xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2002 Rhif 1806 (Cy176)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Rheoliadau Tir Mynydd (Cymru) (Diwygio) 2002

Wedi'u gwneud

9 Gorffennaf 2002

Yn dod i rym

10 Gorffennaf 2002

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) mewn perthynas â pholisi amaethyddiaeth cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 2(2), a grybwyllir uchod drwy hyn yn gwneud y rheoliadau canlynol:

Enw a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tir Mynydd (Cymru) (Diwygio) 2002 a deuant i rym ar 10 Gorffennaf 2002.

Diwygio Rheoliadau Tir Mynydd (Cymru) 2001

2.  Diwygir Rheoliadau Tir Mynydd (Cymru) 2001(3) yn unol â rheoliadau 3 i 18 o'r Rheoliadau hyn.

3.  Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (Diffiniadau)—

(a)mewnosodwch y diffiniadau canlynol ar ôl y diffiniad o “amaethyddiaeth”—

(b)yn y diffiniad o “ceisydd” (“claimant”) dilëwch y geiriau “a enwir yn daliad Tir Mynydd”;

(c)mewnosodwch y diffiniad canlynol ar ôl y diffiniad o “ceisydd” (“claimant”)

(ch)mewnosodwch y diffiniadau canlynol ar ôl y diffiniad o “IACS”

(d)mewnosodwch y diffiniadau canlynol ar ôl y diffiniad o “person awdurdodedig”

(dd)mewnosodwch y diffiniadau canlynol cyn y diffinad o “Rheoliad y Comisiwn 1750/1999”

(e)yn y diffiniad o “Reoliad y Cyngor 3508/92” (“Council Regulation 3508/92”) mewnosodwch ar ôl y geiriau “ar gyfer” “cynlluniau penodol o blith”;

(f)mewnosodwch y diffiniad canlynol ar ôl y diffiniad o “Rheoliad y Cyngor 3508/92”

(ff)mewnosodwch y diffiniadau canlynol ar ôl y diffiniad o “coetir”

(g)rhowch y diffiniad canlynol yn lle'r diffiniad o “tir cymwys”—

(ng)mewnosodwch y diffiniadau canlynol cyn y diffiniad o “tir tan anfantais”—

(h)yn y diffiniad o “uned da byw” (“livestock unit) yn lle paragraffau (a), (b) ac (c) rhowch y paragraffau canlynol—

(a)un fuwch sugno neu heffer sy'n 24 mis oed neu'n hŷn;

(b)1.67 heffer o dan 24 mis oed;

(c)6.67 mamog;;

4.  Mewnosodwch y rheoliad canlynol ar ôl rheoliad 2—

Pŵer i wneud taliadau

2A.  Bydd y Cynulliad Cenedlaethol, mewn perthynas â blwyddyn gynllun, yn gwneud taliad Tir Mynydd sydd wedi'i gyfrifo yn unol â'r Atodlen â'r i geiswyr cymwys ynglyn â'u tir cymwys..

5.  Rhowch y rheoliad canlynol yn lle rheoliad 3 (Ceiswyr cymwys)—

Ceiswyr cymwys

3.(1) Bydd ceiswyr yn gymwys i gael taliad Tir Mynydd mewn perthynas â blwyddyn gynllun ar yr amod bod—

(a)cais am daliad wedi'i wneud mewn perthynas â'r flwyddyn gynllun honno drwy gais am gymorth arwynebedd dilys a bod yr arwynebedd porthiant y gwneir cais amdano, os o gwbl, yn cydymffurfio ag un o'r amodau a bennir ym mharagraff (2); a

(b)y ceisydd wedi cyflwyno cais am gymorth da byw mewn perthynas â defaid neu fuchod sugno neu'r ddau ohonynt mewn perthynas â'r flwyddyn y cyflwynwyd cais yn ei chylch am daliad Tir Mynydd; ac

(c)y ceisydd wedi defnyddio arferion ffermio da arferol sy'n cyd-fynd â'r angen i ddiogelu'r amgylchedd a chynnal cefn gwlad, yn benodol drwy ffermio cynaliadwy; a

(ch)y ceisydd wedi rhoi ymrwymiad ysgrifenedig y bydd yn ffermio o leiaf 3 hectar o dir sydd naill ai'n dir cymwys neu'n dir llai ffafriol sy'n perthyn a pharhau i wneud hynny am gyfnod o 5 mlynedd o ddyddiad y taliad iawndal cyntaf ac nad yw'r ceisydd hwnnw'n torri'r ymrwymiad hwnnw ar ddyddiad y taliad.

(2) Y canlynol yw'r amodau—

(a)bod nid llai na 6 hectar o'r arwynebedd porthiant y gwneir cais amdano o fewn y tir llai ffafriol; neu

(b)os nad yw'r arwynebedd porthiant y gwneir cais amdano sy'n gorwedd o fewn y tir llai ffafriol yn llai na 1 hectar ond yn llai na 6 hectar, mae cyfanswm yr arwynebedd porthiant y gwneir cais amdano yn cynnwys tir sydd wedi'i leoli o fewn tir llai ffafriol sy'n perthyn ac sy'n gymwys i gael lwfans tir llai ffafriol sy'n perthyn..

6.  Mewnosodwch y rheoliad canlynol ar ôl rheoliad 3—

Gostyngiad yn y Tir Perthnasol”

3A.(1) Pan fo gan geisydd swmp cyfeiriol unigol o laeth ar gael, bydd gostyngiad sy'n cael ei gyfrifo yn unol â darpariaethau paragraff (2) yn cael ei gymhwyso i dir perthnasol y ceisydd.

(2) Bydd y gostyngiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1) yn cael ei gyfrifo yn unol ag is-baragraffau (i) i (iii)—

(i)yn gyntaf, cyfrifir nifer yr unedau da byw yn y fuches laeth dybiannol drwy rannu'r swmp cyfeiriol unigol o laeth sydd ar gael i'r ceisydd gan 5730, sef nifer y litrau o laeth y tybir ei fod yn gyfwerth â chynnyrch blynyddol un fuwch odro;

(ii)am bob hectar o ddaliad y ceisydd nad yw o fewn tir llai ffafriol, gostyngir nifer yr unedau da byw a gyfrifir yn unol â pharagraff (i) o 2 uned;

(iii)defnyddir nifer yr unedau da byw sy'n weddill ar ôl cymhwyso is-baragraff (ii) er mwyn cyfrifo'r gostyngiad yn y tir perthnasol drwy ostwng arwynebedd y tir hwnnw o 1 hectar ar gyfer pob 2 uned da byw sy'n weddill, ac mae'r gostyngiad i'w gymhwyso'n llawn mewn perthynas â thir dan anfantais cyn ei gymhwyso i dir dan anfantais difrifol.

(3) Yn y rheoliad hwn, ystyr “y fuches laeth dybiannol” (“notional dairy herd”) yw cyfanswm yr anifeiliad y bernir eu bod yn fuches laeth ar dir sy'n cael ei ffermio gan y ceisydd yng Nghymru fel y'i cyfrifwyd uchod ac mae i “swmp cyfeiriol unigol o laeth” yr un ystyr ag i “individual reference quantity of milk” yn Erthygl 31 o Reoliad y Comisiwn (EC) 2342/1999(9)..

7.  Mewnosodwch y paragraffau canlynol yn rheoliad 4 (Y dwysedd stocio isaf), ar ôl paragraff (2)—

(3) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol benderfynu bod dwysedd stocio o lai na 0.1 yn ddigonol at ddibenion paragraff (1) os yw wedi'i fodloni'n rhesymol ei bod yn addas gwneud hynny o ystyried holl amgylchiadau'r achos, ac o ddwyn i ystyriaeth, yn benodol, nifer y mamogiaid a/neu fuchod sugno nad ydynt yn destun cais am bremiwm o dan Gynllun Premiwm Blynyddol Defaid a/neu Gynllun Premiwm Buchod Sugno, ac unrhyw rwymedigaeth ar ran y ceisydd yngylch y nifer o famogiaid a/neu fuchod sugno y ceir eu cadw ar y tir sy'n cynnwys y tir cymwys, mewn perthynas â'r flwyddyn y mae'r cais am daliad Tir Mynydd yn cael ei gyflwyno ynddi.

(4) Er mwyn galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i ystyried a ddylai arfer ei ddisgresiwn o dan baragraff (3), rhaid i'r ceisydd ddarparu ar gyfer y Cynulliad Cenedlaethol y fath wybodaeth y gall yn rhesymol ei fynnu..

8.  Mewnosodwch y paragraff canlynol yn rheoliad 6 (Cyfrifo taliadau arwynebedd — elfen 1), ar ôl paragraff (3)—

(4) Wedi ymgymryd â'r cyfrifiad sylfaenol yn unol â Rhan A o'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn, gall y Cynulliad Cenedlaethol, os gwêl yn dda, gynyddu'r swm a gyfrifwyd o ganran y gall benderfynu arni ar yr amod bod yr un cynnydd yn y ganran yn cael ei gymhwyso i bob ceisydd..

9.  Yn rheoliad 7 (Taliad chwyddo amgylcheddol o dan elfen 2 o'r cynllun)—

(a)ym mharagraff (2) cyn y geiriau “10 y cant”, mewnosodwch y geiriau “hyd at”;

(b)ym mharagraff (3) cyn y geiriau “20 y cant”, mewnosodwch y geiriau “hyd at”.

10.  Mewnosodwch ym mharagraff (b) o reoliad 8 (Categorïau sy'n gymwys ar gyfer y taliad chwyddo amgylcheddol) ar ôl y gair “thir” y geiriau “sydd wedi cwblhau'i drosi ac”.

11.  Yn rheoliad 9 (Taliadau), dilewch baragraffau (2) a (3).

12.  Yn rheoliad 10 (Ceisiadau), rhowch y paragraff canlynol yn lle paragraff (3)—

(3) Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais am daliad Tir Mynydd mewn perthynas â blwyddyn gynllun yw 15 Mai. Gall cyflwyno cais yn hwyr arwain at gosbau a fydd yn cael eu cyfrifo yn unol â darpariaethau Erthygl 13 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2419/2001 dyddiedig 11 Rhagfyr 2001 sy'n cyflwyno rheolau manwl er mwyn cymhwyso'r system integredig gweinyddu a rheoli ar gyfer rhai cynlluniau o blith Cynlluniau cymorth y Gymuned a sefydlwyd gan Reoliad y Cyngor 3508/1992(10)..

13.  Dilëwch Reoliad 11 (Ceisiadau hwyr).

14.  Yn rheoliad 12 (Rhyddhau o ymrwymiadau)

(a)yn lle'r geiriau “rheoliad 9(2)” rhowch y geiriau “rheoliad 3(1)(ch)”, a

(b)ym mharagraff (c) yn lle'r gair “chwe” rhowch y gair “dri” ac ar ôl y gair “cymwys” rhowch y geiriau “neu unrhyw dir llai ffafriol sy'n perthyn”.

15.  Yn rheoliad 13 (Cadw'n ôl neu adennill taliadau) ym mharagraff (a), yn lle'r geiriau “reoliad 9(2)” rhowch y geiriau “reoliad 3(1)(ch)”.

16.  Yn rheoliad 14 (Cyfradd Llog)—

17.  Dilëwch reoliad 15 (Daliadau Trawsffiniol).

18.  Yn yr Atodlen—

(a)rhowch y canlynol yn lle Rhan A—

Rhan A

1.  Cyfrifir y taliad sylfaenol o dan elfen un y cynllun Tir Mynydd drwy luosi tir cymwys ceisydd wrth y gyfradd neu'r cyfraddau priodol a nodir ym mharagraff 2.

2.  Y cyfraddau y cyfeirir atynt ym mharagraff 1 yw—

(a)£23.00 yr hectar ar gyfer tir tan anfantais; a

(b)£35.00 yr hectar ar gyfer tir tan anfantais ddifrifol..

(b)yn lle paragraff 4 o Ran C, rhowch y paragraff canlynol—

4.  Ym mlwyddyn 2003, bydd gan y ceisydd yr hawl i swm ychwanegol a fyddai, pan fydd wedi'i ychwanegu at y taliad Tir Mynydd yn creu cyfanswm o 50% o'r swm a dalwyd i'r ceisydd ar gyfer HLCA ym mlwyddyn 2000..

Diwygio Rheoliadau Tir Mynydd (Daliadau Trawsffiniol) (Cymru) 2001

19.  Diwygir Rheoliadau Tir Mynydd (Daliadau Trawsffiniol) (Cymru) 2001 (11) yn unol â rheoliadau 20 a 21 o'r rheoliadau hyn.

20.  Yn rheoliad 2 (Diffiniadau), dilewch baragraff (2).

21.  Yn rheoliad 4 (Diffiniad o awdurdod cymwys) ym mharagraff 2(c) yn lle'r geiriau “y Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd” rhowch y geiriau “yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig”.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(12)

John Marek

Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

9 Gorffennaf 2002

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, sydd yn dod i rym ar 10 Gorffennaf 2002, yn diwygio Rheoliadau Tir Mynydd (Cymru) 2001 (“y prif Reoliadau”) drwy:

(a)ailddatgan a diwygio'r meini prawf i geiswyr fod yn gymwys i dderbyn taliad o dan y cynllun er mwyn i geisiwyr fod yn gymwys i dderbyn taliadau os oes ganddynt dir porthiant yn naill ai Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon (“tiriogaeth trawsffiniol”) sef tir sy'n caniatáu i'r ceisydd hwnnw yr hawl i lwfans ar gyfer ardal llai ffafriol yn y diriogaeth drawsffiniol honno, er bod gan y ceiswyr hynny lai na'r lleiafswm gofynnol o 6 hectar o dir porthiant cymwys yng Nghymru (rheoliad 5).

(b)ailfformiwleiddio ac ailddatgan y darpariaethau sy'n ymwneud â gostyngiad yn y tir porthiant pan fydd gan geiswyr swmp cyfeiriol unigol o laeth ar gael (rheoliad 6).

(c)rhoi i'r Cynulliad Cenedlaethol y pŵer i amrywio'r lleiafswm o ofynion dwysedd stocio o dan y cynllun o dan amgylchiadau penodol (Rheoliad 7).

(ch)darparu ar gyfer cynyddu taliadau sylfaenol o dan y cynllun ac sy'n daladwy gan y Cynulliad Cenedlaethol (rheoliad 8).

(d)darparu bod y taliadau chwyddo amgylcheddol y cyfeirir atynt ym mharagraffau (2) a (3) o Reoliad 7 o'r prif Reoliadau yn daladwy yn y drefn honno mewn symiau sy'n gyfystyr â hyd at 10% a i 20% o daliadau elfen 1 (rheoliad 9).

(dd)darparu bod y cosbau IACS mewn perthynas â chyflwyno yn hwyr yn cael eu gweithredu mewn perthynas â cheisiadau am daliadau sy'n cael eu gwneud yn hwyr o dan y cynllun (rheoliad 12).

(e)darparu bod llog ar daliadau nad ydynt yn daladwy ac y gellir eu hadennill gan y Cynulliad Cenedlaethol i'w gyfrifo o'r dyddiad y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn hysbysu'r ceisydd nad oedd y swm a dalwyd yn daladwy (rheoliad 16).

(f)darparu fformwla “rhwyd achub” newydd mewn perthynas â chyfrifio taliadau Tir Mynydd ym mlwyddyn 2003 (rheoliad 18(b)).

(ff)darparu ar gyfer gwneud mân newidiadau a newidiadau i'r diffiniadau sy'n dilyn yn sgil y diwygiadau uchod.

Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn gwneud mân ddiwygiadau i Reoliadau Tir Mynydd (Daliadau Trawsffiniol) (Cymru) 2001 yn rhinwedd, yn gyntaf, cynnwys diffiniad o “arwynebedd porthiant y gwneir cais amdano” yn y prif reoliadau ac, yn ail, trosglwyddo swyddogaethau o'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig.

Nid oes Arfarniad Rheoliadol wedi ei baratoi mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.

(1)

Yn rhinwedd Gorchymyn y Cymunedau Ewropeaidd (Dynodi) (Rhif 3) (O.S. 1999/2788) (“y Gorchymyn”). Mae pŵer y Cynulliad Cenedlaethol, fel corff sydd wedi'i ddynodi mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, i wneud rheoliadau sy'n gymwys i ddaliadau sy'n cynnwys tir o fewn y Deyrnas Gyfunol ond y tu allan i Gymru, wedi'i gadarnhau gan baragraff 2(b) o Atodlen 2 i'r Gorchymyn.

(6)

O.S. 1994/2740, a ddiwygiwyd gan O.S. 1995/100, 1481, 2778 ac O.S. 1996/27 ac a ddiddymwyd gan O.S. 1996/1500.

(7)

O.S.1996/1500, a ddiwygiwyd gan O.S. 1997/33, 1998/206, 1999/375; yn rhinwedd O.S. 1999/3316, nid yw O.S. 1996/1500 bellach yn gymwys.

(9)

O.J. Rhif L281, 04.11.99, t.30.

(10)

O.J. Rhif L327, 12.12.2001, t.11.

(12)

1998 p.38.