Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) (Diwygio) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Chwefror 2001.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y prif Reoliadau” (“the principal Regulations”) yw Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) 1992(1).
(3) Bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
(1)
O.S. 1992/2977; yr offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 1993/964.