xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
7.—(1) Pan fodlonir Awdurdod Iechyd fod yr holl rwymedigaethau a'r costau a drosglwyddwyd iddo neu y mae'n gyfrifol amdanynt wedi eu rhyddhau yn unol ag erthyglau 4, 5 a 6, bydd yr Awdurdod Iechyd yn penderfynu a fydd unrhyw ran o'r asedau a drosglwyddwyd iddo o dan erthygl 2 yn aros.
(2) Bydd yr Awdurdod Iechyd yn rhoi gwybod i bob cyn-aelod o'r practis deiliad-cronfa drwy hysbysiad am y gyfran nas gwariwyd o asedau a drosglwyddwyd, gan gynnwys unrhyw arbedion o bractis deiliad-cronfa gweddilliol ar gyfer y flwyddyn ariannol 1999-2000, fel balans terfynol cyn-aelodau'r practis deiliad-cronfa.
(3) Pan gynhwysir un neu ragor o'r cyn-aelodau o bractis deiliad-cronfa ar restrau meddygol un neu fwy o'r Awdurdodau Iechyd heblaw'r Awdurdod Iechyd perthnasol, bydd balans terfynol y practis deiliad-cronfa hwnnw'n cael ei ddosrannu rhwng yr Awdurdod Iechyd perthnasol a'r Awdurdodau Iechyd eraill hynny yn unol â pharagraffau (5) i (7) a bydd yr Awdurdod Iechyd perthnasol yn trosglwyddo i'r Awdurdod neu i'r Awdurdodau Iechyd eraill hynny y gyfran honno o'r balans terfynol y mae gan bob un hawl iddi.
(4) Pan ddosrennir y balans terfynol o bractis deiliad-cronfa blaenorol rhwng Awdurdodau Iechyd bydd yr Awdurdod Iechyd perthnasol yn rhoi gwybod i bob Awdurdod Iechyd sy'n ymwneud â'r mater a phob cyn-aelod o'r practis deiliad-cronfa drwy hysbysiad am y dosraniad a swm cyfran pob cyn-aelod.
(5) Hawl pob Awdurdod Iechyd fydd cyfran pob cyn-aelod o'r practis deiliad-cronfa sydd ar ei restr feddygol a gyfrifir yn unol â pharagraffau (6) a (7).
(6) Pan oedd cytundeb ysgrifenedig mewn grym ar 31 Mawrth 2000, rhwng cyn-aelodau'r practis deiliad-cronfa a wnaeth ddarpariaeth benodol i ddosrannu'r arbedion rhwng yr aelodau hynny, dosrennir y balans terfynol yn unol â'r cytundeb hwnnw.
(7) Pan nad oedd cytundeb o'r fath mewn grym ar 31 Mawrth 2000, dosrennir y balans terfynol rhwng cyn-aelodau'r practis deiliad-cronfa, fel y bydd cyfran pob cyn-aelod o'r practis deiliad-cronfa o'r balans terfynol yr un gyfradd o falans terfynol cyflawn y practis â'r gyfradd yr oedd ei faint rhestr yn ei ddwyn i swm holl feintiau rhestr cyn-aelodau'r practis deiliad-cronfa ar y dyddiad dosrannu.
(8) Pan fydd cyn-aelod o bractis deiliad-cronfa yn marw neu'n ymddeol neu'n gadael y practis ar ôl dosrannu balans terfynol y practis —
(a)pan geir darpariaeth ar gyfer y digwyddiad perthnasol mewn cytundeb o dan baragraff (6), ymdrinir â chyfran y cyn-aelod yn unol â'r cytundeb hwnnw;
(b)pan nad oes gytundeb o dan baragraff (6) neu pan nad yw'r cytundeb yn gwneud darpariaeth ar gyfer y digwyddiad perthnasol, bydd cyfran y cyn-aelod i'w benderfynu gan yr Awdurdod Iechyd ac ni fydd erthygl 8 yn gymwys i'r gyfran honno.
(9) Yn yr erthygl hon ystyr “dyddiad dosrannu” yw —
(a)yn achos practisiau deiliad-cronfa blaenorol nad oedd yn cael eu cydnabod yn bractisiau deiliad-cronfa ar 31 Mawrth 2000, y dyddiad pan beidwyd â chydnabod y practis deiliad-cronfa blaenorol yn bractis deiliad-cronfa; a
(b)31 Mawrth 2000, yn achos practisiau deiliad-cronfa gweddilliol a oedd yn dal i gael eu cydnabod ar y dyddiad hwnnw.
8.—(1) Yn ddarostyngedig i weddill paragraffau'r erthygl hon, bydd yr Awdurdod Iechyd yn defnyddio unrhyw falans terfynol ar gyfer cyn-aelodau o bractis deiliad-cronfa fel a ganlyn:—
(a)at y dibenion a bennir yn y cytundeb balans rhyngddo ef a'r cyn-aelodau, neu
(b)pan na wnaethpwyd cytundeb balans cyn dyddiad y cytundeb wrth ryddhau'r rhwymedigaethau a dynnwyd gan gyn-aelodau practis deiliad-cronfa at y dibenion a bennir ym mharagraff (4) ond hyd at fwyafswm ar gyfer pob blwyddyn ariannol o £90,000, a sicrheir y bydd y swm hwnnw ar gael —
(i)ac eithrio bod paragraff (9)(b) yn gymwys, ym mhob un o'r blynyddoedd ariannol 1999-2000 i 2002-2003;
(ii)pan fydd paragraff (9)(b) yn gymwys, ym mhob un o'r blynyddoedd ariannol 2000-2001 i 2002-2003, gan ychwanegu'r swm ar gyfer y flwyddyn ariannol 1999-2000 at y swm y trefnir y bydd ar gael yn unrhyw un o'r blynyddoedd hynny.
(2) Ac eithrio lle mae cytundeb balans yn dal i fod mewn grym ar y dyddiad hwnnw, pan fydd unrhyw ran o'r balans terfynol heb ei wario ar 1 Ebrill 2003, ni fydd gofyn bellach i'r Awdurdod Iechyd ei wario i ryddhau rhwymedigaethau a dynnwyd gan gyn-aelodau'r practis deiliad-cronfa.
(3) Ni ddefnyddir y balans terfynol yn unol ag is-baragraff (a) neu (b) o erthygl 8(1) hyd nes —
(a)ac eithrio yn achos cyn-aelodau o bractis deiliad-cronfa nad oedd bellach yn cael ei gydnabod fel practis deiliad-cronfa ar 1 Ebrill 1998, y bydd y cyfrifon ariannol ar gyfer y flwyddyn ariannol 1998-1999 wedi'u cyflwyno, ac yn achos practisiau deiliad-cronfa gweddilliol, y flwyddyn ariannol 1999 – 2000, i'r Awdurdod Iechyd a'u harchwilio, yn unol ag erthyglau 9 a 10; a
(b)pan fydd angen dosrannu'r balans terfynol yn unol ag erthygl 7, mae'r Awdurdod Iechyd wedi anfon hysbysiadau yn ôl gofynion erthygl 7(4).
(4) Ni cheir defnyddio'r balans terfynol ond at un neu ragor o'r dibenion canlynol —
(a)prynu deunydd neu offer sydd —
(i)i'w defnyddio ar gyfer trin (gan gynnwys triniaeth ddiagnostig) cleifion cyn-aelodau'r practis deiliad-cronfa, neu
(ii)sy'n gwella cysur neu gyfleuster cleifion cyn-aelodau'r practis deiliad-cronfa,
(b)taliadau i —
(i)deietegwyr, neu
(ii)ymgynghorwyr yn darparu cyngor ar ddeiet, traul alcohol, ysmygu neu faterion iechyd personol eraill,
(c)prynu cyfrifiaduron, yn cynnwys caledwedd a meddalwedd
(ch)taliadau i staff heblaw cyflogau a thaliadau eraill a ganiateir gan baragraff 52(3) o'r Datganiad a gyhoeddwyd yn unol â rheol 34 o Reoliadau Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) 1992(1),
(d)cynlluniau i wella rhagnodi,
(dd)taliadau ar gyfer —
(i)prynu deunyddiau neu offer addysg iechyd,
(ii)cynghori ar ledaenu addysg iechyd i gleifion,
(e)mewn perthynas ag unrhyw adeilad y mae'r cyn-aelodau yn cynnal eu practis ohono —
(i)gwelliannau i'r adeilad gan gynnwys newidiadau i'r adeilad neu ei addurno a phrynu dodrefn a dodrefniadau,
(ii)adeiladu estyniad,
lle mae'r gwelliant neu'r estyniad arfaethedig yn gyson â'r cynllun buddsoddi a fabwysiadwyd gan yr Awdurdod Iechyd sy'n arfer swyddogaethau ynglŷn â chleifion practis deiliad-cronfa blaenorol.
(5) Yn ddarostyngedig i baragraff (7), lle tynnodd cyn-aelod o bractis deiliad-cronfa allan o'r practis deiliad-cronfa cyn 1 Ebrill 1999 mewn amgylchiadau ar wahân i farwolaeth neu ymddeoliad a bod cyfran o arbedion y practis deiliad-cronfa wedi'i throsglwyddo i'r Awdurdod Iechyd yn unol â rheoliad 9(5) o Reoliadau 1996(2), caiff unrhyw arbedion felly sy'n parhau gyda'r Awdurdod Iechyd ar 1 Ebrill 2000 eu gwario ar unrhyw un o'r dibenion a nodir ym mharagraff (4) y gall y cyn-aelod ofyn amdano ac ni fydd paragraff (1) yn gymwys.
(6) Yn ddarostyngedig i baragraff (7), pan drosglwyddwyd arbedion o bractis deiliad-cronfa y tynnwyd cydnabyddiaeth oddi arno i Awdurdod Iechyd yn unol â rheoliad 17 o Reoliadau 1996, gellir gwario arbedion felly sy'n parhau gyda'r Awdurdod Iechyd ar 1 Ebrill 2000 at y dibenion a nodir ym mharagraff (4) y gall cyn-aelodau o'r practis hwnnw ofyn amdanynt, ac ni fydd paragraff (1) yn gymwys.
(7) Er gwaethaf paragraffau (5) a (6) a diddymiad darpariaethau deiliad-cronfa, pan fydd yr Awdurdod Iechyd eisoes wedi ymrwymo i wario arbedion yn unol â rheoliad 9(5) neu 17(3) o Reoliadau 1996 ar gyfer un o'r dibenion a nodir yn rheoliad 25 o'r Rheoliadau hynny, caiff ddefnyddio'r arbedion hynny at y diben hwnnw ac ni fydd yr erthygl hon yn gymwys i'r arbedion hynny.
(8) Pan ddosrennir balans terfynol practis deiliad-cronfa blaenorol yn unol ag erthygl 7, a bod yr Awdurdod Iechyd perthnasol yn trosglwyddo i Awdurdod Iechyd arall swm sy'n cynrychioli cyfran cyn-aelod o'r deiliad-cronfa dan sylw, yr Awdurdod Iechyd a fydd yn cael y gyfran honno fydd yn defnyddio'r balans terfynol yn unol â pharagraff (1) ac ef fydd yn mynd i unrhyw gytundeb balans â'r cyn-aelod hwnnw.
(9) Yn yr erthygl hon, ystyr “dyddiad cytundeb” —
(a)yn achos cyn-aelodau practisiau deiliad-cronfa heblaw practisiau deiliad-cronfa gweddilliol, yw 30 Ebrill 2000,
(b)yn achos cyn-aelodau o bractisiau deiliad-cronfa a oedd yn bractisiau deiliad-cronfa gweddilliol, yw 1 Ebrill 2001.
O.S. 1992/635, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r erthygl hon.
Diwygiwyd rheoliad 9(5) o Reoliadau 1996 gan O.S. 1997/747, rheoliad 7 a 1998/693, rheoliad 4. Diddymwyd paragraffau (2) i (6) o reoliad 9 gan O.S. 1999/261, rheoliad 13, ond yn rhinwedd rheoliad 29(1) o'r offeryn hwnnw maent yn parhau i fod yn gymwys lle tynnodd aelod o'r practis deiliad-cronfa allan o'r practis hwnnw mewn amgylchiadau heblaw marwolaeth neu ymddeoliad cyn 1 Ebrill 1999.