- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
5.—(1) Pan orfodir dirwy gan lys ynadon ar feistr, perchennog neu siartrwr, neu ar aelod o griw cwch pysgota a gollfernir gan y llys o dramgwydd perthnasol neu dramgwydd o dan erthygl 10 o'r Gorchymyn hwn, caiff y llys –
(a)rhoi gwarant atafaelu yn erbyn y cwch a oedd yn gysylltiedig â chyflawni'r tramgwydd a'i offer a'i haldiad ac unrhyw eiddo sydd gan y person a gollfarnwyd er mwyn casglu swm y ddirwy; a
(b)gwneud gorchymyn i gadw y cwch a'i offer a'i haldiad am gyfnod o ddim mwy na thri mis o ddyddiad y gollfarn neu hyd nes y telir y ddirwy neu y cesglir swm y ddirwy yn unol ag unrhyw warant o'r fath, p'un bynnag fydd yn digwydd gyntaf.
(2) Bydd adrannau 77(1) a 78 o Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980(1) (gohirio rhoi gwarantau atafaelu, a diffygion ynddynt) yn gymwys i warant atafaelu a roddir o dan yr erthygl hon fel y maent yn gymwys i warant atafaelu a roddir o dan Ran III o'r Ddeddf honno.
(3) Pan fydd gorchymyn trosglwyddo dirwy mewn perthynas â dirwy ynglyn â thramgwydd perthnasol yn cael ei wneud o dan adran 90 o Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980, erthygl 95 o Orchymyn Llysoedd Ynadon (Gogledd Iwerddon) 1981 (2) neu adran 222 o Ddeddf Gweithdrefn Droseddol (Yr Alban) 1995 (3) ac yn pennu rhanbarth llys ynadon yng Nghymru, bydd yr erthygl hon yn gymwys fel petai'r ddirwy wedi ei gorfodi gan lys o fewn y rhanbarth llys ynadon hwnnw.
1980, p43. Troswyd yr uchafsymiau dirwyon yn adran 78 yn lefelau ar y raddfa safonol gan adrannau 37 a 46 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1982 (p.48).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys