xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2002 Rhif 156 (Cy.22)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Cod Ymarfer Anghenion Addysgol Arbennig (Diwrnod Penodedig) (Cymru) 2002

Wedi'i wneud

29 Ionawr 2002

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 314(4) o Ddeddf Addysg 1996(1) ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(2):

Enwi

1.  Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cod Ymarfer Anghenion Addysgol Arbennig (Diwrnod Penodedig) (Cymru) 2002.

2.  1 Ebrill 2002 yw'r diwrnod a benodir i'r Cod Ymarfer Anghenion Addysgol Arbennig Cymru(3) a gyhoeddwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 314(4) o Ddeddf Addysg 1996 ddod yn effeithiol.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4))

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

29 Ionawr 2002

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae adran 313 o Ddeddf Addysg 1996 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Ysgrifennydd Gwladol gyhoeddi Cod Ymarfer sy'n rhoi canllawiau ymarferol ynghylch sut y dylai awdurdodau addysg lleol a chyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir gyflawni eu swyddogaethau o dan y Ddeddf honno mewn perthynas ag anghenion addysgol arbennig, ac yn caniatáu iddo ddiwygio'r Cod o dro i dro. Mae pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol wedi'u trosglwyddo i'r Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas â Chymru. Mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi cyhoeddi Cod o dan y teitl Cod Ymarfer Anghenion Addysgol Arbennig Cymru. Mae'r Gorchymyn hwn yn penodi 1 Ebrill 2002 yn ddyddiad i'r Cod ddod i rym.

Gellir cael copïau o'r Cod oddi wrth Gynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ. Gellir ei gael ar y Rhyngrwyd hefyd yn www.cymru.gov.uk

Mae'r Cod, mewn perthynas â Chymru, yn disodli Rhestr Argymhellion gynharach a gyhoeddwyd gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg ar y cyd, ar 25 Mai 1994.

(2)

Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672)

(3)

ISBN 0 7504 27574 Gellir cael copïau o'r Cod (sy'n gymwys i Gymru yn unig) oddi wrth Gynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ. Gellir ei gael ar y Rhyngrwyd hefyd yn www.cymru.gov.uk.