xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2002 Rhif 1772 (Cy.168)

CEFN GWLAD, CYMRU

Rheoliadau Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad (Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, Apelau) (Cymru) 2002

Wedi'u gwneud

9 Gorffennaf 2002

Yn dod i rym

31 Gorffennaf 2002

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”), drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 28F(6) a 28L(8) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981(1) a pharagraffau 11(2) a 17(3) o Atodlen 11 i Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000(2) ac sydd bellach yn arferadwy gan y Cynulliad Cenedlaethol(3), drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad (Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, Apelau) (Cymru) 2002.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 31 Gorffennaf 2002.

(3Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

(2Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “yr hysbysiad o benderfyniad” (“the decision notice”)—

(a)yn achos apêl cydsyniad, yw hysbysiad yn rhoi cydsyniad y Cyngor yn ddarostyngedig i amodau neu am gyfnod cyfyngedig o dan adran 28E(4) o Ddeddf 1981 neu'r hysbysiad a roddir gan y Cyngor o dan adran 28E(5) neu adran 28E(6) o Ddeddf 1981, yn ôl y digwydd;

(b)yn achos apêl hysbysiad rheoli, yw'r hysbysiad a roddir gan y Cyngor o dan adran 28K o Ddeddf 1981;

(c)yn achos apêl hysbysiad stop, yw'r hysbysiad a roddir gan y Cyngor o dan baragraff 9(3) o Atodlen 11 i Ddeddf 2000;

y mae'r apêl yn berthnasol iddo.

Cynnwys hysbysiad apêl

3.  Rhaid i hysbysiad apêl—

(a)datgan enw llawn a chyfeiriad yr apelydd ac unrhyw berson a awdurdodwyd i weithredu ar ran yr apelydd mewn perthynas â'r apêl;

(b)ac eithrio mewn achos o apêl gwrthodiad tybiedig, amgau copi o'r hysbysiad o benderfyniad;

(c)yn achos apêl cydsyniad sy'n ymwneud â gwrthodiad i roi cydsyniad ar gyfer gweithrediad, roi manylion o'r gweithrediad y gwrthodwyd cydsyniad ar ei gyfer (oni roddir manylion o'r fath yn yr hysbysiad o benderfyniad);

(ch)yn achos apêl hysbysiad rheoli y mae seiliau'r apêl yn cynnwys sail y dylai rhyw berchennog neu feddiannydd tir heblaw'r apelydd gymryd y cyfan neu rai o'r mesurau a bennir yn yr hysbysiad o benderfyniad, neu dalu'r cyfan neu ran o'u costau, ddatgan enw llawn a chyfeiriad unrhyw berson o'r fath;

(d)datgan seiliau'r apêl;

(dd)os bydd yr apelydd yn dymuno cael gwrandawiad gan berson a benodir gan y Cynulliad Cenedlaethol mewn cysylltiad â'r apêl (yn hytrach na bod yr apêl yn cael ei phenderfynu ar sail sylwadau ysgrifenedig), ddatgan hynny a datgan ymhellach os yw'r apelydd yn dymuno cael y gwrandawiad mewn ymchwiliad lleol neu, ar y llaw arall, mewn gwrandawiad, ac os mewn gwrandawiad, os yw'r apelydd yn dymuno i'r gwrandawiad gael ei gynnal yn breifat os bydd y person sy'n gwrando'r apêl yn cytuno â hynny; ac

(e)os yw'r apelydd a'r Cyngor wedi cytuno'n ysgrifenedig y dylai'r amser i'r hysbysiad apêl ddod i law fod yn hwy na'r hyn a bennir gan Ddeddf 1981 neu, yn achos apêl hysbysiad rheoli, y dylai'r cyfnod sy'n gymwys o dan Reoliad 6(2)(a)(i) fod yn hwy na dau fis, amgau copi o'r ddogfen sy'n cofnodi'r cytundeb hwnnw.

4.  Caiff hysbysiad apêl fod yn Gymraeg neu Saesneg ond os yw'r apelydd yn dymuno i'r apêl gael ei thrin yn gyfan gwbl neu'n rhannol drwy gyfrwng un o'r ddwy iaith heblaw'r un y mynegir yr hysbysiad apêl ynddi, dylai cais i'r perwyl hwnnw gael ei gynnwys yn yr hysbysiad apêl neu gael ei amgau gydag'r hysbysiad.

Dechrau apêl

5.  Dechreuir apêl drwy anfon hysbysiad apêl i'r Cynulliad Cenedlaethol.

Camau i'w cymryd gan y Cynulliad Cenedlaethol ar ôl cael hysbysiad apêl

6.—(1Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, cyn gynted ag y mae'n rhesymol ymarferol ar ôl derbyn hysbysiad apêl, anfon copi ohono i'r Cyngor, ynghyd â chopi o unrhyw ddogfen arall a amgaewyd gydag ef.

(2Nid yw paragraff (1) uchod yn gymwys i'r canlynol—

(a)i hysbysiad apêl y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn ei gael:

(i)yn achos unrhyw apêl heblaw apêl gwrthodiad tybiedig, ar ôl i gyfnod o ddau fis ddod i ben (neu unrhyw gyfnod hwy y cytunwyd arno'n ysgrifenedig gan yr apelydd a'r Cyngor) gan ddechrau ar ddyddiad yr hysbysiad o benderfyniad; neu

(ii)yn achos apêl gwrthodiad tybiedig, ar ôl i gyfnod o chwe mis ddod i ben (neu'r cyfnod hwy hwnnw y cytunwyd arno'n ysgrifenedig gan yr apelydd a'r Cyngor) gan ddechrau ar y dyddiad yr anfonodd yr apelydd hysbysiad i'r Cyngor o gynnig i gyflawni'r gweithrediad yr ymdrinnir ag ef fel pe bai'r cydsyniad ar ei gyfer wedi cael ei wrthod;

(b)i hysbysiad apêl y mae'r apelydd, mewn manylyn perthnasol, wedi methu cydymffurfio â gofynion rheoliad 3 mewn perthynas ag ef, ond mewn achos o'r fath caiff y Cynulliad Cenedlaethol roi hysbysiad i'r apelydd o natur y methiant hwnnw a'r camau sy'n angenrheidiol i'w gywiro ac os bydd yr apelydd, cyn pen 14 diwrnod ar ôl cael hysbysiad o'r fath yn cymryd y camau gofynnol, ni fydd yr is-baragraff bellach yn gymwys i'r hysbysiad apêl o dan sylw.

Y camau sydd i'w cymryd gan y Cyngor ar ôl cael copi o'r hysbysiad apêl

7.—(1Rhaid i'r Cyngor, o fewn 14 diwrnod ar ôl cael copi o'r hysbysiad apêl gan y Cynulliad Cenedlaethol roi hysbysiad ysgrifenedig—

(a)yn achos apêl cydsyniad, i unrhyw berson (heblaw'r apelydd) a wnaeth sylwadau i'r Cyngor mewn perthynas â'r penderfyniad ar ran y Cyngor y mae'r apêl yn berthnasol iddo (neu, yn achos apêl gwrthodiad tybiedig, mewn perthynas ag unrhyw benderfyniad y gallasai'r Cyngor fod wedi'i gymryd pe na bai'r apelydd wedi ymdrin â'r Cyngor fel pe bai wedi gwrthod cydsynio);

(b)yn achos apêl hysbysiad rheoli y mae seiliau'r apêl mewn perthynas ag ef yn cynnwys sail y dylai rhyw berchennog neu feddiannydd tir heblaw'r apelydd gymryd pob mesur neu unrhyw rai o'r mesurau a bennir yn yr hysbysiad o benderfyniad, neu dalu eu costau yn gyfan gwbl neu'n rhannol, i unrhyw berson o'r fath;

(c)i unrhyw berson arall y mae'n ymddangos i'r Cyngor fod ganddo diddordeb digonol ym mhwnc yr apêl.

(2Rhaid i hysbysiad o dan baragraff (1)—

(a)nodi'r safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig y mae'r apêl yn berthnasol iddo;

(b)cael ei ddyddio;

(c)amgau copi o'r hysbysiad apêl ac unrhyw hysbysiad o benderfyniad;

(ch)datgan y caiff y derbynnydd, o fewn 28 diwrnod sy'n dechrau ar ddyddiad yr hysbysiad—

(i)gwneud sylwadau ysgrifenedig, a all fod naill ai yn Gymraeg neu Saesneg, i'r Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas â'r apêl ac y bydd, yn yr achos hwnnw, gopïau o'r sylwadau hynny'n cael eu darparu i'r apelydd ac i'r Cyngor; a

(ii)gwneud cais ysgrifenedig i'r Cynulliad Cenedlaethol i gael ei hysbysu am y penderfyniad ar yr apêl;

(d)datgan y bydd derbynnydd sy'n gwneud sylwadau yn unol â pharagraff (2)(ch)(i), os bydd ymchwiliad lleol i'w gynnal, neu os bydd gwrandawiad i'w gynnal a fydd yn gyhoeddus yn gyfan gwbl neu'n rhannol, yn cael ei hysbysu o ddyddiad a lleoliad yr ymchwiliad neu'r gwrandawiad.

(3Rhaid i hysbysiad o dan baragraff (1) a anfonir at barti rheoliad 7(1)(b) gynnwys datganiad y dylai unrhyw barti sy'n dymuno cael gwrandawiad gan berson wedi'i benodi gan y Cynulliad Cenedlaethol mewn cysylltiad â'r apêl (yn hytrach na bod yr apêl yn cael ei phenderfynu ar sail sylwadau ysgrifenedig) amgau datganiad i'r perwyl hwnnw gydag unrhyw sylwadau a wneir i'r Cynulliad Cenedlaethol, ac os yw'n gwneud felly, y dylai amgau datganiad pellach a yw'r parti hwnnw'n dymuno cael ei glywed mewn ymchwiliad lleol neu, ar y llaw arall, mewn gwrandawiad.

Ymateb gan y Cyngor i apêl

8.  Rhaid i'r Cyngor, o fewn 28 diwrnod ar ôl cael oddi wrth y Cynulliad Cenedlaethol gopi o hysbysiad apêl, anfon i'r Cynulliad Cenedlaethol, at yr apelydd ac at unrhyw barti rheoliad 7(1)(b)—

(a)datganiad a yw'n gwrthwynebu'r apêl ac, os felly, ei seiliau dros wneud hynny;

(b)yn achos apêl cydsyniad, copi o unrhyw hysbysiad perthnasol o gynnig i gyflawni'r gweithrediad (ynghyd â'r planiau a'r dogfennau sy'n cyd-fynd ag ef) a roddwyd i'r Cyngor o dan adran 28E(1) o Ddeddf 1981;

(c)copïau o unrhyw ohebiaeth berthnasol rhwng yr apelydd a'r Cyngor;

(ch)copïau o unrhyw sylwadau a roddwyd i'r Cyngor gan unrhyw berson heblaw'r apelydd mewn perthynas â'r penderfyniad ar ran y Cyngor y mae'r apêl yn berthnasol iddo (neu, yn achos apêl gwrthodiad tybiedig, mewn perthynas ag unrhyw benderfyniad y gallasai'r Cyngor fod wedi'i gymryd pe na bai'r apelydd wedi ymdrin â'r Cyngor fel pe bai wedi gwrthod cydsynio);

(d)datganiad o enwau a chyfeiriadau unrhyw bersonau y mae'r Cyngor wedi anfon hysbysiad atynt o dan reoliad 7(1) a'r dyddiad yr anfonwyd hysbysiad o'r fath; ac

(dd)os bydd y Cyngor yn dymuno cael gwrandawiad gan berson a benodir gan y Cynulliad Cenedlaethol mewn cysylltiad â'r apêl, datganiad i'r perwyl hwnnw ac os felly, os yw'r Cyngor yn dymuno cael y gwrandawiad mewn ymchwiliad lleol neu, ar y llaw arall, mewn gwrandawiad, ac os mewn gwrandawiad, os yw'r Cyngor yn dymuno i'r gwrandawiad gael ei gynnal yn breifat os bydd yr apelydd yn gofyn am hynny.

Hysbysiad o'r weithdrefn apelio

9.—(1Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, heb fod yn gynharach na 28 diwrnod ar ôl y diweddaraf o unrhyw ddyddiadau a nodir gan y Cyngor yn unol â rheoliad 8(d) fel y dyddiadau pan anfonodd y Cyngor hysbysiadau o dan reoliad 7(1) ond mor fuan ag sy'n ymarferol wedyn, anfon:

(a)at yr apelydd;

(b)i'r Cyngor; ac

(c)at unrhyw berson yr anfonwyd hysbysiad ato o dan reoliad 7(1),

hysbysiad yn pennu pa ffurf a fydd i'r apêl.

(2Rhaid i'r hysbysiad a roddir o dan baragraff (1) gael ei ddyddio a rhaid iddo ddatgan a yw'r apêl i gymryd ffurf:

(i)ymchwiliad lleol;

(ii)gwrandawiad; neu

(iii)ffurf nad yw'n un o'r ddau, ac y bydd gan hynny yn cael ei benderfynu drwy sylwadau ysgrifenedig.

(3Dyddiad yr hysbysiad a roddir o dan baragraff (1) yw'r “dyddiad dechrau” at ddibenion y Rheoliadau hyn.

(4Rhaid i hysbysiad a roddir o dan baragraff (1) ddatgan hefyd ai'r person sydd i'w benodi i ystyried sylwadau ysgrifenedig o'r fath neu, os yw'r apêl i gymryd ffurf ymchwiliad lleol neu wrandawiad, i lywio'r ymchwiliad cyhoeddus neu'r gwrandawiad, yw'r person y mae swyddogaeth penderfynu'r apêl i'w dirprwyo iddo ond os yw'n gwneud hynny caiff y Cynulliad Cenedlaethol ar unrhyw adeg benderfynu'n hytrach ei fod ef ei hunan yn penderfynu'r apêl a rhaid iddo, os yw'n penderfynu felly, roi hysbysiad o'r penderfyniad hwnnw cyn gynted ag y mae'n rhesymol ymarferol, i'r personau hynny y rhoddwyd hysbysiad o'r fath iddynt o dan baragraff (1).

Darparu sylwadau eraill i'r apelydd ac i'r Cyngor

10.  Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, cyn gynted ar ôl iddynt gael eu derbyn ag y mae'n rhesymol ymarferol, anfon at yr apelydd, i'r Cyngor ac at unrhyw barti rheoliad 7(1)(b), gopïau o unrhyw sylwadau a ddaeth i law'r Cynulliad Cenedlaethol oddi wrth unrhyw un heblaw'r Cyngor a'r apelydd, y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn bwriadu cymryd i ystyriaeth mewn perthynas â'r apêl.

Tynnu apêl yn ôl

11.—(1Caiff yr apelydd dynnu apêl yn ôl drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i'r Cynulliad Cenedlaethol ei fod yn dymuno gwneud hynny.

(2Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl cael hysbysiad o dynnu apêl yn ôl, hysbysu'r ffaith honno i'r holl bersonau hynny y rhoddwyd hysbysiad iddynt o dan reoliad 9(1).

Newid yn ffurf apêl

12.  Os yw'n ymddangos i'r Cynulliad Cenedlaethol ar unrhyw adeg ei bod yn fwy priodol bod yr apêl yn cael ei phenderfynu mewn modd sy'n wahanol i'r ffurf a gafodd ei hysbysu o dan reoliad 9(2) caiff y Cynulliad Cenedlaethol, ar ôl cael unrhyw gydsyniad y Cyngor neu'r apelydd sy'n ofynnol gan ddarpariaethau Deddf 1981, benderfynu bod yr apêl i barhau mewn ffurf heblaw honno a hysbyswyd a chaiff roi unrhyw gyfarwyddyd canlyniadol o ran y weithdrefn sydd i'w chymhwyso mewn perthynas â'r apêl gan gynnwys nodi unrhyw gamau sy'n ofynnol eu cymryd gan y partïon o dan y Rheoliadau hyn y bernir eu bod eisoes wedi'u cymryd gan amrywio yn ôl yr angen y cyfnod y mae'n rhaid cymryd o'i fewn unrhyw gam o'r fath nad yw eisoes wedi ei gymryd.

Apelau a benderfynir ar sail sylwadau ysgrifenedig

13.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i apêl sydd i'w phenderfynu ar sail sylwadau ysgrifenedig.

(2Rhaid i'r Cyngor, o fewn 28 diwrnod o'r dyddiad dechrau, anfon i'r Cynulliad Cenedlaethol, at yr apelydd ac at unrhyw barti rheoliad 7(1)(b), gopi o unrhyw sylwadau ysgrifenedig pellach neu ddogfennau eraill, yn ychwanegol at y rhai a anfonwyd eisoes i'r Cynulliad Cenedlaethol yn unol â rheoliad 7, y mae'n dymuno dibynnu arnynt wrth wrthwynebu'r apêl neu, os nad yw'n dymuno dibynnu ar unrhyw sylwadau neu ddogfennau pellach o'r fath, hysbysiad i'r perwyl hwnnw.

(3Rhaid i'r apelydd, o fewn 28 diwrnod ar ôl cael unrhyw sylwadau pellach neu ddogfennau eraill yn unol â pharagraff (2) (neu hysbysiad nad yw'r Cyngor yn bwriadu dibynnu ar unrhyw rai) anfon i'r Cynulliad Cenedlaethol, i'r Cyngor ac i unrhyw barti rheoliad 7(1)(b), gopi o unrhyw sylwadau ysgrifenedig pellach neu ddogfennau eraill, yn ychwanegol at y rhai a anfonwyd eisoes i'r Cynulliad Cenedlaethol yn unol â rheoliad 3, y mae'r apelydd yn dymuno dibynnu arnynt i gefnogi'r apêl neu, os nad yw'r apelydd yn dymuno dibynnu ar unrhyw sylwadau pellach neu ddogfennau eraill o'r fath, hysbysiad i'r perwyl hwnnw.

(4Caiff y Cynulliad Cenedlaethol, mewn achos penodol, wahodd y Cyngor a'r apelydd i anfon i'r Cynulliad Cenedlaethol, i'w gilydd ac i unrhyw barti rheoliad 7(1)(b), o fewn amser rhesymol y gall ei bennu, sylwadau pellach neu ddogfennau eraill o'r fath y mae'n credu bod angen amdanynt er mwyn galluogi i'r apêl gael ei phenderfynu, gan gynnwys unrhyw sylwadau ar unrhyw gynrychioliad a gafwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol ar ôl y dyddiad dechrau oddi wrth unrhyw berson heblaw'r apelydd a'r Cyngor y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn bwriadu eu cymryd i ystyriaeth wrth benderfynu'r apêl ac y mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi anfon copïau ohonynt at yr apelydd ac i'r Cyngor.

Apêl sydd i'w phenderfynu ar ôl gwrandawiad

14.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i apêl sydd i'w phenderfynu ar ôl gwrandawiad.

(2Heblaw fod y Rheoliadau hyn yn darparu yn wahanol, gall y person penodedig benderfynu'r weithdrefn mewn perthynas â gwrandawiad.

(3Rhaid i'r Cyngor a'r apelydd, o fewn 42 diwrnod o'r dyddiad dechrau, anfon i'r Cynulliad Cenedlaethol, at ei gilydd ac at unrhyw barti rheoliad 7(1)(b), ddatganiad ysgrifenedig (ynghyd â chopïau o unrhyw ddogfennau, ffotograffau, mapiau neu blaniau y cyfeirir atynt yn y datganiad hwnnw) sy'n cynnwys manylion llawn o'r achos y mae'r person hwnnw yn bwriadu eu cyflwyno yn y gwrandawiad.

(4Gall y Cynulliad Cenedlaethol drwy hysbysiad ysgrifenedig ei gwneud yn ofynnol i'r Cyngor neu'r apelydd ddarparu, o fewn cyfnod rhesymol y gall ei bennu, wybodaeth bellach benodedig y mae'n ymddangos i'r Cynulliad Cenedlaethol ei bod yn berthnasol i'r apêl a rhaid i unrhyw barti y mae'n ofynnol iddo ddarparu gwybodaeth bellach o'r fath, anfon copi at y parti arall pan fydd yn ei hanfon i'r Cynulliad Cenedlaethol.

(5Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, heb fod yn llai na 42 diwrnod cyn y dyddiad y mae wedi'i bennu i gynnal y gwrandawiad (neu gyfnod byrrach o'r fath y gall yr apelydd a'r Cyngor gytuno arno), roi i'r apelydd, y Cyngor ac unrhyw barti rheoliad 7(1)(b) hysbysiad o'r dyddiad, amser a lle'r gwrandawiad hwnnw ac enw'r person a benodwyd i'w lywio.

(6Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, heb fod yn llai na 21 diwrnod cyn y dyddiad a bennwyd ar gyfer y gwrandawiad—

(i)cyhoeddi, mewn o leiaf un papur newydd sy'n cylchredeg yn yr ardal lle lleolir y tir y mae'r apêl yn berthnasol iddo, hysbysiad sy'n cynnwys yr un wybodaeth ag y mae'n ofynnol ei rhoi i'r apelydd a'r Cyngor o dan baragraff (5); a

(ii)anfon copi o'r hysbysiad hwnnw at unrhyw berson yr anfonwyd hysbysiad iddo o dan reoliad 7(1)(a) neu 7(1)(c) sydd wedi gwneud sylwadau yn ysgrifenedig i'r Cynulliad Cenedlaethol.

(7Caiff y Cynulliad Cenedlaethol amrywio'r dyddiad a bennwyd ar gyfer y gwrandawiad, ac os digwydd hynny mae paragraffau (4) a (5) yn gymwys i'r dyddiad a gafodd ei amrywio yn yr un modd ag y maent yn gymwys ar gyfer y dyddiad a bennwyd yn wreiddiol.

(8Caiff y Cynulliad Cenedlaethol amrywio'r amser neu'r lle a bennir ar gyfer y gwrandawiad, ac os digwydd hynny rhaid iddo roi hysbysiad o'r amrywiad hwnnw y mae'n ymddangos iddo ei fod yn rhesymol.

(9Dyma'r personau sydd â hawl i gael eu clywed mewn gwrandawiad—

(a)yr apelydd;

(b)y Cyngor;

(c)unrhyw barti rheoliad 7(1)(b),

(ch)unrhyw berson yr anfonwyd hysbysiad ato o dan reoliad 7(1)(a) neu 7(1)(c) ac y mae wedi gwneud sylwadau ysgrifenedig i'r Cynulliad Cenedlaethol.

(10Caiff y person sy'n llywio'r gwrandawiad ganiatáu i unrhyw berson arall gael ei glywed ac ni cheir gwrthod caniatâd o'r fath yn afresymol.

(11Gellir cynnal y gwrandawiad yn breifat yn gyfan gwbl neu'n rhannol os yw'r apelydd yn gofyn am hynny a bod y person sy'n llywio'r gwrandawiad yn cytuno â hynny.

(12Caiff y person sy'n llywio'r gwrandawiad ei ohirio o dro i dro ac os cyhoeddir yr amser a'r lle y bydd y gwrandawiad yn ailddechrau yn y gwrandawiad pan gaiff ei ohirio, ni fydd hysbysiad pellach yn ofynnol.

Apêl sydd i'w phenderfynu ar ôl ymchwiliad lleol

15.  Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, wrth anfon hysbysiad o dan reoliad 9(1) bod apêl i gymryd ffurf ymchwiliad lleol, roi hysbysiad ysgrifenedig ar yr un pryd i'r personau y cyfeirir atynt yn rheoliad 9(1)(a), (b) a (c) o'r weithdrefn sydd i'w chymhwyso a chaiff o dro i dro wedyn roi canllawiau pellach o ran y weithdrefn i'w dilyn fel y bo'n briodol.

Ymweliad â'r safle

16.—(1Caiff y person penodedig ymweld â'r tir y mae'r apêl yn berthnasol iddo ond rhaid iddo roi hysbysiad ysgrifenedig rhesymol o'i fwriad i wneud hynny i'r apelydd a'r Cyngor a rhoi cyfle rhesymol iddynt neu i unrhyw berson a awdurdodwyd i weithredu ar eu rhan i fod yn bresennol.

(2Rhaid i apelydd gymryd y camau hynny sy'n rhesymol o fewn pwer yr apelydd er mwyn galluogi'r person penodedig i gael mynediad i'r tir o dan sylw.

Penderfyniad gan berson penodedig

17.  Os yw swyddogaeth penderfynu'r apêl wedi'i dirprwyo i'r person penodedig, rhaid i'r person hwnnw roi hysbysiad ysgrifenedig o'r penderfyniad, a'r rhesymau drosto, i'r holl bersonau oedd â hawl i ymddangos yng ngwrandawiad yr apêl (p'un a ddigwyddodd gwrandawiad neu beidio) ac i unrhyw berson arall a ofynnodd i gael ei hysbysu am y penderfyniad yn unol â rheoliad 7(2)(ch)(ii).

Penderfyniad gan y Cynulliad Cenedlaethol

18.  Os nad yw rheoliad 17 yn gymwys i benderfynu apêl, rhaid i'r person a benodwyd i ystyried y sylwadau ysgrifenedig neu i lywio'r ymchwiliad lleol neu'r gwrandawiad, yn ôl y digwydd, baratoi adroddiad ysgrifenedig i'r Cynulliad Cenedlaethol, gan ymgorffori casgliadau ac argymhellion y person hwnnw ynddo a rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, ar ôl ystyried yr adroddiad hwnnw, roi hysbysiad ysgrifenedig o'r penderfyniad, a'r rhesymau drosto, i'r holl bersonau oedd â hawl i ymddangos yng ngwrandawiad yr apêl (p'un a ddigwyddodd gwrandawiad neu beidio) ac i unrhyw berson arall a ofynnodd i gael ei hysbysu am y penderfyniad yn unol â rheoliad 7(2)(ch)(ii).

Gweithdrefnau pellach neu wahanol

19.  Caiff y Cynulliad Cenedlaethol, os yw'r amgylchiadau sy'n berthnasol i apêl benodol yn peri bod angen hynny, ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw gamau penodedig yn cael eu cymryd, naill ai yn ychwanegol at, neu yn lle, y rheiny a ragnodir gan y Rheoliadau hyn a gall estyn yr amser a ragnodir gan y Rheoliadau hyn, neu sy'n ofynnol fel arall o dan y Rheoliadau hyn, er mwyn cymryd unrhyw gam, ond cyn iddo wneud hynny, onid yw'r effaith wedi'i gyfyngu i estyniad amser, rhaid iddo ymgynghori â'r apelydd a'r Cyngor ac ystyried unrhyw sylwadau y gallant eu gwneud ynghylch dymunoldeb gofyniad o'r fath.

Pwerau person penodedig

20.  Gall pwerau a dyletswyddau'r Cynulliad Cenedlaethol o dan y Rheoliadau hyn gael eu harfer gan berson penodedig ac mae cyfeiriadau yn y Rheoliadau at y Cynulliad Cenedlaethol i'w dehongli yn unol â hynny.

Defnyddio cyfathrebu electronig

21.  Gall unrhyw ddogfen y mae'n ofynnol ei hanfon neu a awdurdodwyd ei hanfon gan un person at un arall o dan ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn gael ei hanfon, fel dull amgen i unrhyw ddull arall, drwy gyfrwng cyfathrebu electronig, ar yr amod bod gan y person sy'n anfon y ddogfen sail resymol dros gredu y daw'r ddogfen i sylw'r person yr anfonir hi ato, mewn ffurf ddarllenadwy, o fewn amser rhesymol.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(5)

John Marek

Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

9 Gorffennaf 2002

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae Rhan III o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (“Deddf 2000”) ac Atodlen 9 iddi yn amnewid adrannau 28 i 28R newydd yn Neddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (“Deddf 1981”). Mae Rhan III o Ddeddf 2000 ac Atodlen 11 iddi yn gwneud darpariaethau trosiannol mewn perthynas â Deddf 1981.

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth weithdrefnol, mewn perthynas â Chymru, ar gyfer apelau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan berchenogion neu feddianwyr safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig o dan—

(a)adran 28F(1) o Ddeddf 1981, yn erbyn gwrthodiad gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru (“y Cyngor”) i gydsynio â gweithrediadau penodol ar y tir, yn erbyn yr amodau sydd ynghlwm wrth gydsyniad o'r fath, yn erbyn addasu neu dynnu'n ôl gydsyniad o'r fath, neu yn erbyn methiant y Cyngor i benderfynu ar gais am gydsyniad o fewn y cyfnod a ragnodwyd gan Ddeddf 1981;

(b)adran 28(L)(1) o Ddeddf 1981, yn erbyn hysbysiad rheoli a gyflwynwyd gan y Cyngor;

(c)paragraff 11(1) o Atodlen 11 i Ddeddf 2000, yn erbyn hysbysiad stop a gyflwynwyd gan y Cyngor mewn perthynas â gweithrediadau ar y tir.

Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn rhagnodi o fewn pa amser y mae'n rhaid dwyn apêl o dan adran 28(L)(1) o Ddeddf 1981, sef bod yn rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ei derbyn o fewn y cyfnod o ddau fis sy'n dechrau ar ddyddiad yr hysbysiad rheoli y mae'n berthnasol iddo oni chytunwyd ar gyfnod hwy gan y Cyngor a'r apelydd.

(1)

1981 p.69; amnewidiwyd adran 28 gan adrannau 28 i 28R o dan adran 75(1) o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (p.37) ac Atodlen 9, paragraff 1 iddi.

(3)

Cafodd pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru: gweler Erthygl 2 i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo, fel y'i diwygiwyd gan adran 99 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000.