- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
6.—(1) Rhaid i brif bwyllgor craffu a sefydlir o dan reoliad 4(1)(b):
(a)beidio â chynnwys unrhyw un o aelodau'r Bwrdd; a
(b)peidio â chael cadeirydd sy'n aelod o'r un grwp gwleidyddol â chadeirydd y Bwrdd (ac eithrio pan nad oes ond un grwp gwleidyddol); a
(c)gael cadeirydd sydd yn aelod o'r awdurdod.
(2) Rhaid i bwyllgor craffu a sefydlir o dan reoliad 4(1)(c)—
(a)cynnwys ymhlith ei aelodaeth fwyafrif o aelodau'r awdurdod nad ydynt yn aelodau o'r Bwrdd ac fe gaiff gynnwys ymhlith ei aelodaeth hyd at dri aelod o'r Bwrdd ond ni fydd gan unrhyw aelod o'r Bwrdd hawl i fod yn gadeirydd ar bwyllgor craffu; a
(b)cael cadeirydd sydd yn aelod o'r awdurdod.
(3) Bydd gan Bwyllgor Craffu a sefydlir o dan reoliad 4(1)(c) bŵer dirprwyedig—
(a)i adolygu neu graffu ar benderfyniadau a wnaed, neu gamau a gymerwyd, mewn cysylltiad â chyflawni unrhyw un o swyddogaethau'r awdurdod;
(b)i gyflwyno adroddiadau neu argymhellion i'r awdurdod mewn cysylltiad â chyflawni unrhyw un o swyddogaethau'r awdurdod;
(c)i gyflwyno adroddiadau neu argymhellion i'r awdurdod neu i drigolion yr ardal honno;
(ch)i argymell, mewn achos lle mae penderfyniad wedi'i wneud ond heb ei weithredu, fod y penderfyniad yn cael ei ailystyried gan y pwyllgor, yr is-bwyllgor neu'r person a wnaeth y penderfyniad; a
(d)i drefnu bod ei swyddogaeth o dan baragraff (i) yn cael ei harfer gan yr awdurdod.
(4) Bydd gan brif bwyllgor craffu a sefydlir o dan reoliad 4(1)(c) y pwer dirprwyedig i ymgymryd â swyddogaethau pwyllgor archwilio yn unol â pharagraff (3) ond bydd y pwerau hynny'n arferadwy i'r graddau y maent yn ymwneud â swyddogaethau'r Bwrdd yn unig.
(5) Yn ddarostyngedig i baragraff (6), ni chaiff pwyllgor craffu gyflawni unrhyw swyddogaeth heblaw yn unol â'r rheoliadau hyn.
(6) Os nad yw, neu i'r graddau nad yw, swyddogaeth awdurdod lleol o gynnal adolygiadau'r gwerth gorau o dan adran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999(1) yn gyfrifoldeb i Fwrdd yr awdurdod, caiff yr awdurdod drefnu i'r prif bwyllgor craffu neu i unrhyw bwyllgor craffu gynnal adolygiad o'r fath.
(7) Caiff prif bwyllgor craffu a phwyllgor craffu—
(a)penodi un neu ragor o is-bwyllgorau, a
(b)trefnu i unrhyw is-bwyllgor o'r fath gyflawni unrhyw un o'i swyddogaethau.
(8) Ni chaiff is-bwyllgor i brif pwyllgor craffu neu bwyllgor craffu gyflawni unrhyw swyddogaethau heblaw'r rhai a roddir iddo o dan baragraff (6).
(9) Rhaid i drefniadau amgen gan awdurdod lleol gynnwys darpariaeth sydd—
(a)yn galluogi unrhyw aelod o brif bwyllgor craffu neu bwyllgor craffu i sicrhau bod unrhyw fater sy'n berthnasol i swyddogaethau'r pwyllgor yn cael ei gynnwys ar yr agenda ar gyfer cyfarfod o'r pwyllgor ac yn cael ei drafod yno;
(b)yn galluogi unrhyw aelod o is-bwyllgor i bwyllgor o'r fath i sicrhau bod unrhyw fater sy'n berthnasol i swyddogaethau'r is-bwyllgor yn cael ei gynnwys ar yr agenda ar gyfer cyfarfod o'r is-bwyllgor ac yn cael ei drafod yno; ac
(c)yn galluogi prif bwyllgor craffu neu bwyllgor craffu i gyfeirio unrhyw fater mewn cysylltiad â phenderfyniad neu benderfyniad arfaethedig gan y Bwrdd at yr awdurdod lleol ar yr amod fod y penderfyniad neu'r penderfyniad arfaethedig yn ymwneud â swyddogaethau'r pwyllgor hwnnw.
(10) Caiff prif bwyllgor craffu a phwyllgor craffu, neu unrhyw is-bwyllgor i bwyllgor o'r fath gynnwys personau nad ydynt yn aelodau o'r awdurdod, ond ni fydd gan unrhyw bersonau o'r fath hawl i bleidleisio mewn unrhyw gyfarfod o bwyllgor neu is-bwyllgor o'r fath ar unrhyw gwestiwn sydd i'w benderfynu yn y cyfarfod hwnnw.
(11) Mae is-adrannau (2) a (5) o adran 102 o Ddeddf 1972 i fod yn gymwys i brif pwyllgor craffu a phwyllgor craffu, neu i is-bwyllgor i bwyllgor o'r fath, fel y maent yn gymwys i bwyllgor a benodir o dan yr adran honno.
(12) Caiff prif bwyllgor craffu a phwyllgor craffu, neu is-bwyllgor i bwyllgor o'r fath—
(a)ei gwneud yn ofynnol i aelodau o'r Bwrdd ac i swyddogion o'r awdurdod fod yn bresennol ger ei fron i ateb cwestiynau, a
(b)gwahodd personau eraill i fod yn bresennol yng nghyfarfodydd y pwyllgor neu'r is-bwyllgor.
(13) Bydd unrhyw aelod o'r Bwrdd neu unrhyw un o swyddogion yr awdurdod sydd wedi'i awdurdodi i fod yn bresennol i ateb cwestiynau yn unol â pharagraff (12) o dan ddyletswydd i wneud hynny ond ni fydd ar unrhyw aelod neu swyddog o'r fath rwymedigaeth i ateb unrhyw gwestiwn y byddai gan y person hwnnw hawl i wrthod ei ateb mewn achos, neu at ddibenion achos, mewn llys yng Nghymru neu Loegr.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys