- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
5. Rhowch y rheoliad canlynol yn lle rheoliad 3 (Ceiswyr cymwys)—
3.—(1) Bydd ceiswyr yn gymwys i gael taliad Tir Mynydd mewn perthynas â blwyddyn gynllun ar yr amod bod—
(a)cais am daliad wedi'i wneud mewn perthynas â'r flwyddyn gynllun honno drwy gais am gymorth arwynebedd dilys a bod yr arwynebedd porthiant y gwneir cais amdano, os o gwbl, yn cydymffurfio ag un o'r amodau a bennir ym mharagraff (2); a
(b)y ceisydd wedi cyflwyno cais am gymorth da byw mewn perthynas â defaid neu fuchod sugno neu'r ddau ohonynt mewn perthynas â'r flwyddyn y cyflwynwyd cais yn ei chylch am daliad Tir Mynydd; ac
(c)y ceisydd wedi defnyddio arferion ffermio da arferol sy'n cyd-fynd â'r angen i ddiogelu'r amgylchedd a chynnal cefn gwlad, yn benodol drwy ffermio cynaliadwy; a
(ch)y ceisydd wedi rhoi ymrwymiad ysgrifenedig y bydd yn ffermio o leiaf 3 hectar o dir sydd naill ai'n dir cymwys neu'n dir llai ffafriol sy'n perthyn a pharhau i wneud hynny am gyfnod o 5 mlynedd o ddyddiad y taliad iawndal cyntaf ac nad yw'r ceisydd hwnnw'n torri'r ymrwymiad hwnnw ar ddyddiad y taliad.
(2) Y canlynol yw'r amodau—
(a)bod nid llai na 6 hectar o'r arwynebedd porthiant y gwneir cais amdano o fewn y tir llai ffafriol; neu
(b)os nad yw'r arwynebedd porthiant y gwneir cais amdano sy'n gorwedd o fewn y tir llai ffafriol yn llai na 1 hectar ond yn llai na 6 hectar, mae cyfanswm yr arwynebedd porthiant y gwneir cais amdano yn cynnwys tir sydd wedi'i leoli o fewn tir llai ffafriol sy'n perthyn ac sy'n gymwys i gael lwfans tir llai ffafriol sy'n perthyn.”.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys