xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
13.—(1) Rhaid i Bwyllgor Safonau drefnu bod y canlynol yn cael ei wneud o fewn 14 diwrnod:
(a)ar ôl i'r amser a ganiateir i gyflwyno hysbysiad apêl o dan Reoliad 10(2) uchod ddod i ben,
(b)ar ôl i hysbysiad o gasgliad unrhyw apêl yn unol â [F1rheoliad 12(1)(a)(i) neu (b)] uchod ddod i law, neu
(c)ar ôl dyfarniad pellach gan y Pwyllgor Safonau a wnaed ar ôl cael argymhelliad gan dribiwnlys apelau o dan [F2reoliad 12(1)(a)(ii)] uchod,
p'un bynnag sy'n digwydd olaf, adroddiad ar ganlyniad yr ymchwiliad F3....
[F4(1A) Rhaid i’r Pwyllgor Safonau anfon copi o’r adroddiad at:
(a)unrhyw berson sy’n destun yr ymchwiliad,
(b)Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru,
(c)swyddog monitro’r awdurdod perthnasol dan sylw, a
(d)pan fo unrhyw berson sy’n destun yr ymchwiliad yn aelod neu’n aelod cyfetholedig o gyd-bwyllgor corfforedig, a’i fod hefyd yn aelod neu’n aelod cyfetholedig o—
(i)cyngor cyfansoddol y cyd-bwyllgor corfforedig;
(ii)awdurdod Parc Cenedlaethol y mae’n ofynnol iddo gan reoliadau o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 benodi aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig,
swyddog monitro’r cyngor cyfansoddol hwnnw neu’r awdurdod Parc Cenedlaethol hwnnw.
(1B) Rhaid i’r Pwyllgor Safonau hefyd gymryd camau rhesymol i anfon copi o’r adroddiad at unrhyw berson a wnaeth unrhyw honiad a arweiniodd at yr ymchwiliad.]
(2) Ar ôl i adroddiad y Pwyllgor Safonau ddod i law, rhaid i swyddog monitro'r awdurdod perthnasol [F5dan sylw]:
(a)am gyfnod o 21 diwrnod gyhoeddi'r adroddiad ar wefan yr awdurdod perthnasol a threfnu bod copïau ar gael i'w harchwilio gan y cyhoedd yn ddi-dâl ar bob adeg resymol mewn un neu ragor o swyddfeydd yr awdurdod, lle bydd gan unrhyw berson hawl i gymryd copïau o'r adroddiad pan drefnir iddo fod ar gael felly, neu i gymryd detholiadau ohono,
(b)darparu copi o'r adroddiad i unrhyw berson ar gais os bydd yn talu unrhyw dâl y bydd yr awdurdod perthnasol yn gofyn yn rhesymol amdano, ac
(c)erbyn saith diwrnod fan bellaf ar ôl i'r adroddiad dod i law oddi wrth y Pwyllgor Safonau, rhoi hysbysiad cyhoeddus, drwy hysbyseb mewn papurau newydd sy'n cylchredeg yn yr ardal ac mewn unrhyw ffyrdd arall sy'n ymddangos iddo eu bod yn briodol, y bydd copïau o'r adroddiad ar gael fel y darperir ar ei gyfer gan is-baragraffau (a) a (b) uchod, a rhaid iddo bennu'r dyddiad (sef dyddiad nad yw'n fwy na saith diwrnod ar ôl i'r hysbysiad cyhoeddus gael ei roi gyntaf) pan fydd y cyfnod o 21 diwrnod yn dechrau.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn rhl. 13(1)(b) wedi eu hamnewid (5.8.2022) gan Rheoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) (Diwygio) 2022 (O.S. 2022/802), rhlau. 1, 12(a)(i)
F2Geiriau yn rhl. 13(1)(c) wedi eu hamnewid (5.8.2022) gan Rheoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) (Diwygio) 2022 (O.S. 2022/802), rhlau. 1, 12(a)(ii)
F3Geiriau yn rhl. 13(1) wedi eu hepgor (5.8.2022) yn rhinwedd Rheoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) (Diwygio) 2022 (O.S. 2022/802), rhlau. 1, 12(a)(iii)
F4Rhl. 13(1A)(1B) wedi ei fewnosod (5.8.2022) gan Rheoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) (Diwygio) 2022 (O.S. 2022/802), rhlau. 1, 12(b)
F5Gair yn rhl. 13(2) wedi ei fewnosod (5.8.2022) gan Rheoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) (Diwygio) 2022 (O.S. 2022/802), rhlau. 1, 12(c)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 13 mewn grym ar 28.7.2001, gweler rhl. 1(1)