xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2002 Rhif 1855 (Cy.179)

PLANT A PHERSONAU IFANC, CYMRU

Rheoliadau Plant (Ymadael â Gofal) (Diwygio) (Cymru) 2002

Wedi'u gwneud

16 Gorffennaf 2002

Yn dod i rym

1 Awst 2002

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 23A(3) a 104(4) o Ddeddf Plant 1989(1) a pharagraff 19B(3) o Atodlen 2 iddi, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Plant (Ymadael â Gofal) (Diwygio) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 1 Awst 2002.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Diwygio Rheoliadau Plant (Ymadael â Gofal) (Cymru) 2001

2.  Mae Rheoliadau Plant (Ymadael â Gofal) (Cymru) 2001(2) yn cael eu diwygio fel a ganlyn—

(a)yn Rheoliad 3 (Plant cymwys), hepgorwch baragraff (2)(b),

(b)yn Rheoliad 4 (Plant perthnasol)—

(i)yn lle paragraff (4) rhowch—

(4) Yn ddarostyngedig i baragraff (6), nid yw unrhyw blentyn sydd wedi byw gyda pherson sy'n dod o fewn adran 23(4) o'r Ddeddf (“lleoliad teuluol”) am gyfnod parhaus o chwe mis neu fwy i fod yn blentyn perthnasol er ei fod yn dod o fewn adran 23A(2).;

(ii)ar ôl paragraff (5) mewnosodwch—

(6) Os

(a)yw lleoliad teuluol o fewn ystyr paragraff (4) wedi torri lawr ac mae'r plentyn yn peidio â byw gyda'r person o dan sylw, a

(b)yw cyfnod o chwe mis wedi mynd heibio ers dechrau'r lleoliad teuluol,

mae'r plentyn i'w drin fel plentyn perthnasol..

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

16 Gorffennaf 2002

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Plant (Ymadael â Gofal) (Cymru) 2001 (“Rheoliadau 2001”). Mae Rheoliadau 2001 yn gwneud darpariaeth ynghylch cymorth i blant a phobl ifanc 16 oed a throsodd, sy'n derbyn gofal, neu sydd wedi derbyn gofal, gan awdurdod lleol.

Mae Rheoliad 3 o Reoliadau 2001 yn cael ei ddiwygio er mwyn i blant sydd wedi'u lleoli gyda rhiant, gyda pherson y mae ganddo gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu gyda rhywun sy'n meddu ar orchymyn preswylio o'i blaid o dan adran 23(4) o Ddeddf Plant 1989 ac sydd yn destun gorchymyn gofal, fod yn gymwys i dderbyn cymorth gan yr awdurdod lleol.

Mae Rheoliad 4 o Reoliadau 2001 yn cael ei ddiwygio er mwyn i blant sydd wedi treulio 6 mis neu fwy yn byw gyda rhiant, gyda pherson y mae ganddo gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu gyda rhywun sy'n meddu ar orchymyn preswylio o'i blaid, i ddal i fod yn gymwys i dderbyn cymorth gan yr awdurdod lleol os yw'r lleoliad yn torri lawr wedyn.

(1)

1989 p.41. Mewnosodwyd adran 23A(3) gan Ddeddf Plant (Ymadael â Gofal) 2000. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan y darpariaethau hyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â Chymru yn rhinwedd erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac adran 8(7) o Ddeddf 2000. Diffinnir ystyr “prescribed” yn adran 105(1) o Ddeddf Plant 1989.