Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Dyfarniadau gan Dribiwnlysoedd Achos a Thribiwnlysoedd Achos Interim (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 28 Gorffennaf 2001.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i ddyfarniadau gan dribiwnlysoedd achos a thribiwnlysoedd achos interim yng Nghymru yn unig.
Dyfarniadau
2. Bydd y darpariaethau a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn yn gymwys i ddyfarniadau gan dribiwnlysoedd achos neu dribiwnlysoedd achos interim.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(1).
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
21 Mehefin 2001