- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
3.—(1) At ddibenion cyflawni ei ddyletswydd i ddyroddi map dros dro o dan adran 5(d) neu (e) o'r Deddf, neu at unrhyw ddiben sy'n gysylltiedig â hynny, gall y Cyngor gynhyrchu a chyhoeddi copïau o'r map dros dro hwnnw ar unrhyw ffurf, gan gynnwys ffurf electronig, y mae'n penderfynu arni a bernir bod unrhyw gopi o'r fath a gyhoeddir gan y Cyngor neu gyda'i awdurdod yn union yr un fath â'r map dros dro oni ddangosir i'r gwrthwyneb.
(2) Gall y Cyngor, er mwyn dangos bodolaeth a maint y tir adran 4(2) a ddangosir ar un neu ragor o fapiau dros dro, ac er mwyn trefnu bod copïau archwilio o'r map dros dro ar gael yn unol â rheoliad 4(2)(a) a (b), neu er mwyn cydymffurfio â chais o'r math y cyfeirir ato yn rheoliad 4(3)(d), gynhyrchu a chyhoeddi copïau o fapiau dros dro sy'n dangos y tir adran 4(2) hwnnw, a gallant fod ar raddfa sy'n llai nag 1:10,000 ond nid yn llai na 1:25,000.
(3) Rhaid i gopïau o fapiau dros dro a gynhyrchir o dan baragraff (1):
(a)ddangos yn glir y dosbarthiadau o dir adran 4(2) a'r nodweddion eraill sy'n cael eu nodi, yn unol â rheoliadau 3(6) a 7(3) o'r Rheoliadau Mapiau Drafft, ar y map dros dro maent yn gopïau ohono, trwy ddefnyddio gwahanol liwiau, cysgodiad, llinellau a symbolau, ond nid oes angen i'r lliwiau (os oes rhai), cysgodiad, llinellau neu symbolau eraill a ddefnyddir i wneud hynny fod yn union yr un fath â'r rhai a ddefnyddir at y diben hwnnw ar y map dros dro hwnnw; a
(b)beidio â chael eu hystyried fel tystiolaeth o gynnwys y mapiau dros dro hynny.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys