Print Options
PrintThe Whole
Instrument
PrintThis
Nodyn Esboniadol
only
Statws
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Nodyn Esboniadol
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru, yn gweithredu Penderfyniad y Comisiwn 2001/664/EC() sy'n diwygio Penderfyniad y Comisiwn 96/301/EC() (“y Penderfyniad”) sy'n awdurdodi'r Aelod-wladwriaethau, dros dro, i gymryd mesurau brys yn erbyn lledaenu Pseudomonas solanacearum (Smith) Smith mewn perthynas â'r Aifft. Maent yn gwneud hynny drwy ychwanegu at y rhestr o offerynnau sy'n diwygio'r Penderfyniad sydd wedi'i gynnwys yn yr Atodlen i Reoliadau Tatws sy'n Deillio o'r Aifft 1998 (O.S. 1998/201) (“y Rheoliadau”) (rheoliad 2(4)). Cyfeirir bellach at Pseudomonas solanacearum Smith (Smith) fel Ralstonia solanacearum Smith (Yabuuchi) et al. (gweler Cyfarwyddeb y Cyngor 98/57/EC (OJ Rhif L235, 21.9.1998, t. 1)) er nad yw'r cyfeiriad ato yn y Penderfyniad wedi'i ddiwygio eto. Mae Penderfyniad 2001/664/EC yn adnewyddu'r fframwaith y gellir mewnforio tatws o'r Aifft odano i diriogaeth y Gymuned Ewropeaidd yn ystod tymor 2001/2002.
Mae'r Rheoliadau hyn yn egluro hefyd ar ba sail y gellir defnyddio pwerau arolygwyr o dan Orchymyn Iechyd Planhigion (Prydain Fawr) 1993 mewn perthynas â'r Rheoliadau (rheoliad 2(2)), a chynyddu'r ffi sy'n daladwy gan fewnforwyr y mae samplau wedi'u cymryd o'u tatws er mwyn profi i weld a yw Ralstonia solanacearum Smith (Yabuuchi) et al. yn bresennol (rheoliad 2(3)). Mae'r cynnydd yn y ffi yn adlewyrchu codiad mewn costau labordy ac mae'n gyson â'r cynnydd mewn chwyddiant.
Yn ôl i’r brig