- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
7.—(1) Er mwyn gorfodi darpariaethau erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn, neu unrhyw ddarpariaeth gyfatebol mewn unrhyw orchymyn arall sy'n ymestyn i unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig, wedi'i wneud er mwyn gweithredu'r darpariaethau Cymunedol, caiff unrhyw swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig, yng Nghymru –
(a)mynd i mewn ac archwilio ar unrhyw adeg resymol unrhyw adeiladau a ddefnyddir ar gyfer rhedeg busnes mewn cysylltiad â gweithio cychod pysgota neu unrhyw weithgarwch sy'n gysylltiedig â hynny neu'n ategol i hynny neu mewn cysylltiad â thrin, storio neu werthu pysgod;
(b)cymryd gydag ef neu hi unrhyw bersonau eraill sy'n ymddangos i'r swyddog yn angenrheidiol ac unrhyw gyfarpar neu ddeunyddiau;
(c)archwilio unrhyw bysgod yn yr adeiladau a'i gwneud yn ofynnol bod unrhyw bersonau yn yr adeiladau yn gwneud unrhyw beth sy'n ymddangos i'r swyddog yn angenrheidiol ar gyfer hwyluso'r archwilio;
(ch)cyflawni mewn adeiladau o'r fath unrhyw archwiliadau ac arbrofion eraill a fydd yn rhesymol angenrheidiol;
(d)ei gwneud yn ofynnol na fydd neb yn gwaredu nac yn peri gwaredu unrhyw bysgod o adeiladau o'r fath yn ystod y cyfnod a fydd yn rhesymol angenrheidiol er mwyn sefydlu a gyflawnwyd tramgwydd perthnasol ar unrhyw adeg;
(dd)ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw berson yn yr adeiladau yn cyflwyno unrhyw ddogfennau sydd yn eu cadwraeth neu feddiant mewn perthynas â dal, glanio, cludo, trawslwytho, gwerthu neu waredu unrhyw bysgod;
(e)er mwyn canfod a oes unrhyw berson yn yr adeiladau wedi cyflawni tramgwydd perthnasol, chwilio'r adeiladau am unrhyw ddogfen o'r fath a'i gwneud yn ofynnol bod unrhyw berson yn yr adeiladau yn gwneud unrhyw beth sy'n ymddangos i'r swyddog yn angenrheidiol ar gyfer hwyluso'r chwilio;
(f)archwilio a chopïo unrhyw ddogfen o'r fath a gyflwynir i'r swyddog neu y deuir o hyd iddi yn yr adeiladau;
(ff)ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw berson priodol neu gyfrifol yn cyflwyno unrhyw ddogfen o'r fath sydd ar system gyfrifiadurol mewn ffurf weladwy a darllenadwy, gan gynnwys ei gwneud yn ofynnol ei chyflwyno mewn ffurf y gellir mynd â hi oddi yno; ac
(g)os oes gan y swyddog reswm dros amau bod tramgwydd perthnasol wedi'i gyflawni, caiff gipio a chadw unrhyw ddogfen o'r fath a gyflwynir neu y deuir o hyd iddi yn yr adeiladau er mwyn galluogi defnyddio'r ddogfen fel tystiolaeth mewn unrhyw achos yngln â'r tramgwydd.
(2) Bydd darpariaethau paragraff (1) uchod yn gymwys, gyda'r newidiadau angenrheidiol, mewn perthynas ag unrhyw dir a ddefnyddir mewn cysylltiad ag unrhyw un o'r gweithgareddau a ddisgrifir ym mharagraff (1) uchod, neu mewn perthynas ag unrhyw gerbyd y mae gan swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig achos rhesymol dros gredu ei fod yn cael ei ddefnyddio i gludo pysgod neu gynhyrchion pysgodfeydd, yn yr un modd ag y maent yn gymwys i adeiladau, ac yn achos cerbyd maent yn cynnwys per i'w gwneud yn ofynnol ar unrhyw adeg bod y cerbyd yn stopio, ac, os oes angen, i gyfarwyddo'r cerbyd i ryw fan arall i hwyluso'r archwilio.
(3) Os yw ynad heddwch, ar ôl derbyn datganiad ysgrifenedig ar lw, wedi'i fodloni –
(a)bod yna sail resymol dros gredu bod unrhyw ddogfennau neu eitemau eraill y mae gan swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig ber o dan yr Erthygl hon i'w harchwilio yn yr adeiladau a bod eu harchwilio yn debyg o ddatgelu tystiolaeth bod tramgwydd perthnasol wedi'i gyflawni; a
(b)naill ai–
(i)bod mynediad i'r adeiladau wedi'i wrthod neu'n debyg o gael ei wrthod a bod hysbysiad o'r bwriad i wneud cais am warant wedi'i roddi i'r meddiannydd; neu
(ii)y byddai gwneud cais am fynediad neu roi hysbysiad o'r fath yn rhwystro bwriad y mynediad, neu fod yr adeiladau yn wag, neu fod y meddiannydd yn absennol dros dro, ac y gallai aros i'r meddiannydd ddychwelyd rwystro bwriad y mynediad ;
fe gaiff yr ynad lofnodi gwarant a fydd yn ddilys am fis i awdurdodi swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig i fynd i'r adeiladau, gan ddefnyddio grym rhesymol os oes ei angen, ac i fynd â'r personau sy'n ymddangos i'r swyddog yn angenrheidiol.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys