xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 2RHAN 2 O'R DATGANIAD CYLLIDEB

NODIADAU I RAN 2

CYLLIDEB YSGOLION UNIGOL — FFACTORAU ARIANNU

1.  Mae'r nodiadau â rhif isod yn cyfeirio at yr eitemau yn y tabl sy'n dwyn y rhif cyfatebol. Pan nad yw awdurdod yn bwriadu gwneud unrhyw ddarpariaeth ariannol ar gyfer unrhyw fater a restrir yn y tabl rhaid rhoi sero yn y lle priodol.

Rhaid i'r tabl restru a chynnwys disgrifiad o bob ffactor a ddefnyddir gan gynnwys methodoleg lawn y ffactor. Dylid darparu'r disgrifiad hwn yn y tabl yn y blwch perthnasol sy'n dwyn y pennawd “Dull”.

YSGOLION CYNRADD AC UWCHRADD

3.  Yn y fan hon rhowch ddisgrifiad o'r dull a ddefnyddiwyd i gyfrifo, o'r niferoedd disgyblion a gymerwyd o'r cyfrifiad ysgolion blynyddol, y nifer o'r disgyblion sydd i'w cymryd i ystyriaeth wrth ddyrannu arian drwy fformwla ddyrannu'r awdurdod.

4.  Pennawd colofn cyffredinol ar gyfer y math o ffactor a'i enw a ddefnyddiwyd i benderfynu cyllidebau ysgol.

5.  Yn y golofn hon (5) rhowch gyferbyn â phob ffactor yng ngholofn (4) ac mewn trefn gynyddol bob blwyddyn, grŵp oedran, grŵp blwyddyn, pwnc a addysgir neu fand yn seiliedig ar asesiad o'r angen sy'n berthnasol ac sy'n gymwys yn unol â'r fformwla ddyrannu ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd, gan bennu ar wahân unrhyw gategorïau penodol ar wahân ar gyfer disgyblion mewn dosbarthiadau meithrin neu'r rhai sy'n cael eu hariannu yn ôl y pwnc a astudir. Os yw nifer y disgyblion mewn dosbarthiadau meithrin wedi'u pwysoli yna rhaid i'r pwysoliadau gael eu dangos gyda nodyn i esbonio a yw'r niferoedd yn niferoedd gwirioneddol neu'n seiliedig ar rai cyfatebol amser-llawn. Rhowch hefyd yn yr adrannau priodol o'r tabl yr ystod neu'r lefelau sy'n berthnasol i ffactorau penodol i safle a phenodol i ysgol.

6.  Yn y golofn hon (6), gyferbyn â phob cofnod yng ngholofn (4), rhowch y swm a briodolir i bob disgybl yn y flwyddyn, y grŵp oedran, y grŵp blwyddyn, y pwnc a addysgir neu'r band yn seiliedig ar asesiad o angen.

7.  Rhowch yn y golofn hon (7), gyferbyn â phob cofnod yng ngholofn (4)—

(a)cyfanswm nifer y disgyblion cofrestredig yn y flwyddyn, y grŵp oedran neu'r grŵp blwyddyn mewn ysgolion cynradd ac uwchradd sy'n cael eu cymryd i ystyriaeth yn y fformwla ddyrannu, gan anwybyddu unrhyw bwysoli; neu

(b)nifer y lleoedd, yn achos darparu lleoedd mewn ysgolion y mae'r awdurdod yn cydnabod eu bod ar gadw i blant ag anghenion addysgol arbennig, neu i blant mewn dosbarthiadau meithrin.

8.  Yn y golofn hon (8), gyferbyn â phob cofnod yng ngholofn (4), rhowch y symiau a geir drwy luosi'r swm yng ngholofn (6) â'r rhif yng ngholofn (7).

9.  Yn y golofn hon (9) rhowch gydgyfanswm y symiau yng ngholofn (8) wedi'i fynegi fel canran o'r swm y cyfeirir ato yn llinell (32).

10.  Is-bennawd i'r ffactorau sy'n dyrannu'r ISB drwy gyfeirio at niferoedd y disgyblion cofrestredig mewn ysgolion cynradd ac uwchradd a'u hoedrannau (neu eu grŵp oedran neu'r grŵp blwyddyn y maent yn perthyn iddo), eu presenoldeb mewn dosbarth meithrin, pynciau eu hastudiaethau neu unrhyw anghenion addysgol arbennig a all fod ganddynt neu yr ymdrinnir â hwy fel pe baent ganddynt at ddibenion cymhwyso'r fformwla ddyrannu, fel bod pob disgybl o fewn categori penodol yn denu symiau cyfartal ni waeth pa ysgol y mae'n ei mynychu.

11.  Pennawd ar gyfer y cofnodion sydd i'w gwneud o dan is-adran ariannu pwysoliad-oedran y tabl.

12.  Yn y golofn hon (12) rhowch y symiau sy'n cynrychioli'r pwysoliad a roddir yn ôl oedran (gan gynnwys cyfnod allweddol neu grŵp blwyddyn), a ddarperir addysg feithrin i ddisgybl neu'r pwnc neu'r cwrs astudiaeth yn achos disgyblion mewn chweched dosbarth.

13.  Yn y fan hon rhowch ddisgrifiad o'r dull a ddefnyddiwyd i weithredu'r ffactor, gan esbonio amrywiadau yn lefel y ddarpariaeth y gall disgyblion neu eu hysgolion eu denu.

14.  Yn y fan hon rhowch gydgyfanswm y rhifau yng ngholofn (7), a chydgyfanswm y symiau yng ngholofn (8), ar wahân ar gyfer ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd a rhowch gyfanswm.

Arian AAA a seilir ar niferoedd disgyblion

15.  Yn y golofn hon rhowch bob ffactor, sy'n berthnasol i ddisgyblion â datganiadau, sy'n dyrannu'r ISB drwy gyfeirio at niferoedd y disgyblion cofrestredig mewn ysgolion cynradd ac uwchradd ac at unrhyw anghenion addysgol arbennig a all fod ganddynt neu y maent i'w trin fel pe baent ganddynt at ddibenion cymhwyso'r fformwla ddyrannu.

16.  Yn y golofn hon rhowch bob ffactor sy'n berthnasol i ddisgyblion heb ddatganiadau, a fyddai'n cael eu rhoi yng ngholofn (15) pe baent yn berthnasol i ddisgyblion â datganiadau.

Arian AAA a seilir ar niferoedd lleoedd a drinnir fel arian a seilir ar niferoedd disgyblion

17.  Yn y golofn hon rhowch bob ffactor (heblaw'r rhai y cyfeirir atynt yn nodiadau (10) i (16) uchod) sy'n dyrannu'r ISB ar sail anghenion perthnasol ysgolion unigol cynradd ac uwchradd i dynnu gwariant wrth wneud darpariaeth addysgol arbennig i ddisgyblion ag anghenion addysgol arbennig.

Arian arall a drinnir fel arian a seilir ar niferoedd disgyblion

18.  Yn y golofn hon (18) rhowch bob ffactor (heblaw'r rhai y cyfeirir atynt yn nodiadau (10) i (17) uchod) y dyrennir yr un arian i ddisgyblion o'r un oedran yn unol â hwy, ni waeth beth yw natur yr ysgol y maent yn ei mynychu.

Cyfanswm yr arian cynradd ac uwchradd a drinnir fel arian a seilir ar niferoedd disgyblion

19.  Yn y fan hon rhowch gydgyfanswm y symiau a roddwyd yn y blychau cyfanswm yn llinellau (11), (15), (16), (17) a (18), yn unol â nodyn (14) ar wahân ar gyfer ysgolion cynradd, ysgolion uwchradd ac mewn cyfanswm, a chydgyfanswm y canrannau a roddir yng ngholofn (9).

Arian AAA gormodol i ddisgyblion heb ddatganiadau

20.  Yn y golofn hon rhowch bob ffactor sy'n berthnasol i ddisgyblion heb ddatganiadau o anghenion addysgol arbennig a fyddai'n cael eu rhoi yng ngholofn (16) uchod oni bai am effaith gyfyngu rheoliad 22(d) o Reoliadau 1999.

ARIAN ARALL

21.  Is-bennawd i'r ffactorau sy'n dyrannu'r ISB drwy gyfeirio at ffactorau heblaw'r rhai hynny y cyfeirir atynt yn nodiadau (11) i (18). Rhaid i bob ffactor yn yr adran hon gael ei dyrannu i un o'r grwpiau canlynol:

Ffactorau anghenion addysgol ychwanegol

22.  Yn y golofn hon (22) rhowch bob ffactor y dyrennir symiau i ysgolion cynradd ac uwchradd ar gyfer anghenion addysgol ychwanegol yn unol â hwy.

Ffactorau penodol i safle

23.  Yn y golofn hon (23) rhowch bob ffactor y dyrennir symiau i ysgolion cynradd ac uwchradd yn unol â hwy drwy gyfeirio at adeiladau neu diroedd yr ysgol.

24.  Yn y golofn hon (24), gyferbyn â phob uned o fesur a ddisgrifir yng ngholofnau (23), (25) a (26), rhowch y nifer o unedau o dan sylw.

Ffactorau penodol i ysgol

25.  Yn y golofn hon (25) rhowch bob ffactor y dyrennir symiau i ysgolion cynradd ac uwchradd yn unol â hwy drwy gyfeirio at nodweddion yr ysgol.

Addasiadau cyllideb

26.  Yn y golofn hon (26) rhowch bob ffactor y dyrennir symiau i ysgolion cynradd ac uwchradd yn unol â hwy yn unol ag unrhyw ddarpariaethau yn Rheoliadau 1999 sy'n ymwneud ag addasiadau cyllideb. Cynhwyswch unrhyw addasiadau i adlewyrchu addasiadau ôl-weithredol yn niferoedd y disgyblion gan gynnwys disgyblion a waharddwyd.

Arian wrth gefn heb ei dyrannu

27.  Yn y fan hon rhowch swm y rhan honno o ISB yr awdurdod sydd wedi'i chadw mewn perthynas ag ysgolion cynradd ac uwchradd ac na chafodd ei dyrannu ar ddechrau'r flwyddyn ariannol. Dangoswch y symiau ar wahân ar gyfer ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd a rhowch gyfanswm.

CYFANSWM YR ARIAN SYDD AR GAEL I YSGOLION Y BRIF FFRWD

28.  Yn y fan hon rhowch gydgyfanswm y symiau a roddwyd yn unol â nodiadau (19), (20), (22), (23), (25), (26) a (27), ar wahân ar gyfer ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd ac mewn cyfanswm.

YSGOLION ARBENNIG

29.  Pennawd cyffredinol ar gyfer yr ysgolion y mae'r adran hon o'r tabl yn berthnasol iddynt.

Arian a seilir ar niferoedd lleoedd

30.  Yn y golofn hon (30) rhowch y math o ffactor a'i enw a ddefnyddwyd i ddyrannu'r ISB i ysgolion arbennig drwy gyfeirio at y niferoedd a'r mathau o leoedd y maent yn eu darparu.

Arian a seilir ar niferoedd disgyblion

31.  Yn y golofn hon (31) rhowch bob ffactor y dyrennir symiau i ysgolion arbennig yn unol â hwy drwy gyfeirio at y niferoedd a'r mathau o ddisgyblion yn yr ysgol.

Ffactorau eraill

32.  Is-bennawd i'r ffactorau sy'n dyrannu'r ISB i ysgolion arbennig heblaw drwy gyfeirio at nifer y lleoedd a ddarperir, neu nifer y disgyblion cofrestredig yn yr ysgolion hynny. Rhaid i bob ffactor yn yr adran hon gael ei dyrannu i un o'r grwpiau canlynol:

Ffactorau anghenion addysgol ychwanegol

33.  Yn y golofn hon (33) rhowch bob ffactor y dyrennir symiau yn unol â hwy ar gyfer anghenion addysgol ychwanegol.

Ffactorau penodol i safle

34.  Yn y golofn hon (34) rhowch bob ffactor y dyrennir symiau yn unol â hwy drwy gyfeirio at adeiladau neu diroedd ysgol arbennig.

Ffactorau penodol i ysgol

35.  Yn y golofn hon (35) rhowch bob ffactor y dyrennir symiau yn unol â hwy drwy gyfeirio at nodweddion yr ysgol.

Addasiadau cyllideb

36.  Yn y golofn hon (36) rhowch bob ffactor y dyrennir symiau i ysgolion arbennig yn unol â hwy yn unol ag unrhyw ddarpariaethau yn Rheoliadau 1999 sy'n ymwneud ag addasiadau cyllideb.

Arian wrth gefn heb ei dyrannu

37.  Yn y fan hon rhowch swm y rhan honno o ISB yr awdurdod sydd wedi'i chadw mewn perthynas ag ysgolion arbennig ac sydd heb ei dyrannu ar ddechrau'r flwyddyn ariannol.

Cyfanswm yr arian a ddyrennir i ysgolion arbennig

38.  Yn y fan hon rhowch gydgyfanswm y symiau a roddwyd yn unol â nodiadau (30), (31), (33), (34), (35), (36) a (37).

CYFANSWM YR ARIAN SYDD AR GAEL I BOB YSGOL (ISB)

39.  Yn y fan hon rhowch gydgyfanswm y symiau a roddwyd yn unol â nodiadau (28) a (38).