Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Gweithdrefnau Apelau) (Cymru) 2002

Y weithdrefn mewn gwrandawiad

14.—(1Ac eithrio unrhyw ddarpariaeth arall yn y Rheoliadau hyn, caiff y person penodedig benderfynu'r weithdrefn mewn gwrandawiad.

(2Mae gwrandawiad i gymryd ffurf trafodaeth sy'n cael ei llywio gan y person penodedig ac ni chaniateir croesholi onid yw'r person penodedig yn ystyried ei fod yn ofynnol i sicrhau archwiliad priodol o'r pynciau sy'n berthnasol i'r apêl.

(3Rhaid i berson penodedig sy'n ystyried bod croesholi'n ofynnol o dan paragraff (2) ystyried, ar ôl ymgynghori â'r apelydd a'r atebydd, a ddylid cau'r gwrandawiad a chynnal ymchwiliad yn ei le.

(4Ar ddechrau'r gwrandawiad, rhaid i'r person penodedig nodi'r pynciau sy'n ymddangos i'r person penodedig mai hwy yw'r prif bynciau i'w hystyried yn y gwrandawiad ac unrhyw faterion y mae'r person penodedig angen esboniad pellach arnynt gan unrhyw berson y mae ganddo hawl i gymryd rhan neu a ganiateir iddo gymryd rhan.

(5Nid oes dim ym mharagraff (4) i atal unrhyw berson y mae ganddo hawl neu y caniateir iddo gymryd rhan yn y gwrandawiad rhag cyfeirio at bynciau y mae'n ystyried eu bod yn berthnasol wrth ystyried yr apêl ond nad oeddent yn bynciau â nodwyd gan y person penodedig yn unol â'r paragraff hwnnw.

(6Caiff person sydd â hawl i gymryd rhan mewn gwrandawiad, yn ddarostyngedig i'r paragraffau blaenorol ac i baragraffau (7) ac (8), alw tystiolaeth ond, fel arall bydd galw tystiolaeth yn fater disgresiwn y person penodedig.

(7Caiff y person penodedig wrthod caniatáu rhoi tystiolaeth lafar neu gyflwyno unrhyw fater arall y mae'r person penodedig yn ystyried ei fod yn amherthnasol neu'n ailadroddus ond, os bydd y person penodedig yn gwrthod caniatáu rhoi tystiolaeth lafar, caiff y person sy'n dymuno rhoi'r dystiolaeth gyflwyno unrhyw dystiolaeth neu fater arall yn ysgrifenedig i'r person penodedig cyn i'r gwrandawiad gau.

(8Caiff y person penodedig:

(a)ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sy'n cymryd rhan neu sy'n bresennol mewn gwrandawiad a sydd, ym marn y person penodedig, yn ymddwyn mewn modd aflonyddgar i adael, a

(b)gwrthod caniatáu i'r person hwnnw ddychwelyd neu ganiatáu i'r person ddychwelyd yn unig o dan yr amodau hynny y gall y person penodedig eu pennu,

ond caiff person o'r fath gyflwyno unrhyw dystiolaeth neu fater arall yn ysgrifenedig i'r person penodedig cyn i'r gwrandawiad gau.

(9Caiff person penodedig ganiatáu i unrhyw berson newid neu ychwanegu at ddatganiad i'r graddau y bo hynny'n angenrheidiol at ddibenion y gwrandawiad, ond rhaid i'r person penodedig (drwy ohirio'r gwrandawiad os oes angen) roi cyfle digonol i bob person arall sydd â hawl i gymryd rhan ac sydd mewn gwirionedd yn cymryd rhan yn y gwrandawiad i ystyried unrhyw fater neu ddogfen o'r newydd.

(10Caiff y person penodedig fwrw ymlaen â'r gwrandawiad yn absenoldeb unrhyw berson sydd â hawl i gymryd rhan ynddo.

(11Caiff y person penodedig gymryd i ystyriaeth unrhyw sylw neu dystiolaeth ysgrifenedig neu unrhyw ddogfen ysgrifenedig arall a ddaeth i law'r person penodedig oddi wrth unrhyw berson cyn i'r gwrandawiad agor neu yn ystod y gwrandawiad ar yr amod bod y person penodedig yn ei ddatgelu yn y gwrandawiad.

(12Caiff y person penodedig o dro i dro ohirio gwrandawiad ac, os cyhoeddir dyddiad, amser a lle'r gwrandawiad gohiriedig yn y gwrandawiad cyn y gohiriad, ni fydd yn ofynnol cael hysbysiad pellach.