Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Porthiant (Cymru) 2001

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau AgorExpand opening options

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Offerynnau Statudol Cymru

2001 Rhif 343 (Cy.15)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Rheoliadau Porthiant (Cymru) 2001

Wedi'u gwneud

6 Chwefror 2001

Yn dod i rym

1 Mawrth 2001

Drwy arfer y pwerau a roddwyd i Weinidogion y Goron gan adrannau 66(1), 68(1) ac (1A), 69(1), (3), (6) a (7), 70(1), 74(1), 74A ac 84 o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970(1), ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(2), ac ar ôl ymgynghori yn unol ag adran 84(1) o'r Ddeddf honno â'r personau neu'r cyrff hynny y mae'n ymddangos iddo eu bod yn cynrychioli'r buddiannau perthnasol, a chan ei fod wedi'i ddynodi(3) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(4)) mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer pwerau a roddwyd iddo gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol:—

(1)

1970 p.40; mewnosodwyd adran 74A gan Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972, p.68, Atodlen 4, paragraff 6. Diwygiwyd y Ddeddf hefyd gan Reoliadau Diwygio Deddf Amaethyddiaeth 1970 1982 (O.S. 1982/980). Mae adran 66(1) yn cynnwys diffiniadau o'r ymadroddion “the Ministers” (y Gweinidogion), “prescribed” (a ragnodwyd) a “regulations” (rheoliadau); diwygiwyd y diffiniadau o “the Ministers” gan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Cymru) (Rhif 1) 1978 (O.S. 1978/272), Atodlen 5, paragraff 1.

(2)

Yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. Rhif 1999/672).

(3)

Yn rhinwedd Gorchymyn y Cymunedau Ewropeaidd (Dynodi) (Rhif 3) 1999 (O.S. Rhif 1999/2788).

Yn ôl i’r brig

Options/Help