- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
3.—(1) Bydd ceiswyr yn gymwys i gael taliadau o dan y cynllun Tir Mynydd:
(a)os ydynt wedi cyflwyno cais dilys am gymorth arwynebedd a ddangosodd bod tir cymwys yn bodoli;
(b)os ydynt wedi ymrwymo i barhau i ffermio o leiaf chwe hectar o dir cymwys am bum mlynedd o ddyddiad taliad Tir Mynydd cyntaf; ac
(c)os ydynt wedi cyflwyno cais am gymorth da byw mewn perthynas â defaid neu fuchod sugno neu'r ddau yn ystod y flwyddyn y cylwynir y cais Tir Mynydd; a
(d)os ydynt yn cymhwyso arferion ffermio da, sy'n gydnaws â'r angen i ddiogelu'r amgylchedd a chynnal cefn gwlad, drwy ffermio cynaliadwy yn benodol.
(2) Yr arwynebedd cymwys yw'r tir porthiant o fewn yr ardal lai ffafriol a ddatganwyd ar y ffurflen gais IACS am gymorth arwynebedd ar gyfer y flwyddyn gynllun, yn ddarostyngedig i'r darpariaethau canlynol mewn perthynas â thir a borir gan fuchod llaeth.
(3) Os oes gan y ceisydd, ar ddyddiad y cais Tir Mynydd, swmp cyfeiriol unigol o laeth ar gael , bydd arwynebedd y tir cymwys yn cael ei leihau yn unol â darpariaethau'r rheoliad hwn.
(4) Cyfrifir y lleihad trwy gyfeirio at y nifer o anifeiliaid yn y fuches laeth dybiannol.
(5) Cyfrifir y nifer o unedau da byw yn y fuches laeth dybiannol trwy rannu'r swmp cyfeiriol unigol o laeth sydd ar gael i'r ceisydd â 5730, sef y nifer o litrau o laeth y bernir ei fod yn cyfateb i gynnyrch blynyddol un fuwch laeth.
(6) Mae'r unedau da byw hynny yn cael eu cymhwyso'n gyntaf i'r rhan honno o'r daliad nad yw'n dir cymwys ar y raddfa o un hectar ar gyfer pob dwy uned da byw sy'n cael eu cyfrifo felly.
(7) Mae'r unedau da byw sydd ar ôl yn cael eu defnyddio i gyfrifo'r lleihad mewn tir cymwys yn ôl yr un gyfradd, gan leihau'r tir tan anfantais cyn y tir tan anfantais ddifrifol.
(8) Yn y rheoliad hwn ystyr “buches laeth dybiannol” yw cyfanswm yr anifeiliaid y bernir eu bod yn fuches laeth ar dir sy'n cael ei ffermio gan y ceisydd yng Nghymru fel y'i cyfrifwyd uchod ac mae i “swmp cyfeiriol unigol o laeth” yr un ystyr ag i “individual reference quantity of milk” yn Erthygl 31 o Reoliad y Comisiwn 2342/1999(1))
4.—(1) I fod yn gymwys i gael taliadau Tir Mynydd rhaid bod gan y daliad ddwysedd stocio o 0.1 uned da byw o leiaf am bob hectar.
(2) Pan fydd dwysedd stocio is yn ofynnol gan gynlluniau amgylcheddol neu gadwraeth natur y mae'r ceisydd yn cymryd rhan ynddynt, fe ganiateir dwysedd stocio is.
5.—(1) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau paragraff (2) isod, ni fydd unrhyw ddwysedd stocio uchaf yn cael ei ragnodi.
(2) Bydd daliad y mae ei ddwysedd stocio yn 1.8 uned da byw am bob hectar neu'n uwch yn cael ei archwilio gan neu ar ran y Cynulliad Cenedlaethol yn ystod 2001 (neu yn y flwyddyn gyntaf y bydd y dwysedd yn uwch na'r ffigur hwnnw) ac o leiaf bob tair blynedd wedi hynny.
(3) Os bydd archwiliad o dan baragraff (2) uchod yn dangos tystiolaeth sy'n bodloni'r Cynulliad Cenedlaethol fod gorbori yn digwydd, fe fydd yn ofynnol i'r ceisydd wneud cytundeb rheoli gyda'r Cynulliad Cenedlaethol gyda golwg ar gael gwared ar y gorbori hwnnw. Rhaid i'r cytundeb nodi amserlen i'r ceisydd addasu ei gyfradd stocio i ddileu'r perygl o orbori.
(4) Bydd unrhyw geisydd y mae ei ddaliad wedi'i archwilio (a bod yr archwiliad hwnnw wedi arwain at dystiolaeth o orbori) ond nad yw wedi gwneud cytundeb rheoli â'r Cynulliad Cenedlaethol neu gydymffurfio â thelerau'r cytundeb rheoli o'r fath, yn peidio â bod yn gymwys ar gyfer taliadau Tir Mynydd nes i'r cynllun rheoli gael ei gwblhau neu nes y cydymffurfir ag ef, yn ôl fel y digwydd.
6.—(1) Bydd ceisydd sy'n bodloni'r amodau a nodir yn rheoliadau 3,4 a 5 uchod yn gymwys i gael taliadau o dan elfen 1 o'r cynllun yn unol â'r cyfrifiad a gynhwysir yn Rhan A o'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
(2) Bydd y cyfrifiad sylfaenol a wneir yn unol a Rhan A o'r Atodlen yn ddarostyngedig i'r mecanwaith meinhau a nodir yn Rhan B o'r Atodlen , pan fydd y tir porthiant cymwys yn fwy na 140 hectar.
(3) Bydd dull cyfrifo elfen 1 o'r taliad arwynebedd hefyd yn ddarostyngedig i fecanwaith diogelwch a gyfrifir y mecanwaith diogelwch yn unol â Rhan C o'r Atodlen .
7.—(1) Bydd gan geiswyr hawl i gael ymchwydd o'r taliad sy'n daladwy iddynt mewn perthynas ag elfen 1 o'r cynllun Tir Mynydd os ydynt yn gymwys o dan un neu fwy o'r categorïau a bennir yn rheoliad 8 isod.
(2) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau paragraff (4) isod, bydd gan unrhyw geisydd sy'n bodloni un o'r categorïau hawl i gael taliad chwyddo o 10 y cant o'r taliad a gyfrifwyd o dan elfen 1.
(3) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau paragraff (4) isod, bydd gan unrhyw geisydd sy'n bodloni dau neu fwy o'r categorïau hawl i gael taliad chwyddo o 20 y cant o'r taliad a gyfrifwyd o dan elfen 1.
(4) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol addasu'r taliadau chwyddo sy'n daladwy i geiswyr yn unol â'r rheoliad hwn os bydd cyfanswm y taliadau chwyddo y cyfrifir eu bod yn daladwy o dan y rheoliad hwn yn dod i fwy na phump y cant o'r gyllideb gyfan ar gyfer y cynllun Tir Mynydd yn ystod 2001 a 2002 a deg y cant ar gyfer y blynyddoedd dilynol. Os felly, bydd y taliad chwyddo canrannol yn cael ei leihau i'r ganran a fydd yn cyfyngu cyfanswm y taliadau chwyddo i bump y cant o gyllideb Tir Mynydd ar gyfer 2001 a 2002 a deg y cant ar gyfer y blynyddoedd dilynol.
8. Mae'r categorïau sy'n gymwys ar gyfer y taliad chwyddo y cyfeiriwyd ato yn rheoliad 7 uchod fel a ganlyn:
(a)bod y daliad yn cynnwys cymhareb o o leiaf un fuwch fridio ar gyfer pob 30 mamog yn yr ardal lai ffafriol;
(b)bod y fferm wedi'i chofrestru yng Nghofrestr ar Safonau Bwyd Organig y Deyrnas Unedig (corff yr hysbyswyd Y Comisiwn Ewropeaidd ei fod wedi'i ddynodi fel awdurdod archwilio) mewn perthynas â thir nad yw eisoes yn destun cytundeb o dan naill ai'r cynllun cymorth organig neu'r cynllun ffermio organig;
(c)bod gan y fferm o leiaf ddau y cant o'r tir ardal llai ffafriol (gyda lleiafswm o un hectar) sydd o dan un neu fwy o gnydau âr, cnydau gwreiddlysiau neu gnydau garddwriaethol maes (ac eithrio indrawn a thir glas) nad yw'n dir y gwnaed cais am daliadau cymorth tir âr ar ei gyfer;
(ch)nad yw'r dwysedd stocio yn fwy na 1.2 uned da byw am bob hectar;
(d)os yw'r ceisydd yn arfer hawliau pori ar dir comin a gofrestrwyd o dan Dddedf Cofrestru Tir Comin 1965(2)) yn yr ardal lai ffafriol, bod y ceisydd, a phob porwr arall, yn mynd â'r holl stoc oddi ar y tir comin hwnnw ar yr un pryd am gyfnod o dri mis o fewn y cyfnod o fis Medi tan fis Chwefror yn gynwysedig o fewn unrhyw gyfnod o ddeuddeng mis;
(dd)bod o leiaf ddau y cant o'r ardal lai ffafriol ar y daliad (gyda lleiafswm o un hectar) yn goetir collddail sydd wedi'i ffensio a'i reoli fel bod modd caniatau mynediad ar gyfer pori ac nad yw fel arall yn denu cymorth polisi amaethyddol cyffredin o dan Gynllun Premiwm Coetir Cymru;
(e)bod y fferm wedi'i chofrestru o dan gynllun gwarantu ffermydd cymeradwy ar gyfer cig eidion neu ddefaid neu'r ddau a hwnnw'n gynllun sydd wedi'i achredu gan Wasanaeth Achredu'r Deyrnas Unedig.
O.J. Rhif L281, 04.11.99, t.30.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys