Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Cig Ffres (Dulliau Rheoli Cig Eidion) (Rhif 2) (Diwygio) (Cymru) 2000

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

1.  Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cig Ffres (Dulliau Rheoli Cig Eidion) (Rhif 2) 1996 (O.S. 1996/2097, fel y'i diwygiwyd eisoes) (“Rheoliadau 1996”) mewn perthynas â Chymru. Mae Rheoliadau 1996 yn gymwys i Brydain Fawr gyfan.

2.  Mae'r Rheoliadau yn darparu ar gyfer gorfodi Erthygl 2.1 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2277/2000 yn mabwysiadu mesurau cymorth eithriadol ar gyfer y farchnad cig eidion (OJ Rhif L321, 19.12.2000, t.47). Mae'r Erthygl honno, y daw ei heffaith i ben ar 30 Mehefin 2001, yn darparu mai dim ond os ceir canlyniad prawf negyddol ar gyfer enseffalopathi sbyngffurf buchol drwy brawf cyflym a gymeradwywyd fel y cyfeirir ato yn Atodiad IV(A) o Benderfyniad y Comisiwn 98/272/EC (OJ Rhif L122, 22.4.1998, t.59, fel y'i diwygiwyd) y gellir rhyddhau cig o anifeiliaid buchol sy'n fwy na 30 mis oed ac sydd wedi'u cigydda yn y Gymuned Ewropeaidd ar ôl 1 Ionawr 2001. Mewnosodwyd Erthygl IV(A) yn y Penderfyniad hwnnw gan Benderfyniad y Comisiwn 2000/374/EC (OJ Rhif L135, 8.6.2000, t.27).

3.  Yn unol ag adran 65(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (1998 p.38) a Rheol Sefydlog 22.3 o Reolau Sefydlog Cynulliad Cenedlaethol Cymru, mae'r Gweinidog Cynulliad wedi penderfynu nad yw'n rhesymol ymarferol cynnal arfarniad rheoliadol o dan adran 65 o'r Ddeddf oherwydd y dyddiad cau i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, sef 1 Ionawr 2001. Ymgynghorwyd yn unol ag adran 48(4) a (4B) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 (1990 p.16) a gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 1, Southgate House, Caerdydd CF10 1EN.

4.  Am yr un rheswm, yn unol ag adran 66(4) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 a Rheol Sefydlog 22.1, penderfynodd y Gweinidog Cynulliad nad oedd yn rhesymol ymarferol gwneud y Rheoliadau hyn yn Gymraeg a Saesneg. Felly mae'r testun Cymraeg yn gyfieithiad o'r Rheoliadau hyn, sydd wedi'u gwneud yn uniaith Saesneg.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill