- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
12.—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i wybodaeth am y pynciau canlynol neu yn eu cylch —
(a)cyfanswm y teithwyr o bob disgrifiad a gludwyd gan weithredydd ar wasanaethau y mae consesiynau teithio gorfodol yn cael eu darparu arnynt ar unrhyw adeg; a
(b)swm y prisiau tocynnau a gafodd y gweithredydd oddi wrth y teithwyr hynny.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3) o'r rheoliad hwn, yr unig wybodaeth y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddi y gellir ei gwneud yn ofynnol i weithredydd ei rhoi yw gwybodaeth mewn perthynas â'r holl wasanaethau y mae'r gweithredydd hwnnw'n eu darparu ac y darperir consesiynau teithio gorfodol arnynt.
(3) Os oes trefniadau'n darparu ar gyfer rhannu ardal awdurdod consesiynau teithio yn wahanol rannau, gellir ei gwneud yn ofynnol i weithredydd roi'r wybodaeth y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddi mewn perthynas â phob rhan, ond nid os bydd hyn yn ei gwneud yn ofynnol iddo ddatgelu niferoedd y teithwyr a gludwyd ar unrhyw wasanaeth penodol neu grŵ p o wasanaethau a ddarparwyd ganddo neu (yn ôl fel y digwydd) swm y prisiau tocynnau a gafodd oddi wrth y teithwyr hynny.
(4) Gellir gwneud darpariaeth, mewn unrhyw achos lle rhoddir gwybodaeth y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddi yn unol â threfniadau sy'n rhoi ei effaith i'r rheoliad hwn, i'r wybodaeth gael ei rhoi ynghyd â thystysgrif ei bod yn gywir ac yn gyflawn, sef tystysgrif a roddir gan berson cyfrifol.
(5) Ym mharagraff (4) o'r rheoliad hwn ystyr “person cyfrifol” yw person sy'n aelod o un neu fwy o'r cyrff canlynol —
(a)Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr;
(b)Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig yr Alban;
(c)Cymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig;
(ch)unrhyw gorff proffesiynol o gyfrifwyr a fydd wedi'i gymeradwyo yn ysgrifenedig gan yr awdurdod at ddibenion y paragraff hwn.
(6) Os bydd awdurdod yn gofyn bod gwybodaeth yn cael ei rhoi ynghyd â thystysgrif gan berson cyfrifol yn unol â pharagraff (4) rhaid i unrhyw gost ychwanegol resymol a dynnir gan weithredydd oherwydd y gofyn hwnnw gael ei ad-dalu gan yr awdurdod ac i'r perwyl hwnnw bernir ei bod yn rhan o'r balans sy'n daladwy o dan Reoliad 5(3) mewn perthynas â'r cyfnod talu perthnasol y cyflenwyd yr awdurdod â manylion llawn y gost honno yn ei ystod.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys