorchymyn Deddf Safonau Gofal 2000 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2000

Wedi'i wneud

7 Tachwedd 2000

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 122 o Ddeddf Safonau Gofal 2000(1):

Enwi, dehongli a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Safonau Gofal 2000 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2000.

(2Yn y Gorchymyn hwn—

(3Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.

Dyddiau penodedig

2.—(113 Tachwedd 2000 yw'r dydd a benodir i bob un o ddarpariaethau'r Ddeddf a bennir yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn ddod i rym.

(21 Ebrill 2001 yw'r dydd a benodir i bob un o ddarpariaethau'r Ddeddf a bennir yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn ddod i rym, i'r graddau a bennir yno.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(2)

D Elis Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

7 Tachwedd 2000

Erthygl 2(1)

ATODLEN 1DARPARIAETHAU'R DDEDDF SY'N DOD I RYM AR 13 TACHWEDD 2000

Erthygl 2(2)

ATODLEN 2DARPARIAETHAU'R DDEDDF SY'N DOD I RYM AR 1 EBRILL 2001

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu dydd i rai o ddarpariaethau penodol Deddf Safonau Gofal 2000 (“y Ddeddf”) ddod i rym. Mae'r Gorchymyn yn gymwys i Gymru.

Mae'r Gorchymyn yn darparu y daw'r darpariaethau canlynol yn Rhan V o'r Ddeddf i rym ar 13 Tachwedd 2000:

(a)adran 72, sy'n sefydlu swydd Comisiynydd Plant Cymru;

(b)Atodlen 2, sy'n gwneud darpariaeth ynghylch rhai o swyddogaethau gweithredol penodol y swydd megis ei statws, penodi iddi a'i thâl, ei phwerau cyffredinol, ei chyfrifon, ei hatebolrwydd a'i hadroddiadau.

Mae'r Gorchymyn yn darparu y daw'r darpariaethau canlynol yn Rhan IV o'r Ddeddf i rym ar 1 Ebrill 2001 i'r graddau y maent yn ymwneud â Chyngor Gofal Cymru (“y Cyngor”):

(a)adran 54(1), (3)-(7), sy'n sefydlu corff corfforaethol sydd i'w alw'n Gyngor Gofal Cymru; yn darparu ei ddyletswydd gyffredinol; ac yn darparu y bydd, wrth arfer ei swyddogaethau, yn gweithredu yn unol ag unrhyw gyfarwyddiadau, neu o dan unrhyw ganllawiau cyffredinol, a roddir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru;

(b)adran 55 sy'n gwneud darpariaeth ynghylch dehongli Rhan IV o'r Ddeddf;

(c)adran 113 (2)-(4) sy'n darparu bod gan y Cynulliad bwerau diofyn mewn perthynas â'r Cyngor;

(ch)adran 114 sy'n gwneud darpariaeth ynghylch Gorchmynion y Cyfrin Gyngor a wneir o dan adran 70 o'r Ddeddf sy'n trosglwyddo staff o'r Cyngor Canolog Addysg a Hyfforddiant mewn Gwaith Cymdeithasol i'r Cyngor;

(d)Atodlen 1 sy'n gwneud darpariaeth ynghylch rhai o swyddogaethau gweithredol penodol y Cyngor megis ei statws, ei bwerau cyffredinol, ei aelodaeth a phenodi iddo, ei weithdrefnau, ei staff, ei gyfrifon a'i adroddiadau.

Nodyn Orchymyn Cychwyn Blaenorol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Daethpwyd â darpariaethau canlynol y Ddeddf i rym mewn perthynas â Chymru, yn ogystal â Lloegr, drwy O.S. 2000/2544 (C.72).

Yn ogystal â'r darpariaethau a restrir isod, daethpwyd ag amryw ddarpariaethau eraill y Ddeddf i rym mewn perthynas â Lloegr drwy O.S. 2000/ 2795 (C. 79 ).

Dyddiad cychwyn/Date of commencementDarpariaeth/provision
Adran/section 96 (yn rhannol) (partially)15.9.00
Adran/section 9915.9.00
Adran/section 80(8) (yn rhannol) (partially)2.10.00
Adran/section 942.10.00
Adran/section 96 (gweddill) (remainder)2.10.00
Adran/section 1002.10.00
Adran/section 1012.10.00
Adran/section 1032.10.00
Adran/section 1162.10.00
Adran/section 117(2)2.10.00
Atodlen/Schedule 4 (yn rhannol) (partially)2.10.00
Atodlen/Schedule 6 (yn rhannol) (partially)2.10.00
(1)

2000 p.14. Mae'r pŵer yn aferadwy gan y Gweinidog priodol. Yn unol â'r diffiniad o “the appropriate Minister” (“y Gweinidog priodol”) yn adran 121(1) ystyr “y Gweinidog priodol” mewn perthynas â Chymru yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru; mewn perthynas â'r Alban, Gog;edd Iwerddon neu Loegr, ystyr “y Gweinidog priodol” yw'r Ysgrifennydd Gwladol.