- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
11.—(1) Ar ôl cyflwyno rhyw ddogfen sydd wedi'i dilysu'n briodol ac sy'n dangos ei awdurdod, os gofynnir iddo wneud hynny, caiff swyddog awdurdodedig fynd ar bob adeg resymol i unrhyw dir heblaw tir sy'n cael ei ddefnyddio at ddibenion ty annedd yn unig:—
(a)y mae cymorth ariannol neu ymrwymiad yn ymwneud ag ef, neu
(b)y mae ganddo sail resymol dros gredu bod dogfennau sy'n ymwneud â chymorth ariannol neu ag ymrwymiad yn cael eu cadw yno,
at unrhyw un o'r dibenion a grybwyllir ym mharagraff (2).
(2) Dyma'r dibenion hynny—
(a)archwilio'r tir y mae cymorth ariannol neu ymrwymiad yn ymwneud ag ef;
(b)cadarnhau bod unrhyw wybodaeth a roddwyd gan fuddiolwr sy'n ymwneud â chymorth ariannol neu ymrwymiad yn gywir; ac
(c)darganfod a yw buddiolwr wedi cydymffurfio ag ymrwymiad neu beidio.
(3) Caiff person awdurdodedig sydd wedi mynd i unrhyw dir o dan baragraff (1)—
(a)archwilio'r tir ac unrhyw ddogfen, cofnod neu offer arno, y mae'n credu'n rhesymol eu bod yn ymwneud â chymorth ariannol neu ag ymrwymiad;
(b)ei gwneud yn ofynnol i'r buddiolwr, neu i unrhyw gyflogai, gwas neu asiant i fuddiolwr o'r fath, gyflwyno neu sicrhau y cyflwynir, unrhyw ddogfen neu roi unrhyw wybodaeth ychwanegol sydd yn ei feddiant neu o dan ei reolaeth sy'n ymwneud â chymorth ariannol neu ymrwymiad;
(c)os oes unrhyw wybodaeth y cyfeirir ati yn is-baragraff (b) yn cael ei chadw drwy gyfrwng cyfrifiadur, mynd at unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw offer neu ddeunyddiau cysylltiedig sy'n cael neu sydd wedi cael eu defnyddio i storio'r wybodaeth honno, a'i gwneud yn ofynnol i'r wybodaeth gael ei chyflwyno mewn ffurf sy'n ddarllenadwy ac a all gael ei chymryd i ffwrdd;
(ch)ei gwneud yn ofynnol i gopïau neu ddetholiadau o unrhyw ddogfen neu gofnod arall o'r fath y cyfeirir atynt yn is-baragraff (a) neu (b) yn cael eu cyflwyno;
(d)cadw copi o unrhyw ddogfen a gyflwynir iddo; ac
(dd)cipio a chadw unrhyw ddogfen neu gofnod arall y mae'n credu'n rhesymol y gall fod eu hangen fel tystiolaeth mewn achos o dan y Rheoliadau hyn.
(4) Rhaid i fuddiolwr neu unrhyw gyflogai, gwas neu asiant i'r buddiolwr roi i berson awdurdodedig bob cymorth rhesymol mewn perthynas ag arfer ei bwerau o dan baragraffau (1) a (3).
(5) Caiff person awdurdodedig sy'n mynd i unrhyw dir o dan baragraff (1) fynd yng nghwmni—
(a)unrhyw swyddog o'r Comisiwn, a
(b)unrhyw bersonau eraill y mae'n credu eu bod yn angenrheidiol,
a bydd paragraffau (3) a (4) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw bersonau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (b) wrth weithredu o dan gyfarwyddiadau person awdurdodedig, fel pe bai'n berson awdurdodedig.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys