xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2000 Rhif 992 (Cy. 52)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Diwygio) (Cymru) 2000

Wedi'u gwneud

17 Mawrth 2000

Yn dod i rym

1 Ebrill 2000

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 49(3) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989(1), ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru(2).

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Diwygio) (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2000.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

(3Yn y Rheoliadau hyn ystyr “Rheoliadau 1997” yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) 1997(3).

Diwygiad

2.  Yn lle Rheoliadau 40, 41 a 42 o Reoliadau 1997 rhoddir—

40.  A credit arrangement which is a private finance transaction shall be excluded from section 49(2) and the initial cost and the cost at any time of the arrangement shall be nil..

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4).

D. Elis Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

17 Mawrth 2000

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)

Mae'r Rheoliadau hyn yn cael eu gwneud o dan Ran IV o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (“y Ddeddf”) ac maent yn diwygio Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) 1997 (“Rheoliadau 1997”). Mae Rheoliadau 1997 yn ymwneud â'r system cyllid cyfalaf ar gyfer yr awdurdodau lleol sy'n weithredol ers 1 Ebrill 1990.

O dan Ran IV o'r Ddeddf mae'n ofynnol bod gan yr awdurdodau lleol swm o ddarpariaeth gredyd ar gael pan fyddant yn gwneud neu'n amrywio trefniant credyd oni bai bod y trefniant credyd yn cael ei hepgor o'r gofyniad gan reoliadau. Mae'r Rheoliadau hyn yn rhoi Rheoliad 40 newydd yn lle Rheoliadau 40, 41 a 42 o Reoliadau 1997 fel nad oes angen mwyach i awdurdod lleol ddarparu darpariaeth gredyd wrth wneud trefniant credyd sy'n drosglwyddiad cyllid preifat.

(2)

Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).