- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Anghenion Addysgol Arbennig) (Cymru) 2002.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2002.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru yn unig.
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “adolygiad blynyddol” (“annual review”) yw adolygiad o ddatganiad plentyn o anghenion addysgol arbennig a wneir o fewn 12 mis o wneud y datganiad neu'r adolygiad blaenorol o dan adran 328(5)(b) o'r Ddeddf;
ystyr “asesiad” (“assessment”) yw asesiad o anghenion addysgol plentyn o dan adran 323 o'r Ddeddf;
ystyr “awdurdod” (“authority”) yw awdurdod addysg lleol;
ystyr “awdurdod gwasanaethau cymdeithasol” (“social services authority”) yw awdurdod lleol at ddibenion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 1970(1) yn gweithredu wrth gyflawni unrhyw swyddogaethau o'r fath y cyfeirir atynt yn adran 1A o'r Ddeddf honno;
mae i “awdurdod iechyd” yr un ystyr ag sydd i “health authority” yn Neddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977(2);
ystyr “cynllun trosiannol” (“transition plan”) yw dogfen sy'n nodi'r trefniadau sy'n briodol ar gyfer person ifanc yn ystod y cyfnod sy'n dechrau â chychwyn y ddegfed flwyddyn o addysg orfodol ac yn dod i ben pan fydd yn 19 oed, gan gynnwys trefniadau ar gyfer darpariaeth addysgol arbennig ac ar gyfer unrhyw ddarpariaeth angenrheidiol arall, ar gyfer cyflogaeth a llety addas a gweithgareddau hamdden, ac a fydd yn hwyluso trosiant boddhaol o fywyd plentyn i fywyd oedolyn;
ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr “darparydd addysg gynnar” (“early education provider”) yw darparydd addysg feithrin berthnasol ac eithrio na fydd yn cynnwys awdurdod mewn perthynas ag ysgol feithrin a gynhelir;
ystyr “datganiad” (“statement”) yw datganiad o anghenion addysgol arbennig plentyn a wnaed o dan adran 324 o'r Ddeddf;
ystyr “degfed flwyddyn o addysg orfodol” (“tenth year of compulsory education”) yw'r nawfed flwyddyn ysgol ar ôl y flwyddyn ysgol y mae plentyn yn cyrraedd oedran ysgol gorfodol;
ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw diwrnod heblaw dydd Sadwrn, dydd Sul, Dydd Nadolig, Gwener y Groglith neu Ŵyl Banc o fewn ystyr Deddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971(3);
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Addysg 1996;
ystyr “Gwasanaeth Gyrfaoedd” (“Careers Service”) yw corff (p'un a oes iddo bersonoliaeth gyfreithiol wahanol neu beidio) a sefydlwyd i ddarparu gwasanaethau gyrfaoedd o dan adrannau 8 i 10 o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973(4);
ystyr “gwasanaethau partneriaeth rhieni” (“parent partnership services”) yw'r trefniadau a wneir gan awdurdod o dan adran 332A o'r Ddeddf ar gyfer darparu cyngor a gwybodaeth am faterion sy'n ymwneud ag anghenion addysgol arbennig i rieni plant sydd ag anghenion addysgol arbennig;
mae “pennaeth” (“head teacher”) yn cynnwys unrhyw berson y mae dyletswyddau neu swyddogaethau pennaeth o dan y Rheoliadau hyn wedi'u dirprwyo iddo gan y pennaeth yn unol â rheoliad 3;
ystyr “pennaeth AAA” (“head of SEN”) yw'r person sy'n gyfrifol am gydgysylltu'r ddarpariaeth addysgol o ddydd i ddydd ar gyfer disgyblion ag anghenion addysgol arbennig;
ystyr “Rheoliadau 1994” (“the 1994 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Anghenion Addysgol Arbennig) 1994(5).
ystyr “targed” (“target”) yw'r wybodaeth, y medrau a'r ddealltwriaeth y disgwylir y byddant gan blentyn erbyn diwedd cyfnod penodol;
ystyr “Tribiwnlys” (“Tribunal”) yw'r Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig y mae ganddo'r awdurdodaeth a roddwyd iddo gan adran 333 o'r Ddeddf.
(2) Mae i'r ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac a nodir yng ngholofn gyntaf y tabl isod yr ystyr a roddir gan y darpariaethau y cyfeirir atynt yn ail golofn y tabl hwnnw (neu, yn ôl fel y digwydd, maent i'w dehongli yn unol â'r darpariaethau hynny):
“addysg feithrin berthnasol” (“relevant nursery education”) | Adran 509A(5) o'r Ddeddf |
“athro neu athrawes gymwysedig” (“qualified teacher”) | Adran 218 o Ddeddf Diwygio Addysg 1988(6) |
“blwyddyn ysgol” (“school year”) | Adran 579(1) o'r Ddeddf |
“corff cyfrifol” (“responsible body”) | Adran 329A(13) o'r Ddeddf |
“diwrnod ysgol” (“school day”) | Adran 579(1) o'r Ddeddf |
“oedran ysgol gorfodol” (“compulsory school age”) | Adran 5 o'r Ddeddf |
“rhiant”(“parent”) | Adran 576 o'r Ddeddf |
“sefydliad tramgwyddwyr ifanc” (“young offender institution”) | Adran 43 o Ddeddf Carchar 1952(7) |
“ysgol a gynhelir” (“maintained school”) | Adran 312 o'r Ddeddf |
“ysgol arbennig” (“special school”) | Adran 337 o'r Ddeddf |
(3) Yn y Rheoliadau hyn mae unrhyw gyfeiriad at yr awdurdod iechyd neu'r awdurdod gwasanaethau cymdeithasol, mewn perthynas â phlentyn penodol, yn gyfeiriad at yr awdurdod iechyd neu'r awdurdod gwasanaethau cymdeithasol y mae'r plentyn yn byw yn eu hardal.
(4) Os yw'n ofynnol gwneud rhywbeth o dan y Rheoliadau hyn—
(a)o fewn cyfnod ar ôl i gam gael ei gymryd, ni chaiff y diwrnod y cymerwyd y cam hwnnw ei gyfrif wrth gyfrifo'r cyfnod hwnnw, a
(b)o fewn cyfnod ac nad yw diwrnod olaf y cyfnod hwnnw yn ddiwrnod gwaith, caiff y cyfnod ei estyn i gynnwys y diwrnod gwaith canlynol.
(5) Oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall, mae cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn—
(a)at adran yn gyfeiriadau at adran o'r Ddeddf;
(b)at Atodlen yn gyfeiriadau at Atodlen i'r Deddf;
(c)at reoliad yn gyfeiriadau at reoliad yn y Rheoliadau hyn.
3. Os oes gan bennaeth unrhyw swyddogaethau neu ddyletswyddau o dan y Rheoliadau hyn caiff ddirprwyo'r swyddogaethau neu'r dyletswyddau hynny—
(a)yn gyffredinol i aelod o staff yr ysgol sy'n athro neu'n athrawes gymwysedig, neu
(b)mewn achos penodol i aelod o staff yr ysgol sy'n addysgu'r plentyn o dan sylw.
4. Rhaid i unrhyw hysbysiad y mae'n ofynnol ei roi o dan y Rheoliadau hyn gael ei roi yn ysgrifenedig.
5.—(1) Os oes unrhyw ddarpariaeth yn Rhan IV o'r Ddeddf neu yn y Rheoliadau hyn yn awdurdodi neu'n gofyn bod unrhyw ddogfen yn cael ei chyflwyno neu ei hanfon at berson neu fod unrhyw hysbysiad yn cael ei roi i berson, gall y ddogfen gael ei chyflwyno neu ei hanfon neu gall yr hysbysiad gael ei roi drwy i lythyr sy'n cynnwys y ddogfen neu'r hysbysiad gael ei gyfeirio'n iawn, ei dalu ymlaen llaw a'i bostio.
(2) At ddibenion y rheoliad hwn, dyma gyfeiriad priodol person—
(a)yn achos rhiant y plentyn, cyfeiriad hysbys diwethaf y rhiant;
(b)yn achos pennaeth neu aelod arall o staff ysgol, cyfeiriad yr ysgol;
(c)yn achos unrhyw berson arall, cyfeiriad hysbys diwethaf y fan lle y mae'r person yn rhedeg busnes, proffesiwn neu gyflogaeth arall.
(3) Os defnyddir post dosbarth cyntaf, rhaid trin y ddogfen neu'r hysbysiad fel pe baent wedi'u cyflwyno, wedi'u hanfon neu wedi'u rhoi ar yr ail ddiwrnod gwaith ar ôl y dyddiad postio, oni ddangosir i'r gwrthwyneb.
(4) Pan ddefnyddir post ail ddosbarth, rhaid trin y ddogfen neu'r hysbysiad fel pe baent wedi'u cyflwyno, wedi'u hanfon neu wedi'u rhoi ar y pedwerydd diwrnod gwaith ar ôl y dyddiad postio, oni ddangosir i'r gwrthwyneb.
(5) Oni ddangosir i'r gwrthwyneb, rhagdybir mai'r dyddiad a welir yn y marc postio ar yr amlen y cynhwysir y ddogfen ynddi yw'r dyddiad postio.
1970 p.42. Mewnosodwyd adran 1A gan Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (p.22), adran 102(3).
1977 p.49. Fe'i diwygiwyd gan Ddeddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17) a Deddf Iechyd 1999 (p.32).
1973 p.50. Amnewidiwyd adrannau 8, 9 a 10 gan Ddeddf Diwygio Undebau Llafur a Hawliau Cyflogaeth 1993 (p.19), adran 45.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys