xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
2.—(1) Yn y Cynllun hwn, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall—
ystyr “banc” (“bank”) yw
unrhyw sefydliad sydd am y tro wedi'i awdurdodi o dan Ddeddf Bancio 1987(1);
unrhyw berson sydd am y tro wedi'i bennu mewn unrhyw un o baragraffau 2 i 10 o Atodlen 2 i'r Ddeddf honno (personau esempt),
unrhyw berson y mae ganddo hawl am y tro, yn rhinwedd Rheoliadau Cydgysylltu Bancio (Ail Gyfarwyddeb y Cyngor) 1992(2)) i dderbyn adneuon (o fewn ystyr y Ddeddf) yn y Deyrnas Unedig;
ystyr “cynhyrchu moch” (“pig production”) yw unrhyw fath o gynhyrchu moch gan gynnwys bridio, magu a gorffen;
ystyr “cynllun busnes” (“business plan”) yw cynllun manwl sy'n nodi amcanion y busnes, y strategaeth a'r tactegau ar gyfer bodloni'r amcanion hynny, amcangyfrifon ynghylch amgylchiadau ariannol ac amgylchiadau eraill y busnes os digwydd i'r amcanion gael eu gwireddu a'r buddsoddi sy'n angenrheidiol i wireddu'r amcanion hynny; ac
ystyr “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
(2) Yn y Cynllun hwn, mae unrhyw gyfeiriad—
(a)at baragraff â rhif yn gyfeiriad at y paragraff yn y Cynllun hwn sy'n dwyn y rhif hwnnw;
(b)at is-baragraff â rhif (heb gyfeiriad cyfatebol at baragraff penodol) yn gyfeiriad at yr is-baragraff sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y paragraff y gwelir y cyfeiriad ynddo.