Offerynnau Statudol Cymru
2000 Rhif 2992 (Cy. 192 ) (C. 93 )
Y COMISIYNYDD PLANT, CYMRU
GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU
Gorchymyn Deddf Safonau Gofal 2000 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2000
Wedi'i wneud
7 Tachwedd 2000
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 122 o Ddeddf Safonau Gofal 2000(1):
Enwi, dehongli a chymhwyso
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Safonau Gofal 2000 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2000.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “y Cyngor” (“the Council”) yw Cyngor Gofal Cymru a sefydlir yn rhinwedd erthygl 2(2) o'r Gorchymyn hwn;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Safonau Gofal 2000.
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.
Dyddiau penodedig
2.—(1) 13 Tachwedd 2000 yw'r dydd a benodir i bob un o ddarpariaethau'r Ddeddf a bennir yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn ddod i rym.
(2) 1 Ebrill 2001 yw'r dydd a benodir i bob un o ddarpariaethau'r Ddeddf a bennir yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn ddod i rym, i'r graddau a bennir yno.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(2)
D Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
7 Tachwedd 2000
Erthygl 2(1)
ATODLEN 1DARPARIAETHAU'R DDEDDF SY'N DOD I RYM AR 13 TACHWEDD 2000
Adran 72 (Comisiynydd Plant Cymru)
Atodlen 2
Erthygl 2(2)
ATODLEN 2DARPARIAETHAU'R DDEDDF SY'N DOD I RYM AR 1 EBRILL 2001
Adran 54(1),(3)-(7) (Cynghorau Gofal) i'r graddau y mae'n ymwneud â'r Cyngor
Adran 55 (Dehongli)
Adran 113 (2)-(4) (Pwerau diofyn y Gweinidog priodol) i'r graddau y mae'n ymwneud â'r Cyngor
Adran 114 (Cynlluniau ar gyfer trosglwyddo staff) i'r graddau y mae'n ymwneud â Gorchymyn gan y Cyfrin Gyngor, neu argymhelliad i'w Mawrhydi i wneud Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor, o dan Adran 70 o'r Ddeddf (Dileu y Cyngor Canolog Addysg a Hyfforddiant mewn Gwaith Cymdeithasol) yn cynnwys cynllun ar gyfer trosglwyddo staff o'r Cyngor Canolog Addysg a Hyfforddiant mewn Gwaith Cymdeithasol i'r Cyngor
Atodlen 1 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r Cyngor
Nodyn Esboniadol
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu dydd i rai o ddarpariaethau penodol Deddf Safonau Gofal 2000 (“y Ddeddf”) ddod i rym. Mae'r Gorchymyn yn gymwys i Gymru.
Mae'r Gorchymyn yn darparu y daw'r darpariaethau canlynol yn Rhan V o'r Ddeddf i rym ar 13 Tachwedd 2000:
(a)adran 72, sy'n sefydlu swydd Comisiynydd Plant Cymru;
(b)Atodlen 2, sy'n gwneud darpariaeth ynghylch rhai o swyddogaethau gweithredol penodol y swydd megis ei statws, penodi iddi a'i thâl, ei phwerau cyffredinol, ei chyfrifon, ei hatebolrwydd a'i hadroddiadau.
Mae'r Gorchymyn yn darparu y daw'r darpariaethau canlynol yn Rhan IV o'r Ddeddf i rym ar 1 Ebrill 2001 i'r graddau y maent yn ymwneud â Chyngor Gofal Cymru (“y Cyngor”):
(a)adran 54(1), (3)-(7), sy'n sefydlu corff corfforaethol sydd i'w alw'n Gyngor Gofal Cymru; yn darparu ei ddyletswydd gyffredinol; ac yn darparu y bydd, wrth arfer ei swyddogaethau, yn gweithredu yn unol ag unrhyw gyfarwyddiadau, neu o dan unrhyw ganllawiau cyffredinol, a roddir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru;
(b)adran 55 sy'n gwneud darpariaeth ynghylch dehongli Rhan IV o'r Ddeddf;
(c)adran 113 (2)-(4) sy'n darparu bod gan y Cynulliad bwerau diofyn mewn perthynas â'r Cyngor;
(ch)adran 114 sy'n gwneud darpariaeth ynghylch Gorchmynion y Cyfrin Gyngor a wneir o dan adran 70 o'r Ddeddf sy'n trosglwyddo staff o'r Cyngor Canolog Addysg a Hyfforddiant mewn Gwaith Cymdeithasol i'r Cyngor;
(d)Atodlen 1 sy'n gwneud darpariaeth ynghylch rhai o swyddogaethau gweithredol penodol y Cyngor megis ei statws, ei bwerau cyffredinol, ei aelodaeth a phenodi iddo, ei weithdrefnau, ei staff, ei gyfrifon a'i adroddiadau.
Nodyn Orchymyn Cychwyn Blaenorol
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Daethpwyd â darpariaethau canlynol y Ddeddf i rym mewn perthynas â Chymru, yn ogystal â Lloegr, drwy O.S. 2000/2544 (C.72).
Yn ogystal â'r darpariaethau a restrir isod, daethpwyd ag amryw ddarpariaethau eraill y Ddeddf i rym mewn perthynas â Lloegr drwy O.S. 2000/ 2795 (C. 79 ).
Dyddiad cychwyn/Date of commencement | Darpariaeth/provision |
---|---|
Adran/section 96 (yn rhannol) (partially) | 15.9.00 |
Adran/section 99 | 15.9.00 |
Adran/section 80(8) (yn rhannol) (partially) | 2.10.00 |
Adran/section 94 | 2.10.00 |
Adran/section 96 (gweddill) (remainder) | 2.10.00 |
Adran/section 100 | 2.10.00 |
Adran/section 101 | 2.10.00 |
Adran/section 103 | 2.10.00 |
Adran/section 116 | 2.10.00 |
Adran/section 117(2) | 2.10.00 |
Atodlen/Schedule 4 (yn rhannol) (partially) | 2.10.00 |
Atodlen/Schedule 6 (yn rhannol) (partially) | 2.10.00 |
2000 p.14. Mae'r pŵer yn aferadwy gan y Gweinidog priodol. Yn unol â'r diffiniad o “the appropriate Minister” (“y Gweinidog priodol”) yn adran 121(1) ystyr “y Gweinidog priodol” mewn perthynas â Chymru yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru; mewn perthynas â'r Alban, Gog;edd Iwerddon neu Loegr, ystyr “y Gweinidog priodol” yw'r Ysgrifennydd Gwladol.