Rheoliadau Clwy'r Traed a'r Genau (Marcio Cig, Cynhyrchion Cig, Briwgig a Pharatoadau Cig) (Cymru) (Rhif 2) 2001

Offerynnau Statudol Cymru

2001 Rhif 2627 (Cy. 216 )

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Clwy'r Traed a'r Genau (Marcio Cig, Cynhyrchion Cig, Briwgig a Pharatoadau Cig) (Cymru) (Rhif 2) 2001

Wedi'u gwneud

19 Gorffennaf 2001

Yn dod i rym

20 Gorffennaf 2001

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) mewn perthynas â Pholisi Amaethyddol Cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno, a phob pwer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Clwy'r Traed a'r Genau (Marcio Cig, Cynhyrchion Cig, Briwgig a Pharatoadau Cig) (Cymru) (Rhif 2) 2001; maent yn gymwys i Gymru a deuant i rym ar 20 Gorffennaf 2001.

Diwygiadau

2.  Rhoddir y dyddiad “23rd September 2001” yn lle'r dyddiad “23rd July 2001” yn y darpariaethau canlynol —

(a)paragraff 3A(3) o Ran VI o Atodlen 2 i Reoliadau Cynhyrchion Cig (Hylendid) 1994(3));

(b)rheoliad 7(7) a rheoliad 8(8) o Reoliadau Briwgig a Pharatoadau Cig (Hylendid) 1995(4) ); ac

(c)paragraff 3 o Ran I o Atodlen 13 i Reoliadau Cig Ffres (Hylendid ac Archwilio) 1995(5).

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(6)

D. Elis-Thomas

Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru

ar 19 Gorffennaf 2001

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae Penderfyniad y Comisiwn 2001/304/EC a Phenderfyniad y Comisiwn 2001/345/EC yn caniatáu marciau deuol ar gig, briwgig, paratoadau cig a chynhyrchion cig am gyfnod trosiannol.

Yn achos cig, mae'r Penderfyniadau hyn wedi'u rhoi ar waith yng Nghymru gan Reoliadau Clwy'r Traed a'r Genau (Marcio Cig a Chynhyrchion Cig) (Cymru) 2001 (O.S. 2001/1508) (Cy.105) sy'n diwygio Rheoliadau Cig Ffres (Hylendid ac Archwilio) 1995 (O.S. 1995/539).

Yn achos cynhyrchion cig, maent wedi'u rhoi ar waith yng Nghymru gan Reoliadau Clwy'r Traed a'r Genau (Marcio Cig a Chynhyrchion Cig) (Cymru) 2001 sy'n diwygio Rheoliadau Cynhyrchion Cig (Hylendid) 1994 (O.S. 1994/3082).

Yn achos briwgig a pharatoadau cig, mae'r Penderfyniadau wedi'u rhoi ar waith yng Nghymru gan Reoliadau Clwy'r Traed a'r Genau (Marcio Cig, Briwgig a Pharatoadau Cig) (Cymru) 2001 (O.S. 2001/1740) (Cy.123) sy'n diwygio Rheoliadau Briwgig a Pharatoadau Cig (Hylendid) 1995 (O.S. 1995/3205).

Ym mhob achos, mae'r cyfnod trosiannol yn dod i ben ar 23 Gorffennaf 2001. Nid yw'r dyddiad i'w weld ym Mhenderfyniadau'r Comisiwn.

Mae'r Rheoliadau hyn yn estyn y cyfnod trosiannol tan 23 Medi 2001.

Nid oes arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi ar gyfer y Rheoliadau hyn.

(3)

O.S. 1994/3082. Ychwanegwyd paragraff 3A(3) o Ran VI o Atodlen 2 gan Reoliadau Clwy'r Traed a'r Genau (Marcio Cig a Chynhyrchion Cig) (Cymru) 2001, O.S. 2001/1508 (Cy.105).

(4)

O.S. 1995/3205. Ychwanegwyd rheoliadau 7(7) ac 8(8) gan Reoliadau Clwy'r Traed a'r Genau (Marcio Cig, Briwgig a Pharatoadau Cig) (Cymru) 2001, O.S 2001/1740 (Cy.123).

(5)

O.S. 1995/539. Ychwanegwyd paragraff 3 o Ran I o Atodlen 13 gan Reoliadau Clwy'r Traed a'r Genau (Marcio Cig a Chynhyrchion Cig) (Cymru) 2001, O.S. 2001/1508 (Cy.105).