Rheoliadau Addysg (Cynllun Grant Dysgu'r Cynulliad) (Cymru) 2002

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cynllun Grant Dysgu'r Cynulliad) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 1 Awst 2002.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag awdurdodau addysg lleol yng Nghymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

  • mae i “addysg bellach” yr ystyr a roddir i “further education” yn adran 2(3) o Ddeddf 1996;

  • mae i “addysg uwch” yr ystyr a roddir i “higher education” yn adran 579(1) o Ddeddf 1996;

  • ystyr “awdurdod addysg” (“education authority”) yw awdurdod addysg lleol yng Nghymru;

  • ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw cyfnod o ddeuddeng mis sy'n dod i ben â 31 Mawrth;

  • ystyr “Cynllun Grant Dysgu'r Cynulliad” (“Assembly Learning Grant Scheme”) yw'r Cynllun a sefydlwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol, ac sy'n nodi'r amodau ynghylch gwneud grant gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan y Rheoliadau hyn, i ad-dalu gwariant a gymeradwywyd yr aiff awdurdodau addysg iddo wrth dalu Grantiau Dysgu'r Cynulliad o dan Reoliadau Awdurdodau Addysg Lleol (Dyfarndaliadau Addysg Ôl-orfodol) (Cymru) 2002(1);

  • ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedalethol Cymru;

  • ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996;

  • ystyr “grant” (“grant”) yw grant taladwy o dan adran 484 o Ddeddf 1996 yn unol â'r Rheoliadau hyn;

  • ystyr “gwariant a gymeradwywyd” (“approved expenditure”) yw unrhyw wariant a ragnodwyd ac a gymeradwywyd yn ôl y ddarpariaeth yn rheoliad 3;

  • ystyr “gwariant a ragnodwyd” (“prescribed expenditure”) yw gwariant gan awdurdod addysg at ddiben neu yng nghyswllt diben a bennir yn yr Atodlen;

  • ystyr “penderfynu” (“determine”) yw penderfynu drwy hysbysiad ysgrifenedig.

(2Yn y Rheoliadau hyn y mae cyfeiriad at reoliad yn gyfeiriad at reoliad a gynhwysir ynddynt, y mae cyfeiriad mewn rheoliad at baragraff yn gyfeiriad at baragraff yn y rheoliad hwnnw, ac y mae cyfeiriad at yr Atodlen yn gyfeiriad at yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.

Gwariant y mae grant yn daladwy mewn perthynas ag ef

3.  Ni fydd grant ond yn daladwy mewn perthynas â gwariant a ragnodwyd yr aed iddo neu yr eir iddo mewn blwyddyn ariannol i'r graddau bod y gwariant hwnnw wedi ei gymeradwyo ar gyfer y flwyddyn honno gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddiben y Rheoliadau hyn.

Grant mewn perthynas â thaliadau i drydydd partïon

4.  Os—

(a)bydd awdurdod addysg yn mynd i wariant wrth wneud taliadau i unrhyw gorff neu bersonau eraill (gan gynnwys awdurdod addysg arall) sy'n mynd i wariant at neu yng nghyswllt dibenion addysgol, a

(b)y byddai'r gwariant gan dderbynnydd y taliadau neu unrhyw ran ohonynt yn wariant a ragnodwyd petai'n wariant yr awdurdod,

rhaid i daliadau o'r fath i'r graddau hynny gael eu trin fel gwariant a ragnodwyd at ddiben y Rheoliadau hyn.

Cyfradd y Grant

5.  Mae grant mewn perthynas â gwariant a gymeradwywyd i gael ei dalu ar gyfradd o 100 y cant o'r cyfryw wariant a gymeradwywyd.

Amodau talu grant

6.—(1Nid yw grant i gael ei dalu ac eithrio fel ymateb i gais ysgrifenedig oddi wrth awdurdod addysg i'r Cynulliad Cenedlaethol, wedi'i ddilysu gan swyddog yr awdurdod ac sy'n gyfrifol am weinyddu eu materion ariannol neu ddirprwy y swyddog hwnnw.

(2Rhaid i geisiadau am dalu grant ymwneud â gwariant dros un neu ragor o gyfnodau sy'n dechrau ar neu wedi i'r Rheoliadau hyn ddod i rym a rhaid iddynt bennu'r gwariant a gymeradwywyd y gwneir cais mewn perthynas ag ef ac yr aeth neu yr amcangyfrifir yr aiff yr awdurdod addysg iddo yn ystod pob cyfnod o'r fath.

(3Pan gyflwynir cais sy'n ymwneud â gwariant a gymeradwywyd yr aed iddo neu yr amcangyfrifir yr eir iddo yn ystod unrhyw un neu ragor o gyfnodau mewn unrhyw flwyddyn ariannol o dan baragraff (1) caiff y cyfryw daliad ag y penderfyna'r Cynulliad Cenedlaethol arno wneud yn ddi-oed.

(4Pan fydd y Cynulliad Cenedlaethol wedi gwneud taliad o dan baragraff (3), nid yw grant pellach i gael ei dalu mewn perthynas â'r gwariant yr eir iddo yn ystod y cyfnod hwnnw neu'r cyfnodau hynny hyd nes i ddatganiad—

(a)am bob cyfnod o'r fath, neu

(b)am y flwyddyn ariannol y mae pob cyfnod o'r fath yn syrthio o'i mewn,

gael ei gyflwyno yn unol â pharagraff (6)(a).

(5Caiff y Cynulliad Cenedlaethol benderfynu bod rhaid i unrhyw dandaliad neu ordaliad o grant sy'n aros yn weddill wedi iddo dderbyn datganiad yr awdurdod addysg ac y cyfeirir ato ym mharagraff (6)(a) (heb ragfarnu addasiad unrhyw dandaliad neu ordaliad o dan unrhyw ddarpariaeth arall) gael ei addasu naill ai drwy daliad rhwng yr awdurdod a'r Cynulliad Cenedlaethol neu drwy gael ei gymryd i ystyriaeth mewn unrhyw daliad canlynol o grant i'r awdurdod addysg.

(6Rhaid i bob awdurdod addysg sydd wedi cael neu sy'n ceisio cael taliad grant mewn perthynas â gwariant yr aed iddo neu yr eir iddo yn ystod unrhyw flwyddyn ariannol neu gyfnod ohoni, cyn 31 Hydref yn y flwyddyn ariannol ganlynol neu cyn gynted ag sy'n ymarferol wedi'r dyddiad hwnnw—

(a)gyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol ddatganiad y mae'n rhaid iddo bennu'r gwariant a gymeradwywyd y gwnaed cais neu y gwneir cais am grant mewn perthynas ag ef, ac yr aeth yr awdurdod addysg iddo yn ystod y flwyddyn honno neu gyfnod ohoni; a

(b)sicrhau cyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol dystysgrif a lofnodwyd gan yr archwilydd a benodir gan y Comisiwn Archwilio ar gyfer Awdurdodau Lleol a'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru a Lloegr i archwilio cyfrifon yr awdurdod neu unrhyw archwilydd cymwys i'r cyfryw benodiad yn rhinwedd adran 3(5), (6) a (7) o Ddeddf y Comisiwn Archwilio 1998(2) ac sy'n ardystio bod y manylion a nodwyd yn y datganiad neu'r datganiadau a gyflwynwyd gan yr awdurdod yn unol â'r paragraff hwn yn ei farn ef wedi'u nodi'n deg a bod y gwariant yr aed iddo yn wariant a gymeradwywyd at ddiben y Rheoliadau hyn.

(7Ac eithrio'r flwyddyn gyntaf wedi i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, nid yw grant i gael ei dalu mewn perthynas â gwariant yr aed iddo neu'r eir iddo gan awdurdod addysg yn y cyfnod 1 Ionawr i 31 Mawrth mewn unrhyw flwyddyn ariannol neu unrhyw gyfnod canlynol os talwyd grant i'r awdurdod mewn perthynas â gwariant mewn blwyddyn ariannol flaenorol ac nid yw'r Cynulliad Cenedlaethol eto wedi cael tystysgrif yr archwilydd y cyfeirir ati ym mharagraff (6)(b) am y flwyddyn honNo.

(8Rhaid i unrhyw dandaliad neu ordaliad o grant sy'n aros yn weddill, wedi cael tystysgrif yr archwilydd y cyfeirir ati ym mahragraff (6)(b) gael ei addasu drwy daliad rhwng yr awdurdod addysg a'r Cynulliad Cenedlaethol, ond os nad yw'r awdurdod yn cydymffurfio gellir ei addasu mewn unrhyw daliad o grant a wneir i'r awdurdod wedi hynny.

(9Yn y rheoliad hwn ystyr “cyfnod” yw un o'r cyfnodau canlynol—

(a)1 Ebrill i 31 Gorffennaf;

(b)1 Awst i 31 Rhagfyr;

(c)1 Ionawr i 31 Mawrth.

7.  Pan fydd y Cynulliad Cenedlaethol, adeg cymeradwyo'r gwariant at ddiben y Rheoliadau hyn, yn gofyn am wybodaeth mewn perthynas â'r diben hwnnw, bydd talu grant yn amodol ar gynnwys yr wybodaeth honno yng nghais yr awdurdod addysg am dalu'r grant.

8.—(1Caiff y Cynulliad Cenedlaethol, wedi ymgynghori â'r awdurdod addysg, o bryd i'w gilydd benderfynu ar amodau pellach y bydd gwneud unrhyw daliad o dan y Rheoliadau hyn yn ddibynnol ar eu cyflawni.

(2Pan fydd amodau wedi eu penderfynu arnynt o dan y rheoliad hwn ni ellir talu grant oni bai i'r cyfryw amodau gael eu cyflawni neu eu tynnu o dan baragraff (3).

(3Caiff y Cynulliad Cenedlaethol benderfynu tynnu neu, wedi ymgynghori â'r awdurdod addysg, amrywio amodau y penderfynwyd arnynt o dan y rheoliad hwn.

Gofynion y mae'n rhaid cydymffurfio â hwy

9.  Rhaid i unrhyw awdurdod addysg y gwnaed taliad grant iddo, os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn, roi iddo'r cyfryw wybodaeth bellach ag y gall fod ei hangen arno i'w alluogi i wirio bod unrhyw grant a dalwyd wedi cael ei dalu yn briodol o dan y Rheoliadau hyn.

10.—(1Rhaid i unrhyw awdurdod addysg y gwnaed taliad grant iddo gydymffurfio â'r cyfryw ofynion ag y gall y Cynulliad Cenedlaethol benderfynu arnynt yn yr achos dan sylw.

(2Caiff gofynion y penderfynir arnynt o dan y rheoliad hwn gynnwys yn benodol ofynion o ran—

(a)ad-dalu'r grant; neu

(b)talu llog ar symiau sy'n ddyledus i'r Cynulliad Cenedlaethol.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

16 Gorffennaf 2002