Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau'r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Gwin) (Cymru) 2001

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

RHAN IVTRAMGWYDDO A CHOSBI

Tramgwyddo a chosbi

19.—(1Os bydd unrhyw berson yn torri rheoliad 6 neu unrhyw rwymedigaeth a gynhwysir mewn unrhyw un o'r darpariaethau Cymunedol perthnasol y cyfeirir atynt yng ngholofn 1 neu 2 o Rannau I, II, III, V neu IX o Atodlen 2, neu'n methu â chydymffurfio â hwy, bydd yn euog o dramgwydd ac yn agored—

(a)o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol; neu

(b)o'i gollfarnu ar dditiad, i ddirwy.

(2Os bydd unrhyw berson—

(a)yn torri unrhyw rwymedigaeth neu amod a gynhwysir mewn unrhyw un o'r darpariaethau Cymunedol perthnasol y cyfeirir atynt yng ngholofn 1 neu 2 o Rannau IV, VI, VII neu VIII o Atodlen 2, neu'n methu â chydymffurfio â hwy, neu

(b)yn datgelu i unrhyw berson arall unrhyw wybodaeth a gafwyd ganddo yn unol â'i ddyletswyddau o dan y Rheoliadau hyn, oni bai bod y datgelu'n cael ei wneud wrth iddo ef neu unrhyw berson arall gyflawni unrhyw swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn, at ddibenion hynny, neu yn unol â rhwymedigaeth Gymunedol,bydd yn euog o dramgwydd ac yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 4 ar y raddfa safonol.

Symud cynnyrch sector gwin a reolir

20.—(1Bydd unrhyw berson sydd, gan wybod bod cynnyrch sector gwin yn gynnyrch sector gwin a reolir—

(a)yn ei symud, neu

(b)yn peri ei symud, heb gydsyniad ysgrifenedig swyddog awdurdodedig, yn euog o dramgwydd.

(2Bydd unrhyw berson sydd, gan wybod bod cynnyrch sector gwin yn gynnyrch sector gwin a reolir—

(a)yn tynnu label oddi arno, neu

(b)yn peri tynnu label oddi arno, a hwnnw'n label sydd wedi'i osod o dan reoliad 8(5), yn euog o dramgwydd.

(3Bydd unrhyw berson sy'n methu â chydymffurfio ag ymrwymiad a roddwyd ganddo at ddibenion rheoliad 9(2) yn euog o dramgwydd.

(4Bydd yn amddiffyniad i berson a gyhuddir o unrhyw dramgwydd o dan y rheoliad hwn brofi—

(a)nad oedd dim tramgwydd wedi'i gyflawni, wrthi'n cael ei gyflawni neu'n debyg o gael ei gyflawni mewn perthynas â'r cynnyrch sector gwin o dan sylw pan arferwyd y pŵ er a roddir gan reoliad 8(1); a

(b)bod yna esgus rhesymol dros y weithred neu'r diffyg gweithred y mae'r person wedi'i gyhuddo mewn perthynas â hwy.

(5Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan y rheoliad hwn yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.

Rhwystro

21.  Bydd unrhyw berson sydd—

(a)yn fwriadol yn rhwystro swyddog awdurdodedig sy'n gweithredu i arfer y Rheoliadau hyn; neu

(b)yn methu â rhoi unrhyw gymorth neu wybodaeth i unrhyw swyddog o'r fath neu â darparu unrhyw gyfleusterau y mae'n rhesymol i'r swyddog hwnnw ofyn iddo eu darparu at ddibenion ei swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn, yn euog o dramgwydd ac yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.

Tramgwyddau gan swyddogion cyrff corfforaethol

22.—(1Pan brofir bod unrhyw dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn a gyflawnwyd gan gorff corfforaethol wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall i'r corff corfforaethol, neu unhryw berson a oedd yn honni ei fod yn gweithredu mewn unrhyw swyddogaeth o'r fath, neu y gellir ei briodoli i unrhyw esgeulustod ar ei ran, bernir bod y person hwnnw, yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn euog o'r tramgwydd hwnnw ac yn agored i achos a chosb yn unol â hynny.

(2Pan fydd materion corff corfforaethol yn cael eu rheoli gan ei aelodau, bydd darpariaethau paragraff (1) uchod yn gymwys i weithredoedd a diffyg gweithredoedd aelod mewn cysylltiad â'i swyddogaethau rheoli fel pe bai'n gyfarwyddwr i'r corff corfforaethol.

Amddiffyniad diwydrwydd dyladwy

23.  Mewn unrhyw achos ynglyn â thramgwydd o dan reoliad 19 neu 21(b), bydd yn amddiffyniad i'r person a gyhuddir brofi ei fod wedi cymryd pob rhagofal rhesymol ac wedi arfer pob diwydrwydd dyladwy i osgoi cyflawni'r tramgwydd ganddo ef ei hun neu gan berson o dan ei reolaeth.

Tramgwyddau o dan Reoliadau'r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Gwin) 1993, 1994, 1995 neu 1996

24.  Os oes tramgwydd o dan unrhyw un o Reoliadau'r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Gwin) 1993, 1994, 1995 neu 1996 wedi'i gyflawni, er bod y Rheoliadau hynny wedi'u diddymu, bydd modd ei gosbi yn unol â thelerau'r Rheoliadau hynny.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill