xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2002 Rhif 2780 (Cy.264)

TRIBIWNLYSOEDD AC YMCHWILIADAU, CYMRU

Rheoliadau Ffioedd Ymchwiliadau (Swm Dyddiol Safonol) (Cymru) 2002

Wedi'u gwneud

8 Tachwedd 2002

Yn dod i rym

29 Tachwedd 2002

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 42(4) o Ddeddf Tai a Chynllunio 1986(1) i unrhyw Weinidog a awdurdodwyd, o dan y darpariaethau statudol hynny a bennir yn adran 42(1) o'r Ddeddf honno neu yn rhinwedd y darpariaethau hynny neu y mae'r adran honno yn cael ei chymhwyso iddynt(2), i adennill y costau a dynnwyd gan y Gweinidog mewn perthynas ag ymchwiliad, sef pwerau sy'n arferadwy bellach gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru(3) mewn perthynas â Chymru, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ffioedd Ymchwiliadau (Swm Dyddiol Safonol) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 29 Tachwedd 2002.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Yr ymchwiliadau y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt

2.  Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i ymchwiliadau y mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru hawl i adennill ei gostau mewn perthynas â hwy o dan y darpariaethau canlynol neu yn rhinwedd y darpariaethau hynny, sef—

(a)adran 250(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(4) (darpariaethau cyffredinol ynglŷn â chostau ymchwiliadau),

(b)adran 129(1)(d) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984(5) (costau ymchwiliad o dan y Ddeddf honno),

(c)adran 69(5) o Ddeddf Traenio Tir 1991(6) (costau ymchwiliad o dan y Ddeddf honno),

os yw'r ymchwiliad yn agor ar y dyddiad y mae'r Rheoliadau hyn yn dod i rym neu ar ôl hynny.

Y swm dyddiol safonol

3.  Y swm dyddiol safonol a ragnodir o dan adran 42(4) o Ddeddf Tai a Chynllunio 1986 ar gyfer ymchwiliadau y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt yw—

(a)£566, os yw'r ymchwiliad yn agor cyn 1 Ebrill 2003; a

(b)£645, os yw'r ymchwiliad yn agor ar 1 Ebrill 2003 neu ar ôl hynny.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(7))

Rhodri Morgan

Prif Weinidog y Cynulliad Cenedlaethol

8 Tachwedd 2002

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru, yn gymwys os yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi'i awdurdodi o dan ddarpariaethau penodedig neu yn rhinwedd y darpariaethau hynny i adennill ei gostau mewn cysylltiad â chynnal ymchwiliad o dan rai deddfiadau, sef:

(a)Deddf Llywodraeth Leol 1972;

(b)Deddf Rheoleiddio Traffig 1984; ac

(c)Deddf Traenio Tir 1991.

Maent yn pennu swm safonol y gellir ei godi am bob diwrnod y mae'r ymchwiliad yn eistedd neu y mae'r person sydd wedi'i benodi i'w gynnal wrthi'n gwneud gwaith arall mewn cysylltiad ag ef. £566 yw'r swm os yw'r ymchwiliad yn agor ar y diwrnod y mae'r Rheoliadau hyn yn dod i rym (29 Tachwedd 2002) neu ar ôl hynny ond cyn 1 Ebrill 2003 a £645 os yw'r ymchwiliad yn agor ar 1 Ebrill 2003 neu ar ôl hynny.

(1)

1986 p.63. Diddymwyd adran 42(1)(b) gan Ran I o Atodlen 3 i Ddeddf Cydgrynhoi Dŵ r (Darpariaethau Ôl-ddilynol) 1991 (p.60) a diddymwyd adran 42(1)(d) gan Ran II o Atodlen 12 i Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p.42).

(2)

Mae adran 69(7) o Ddeddf Traenio Tir 1991 yn darparu y bydd adran 42 o Ddeddf Cynllunio a Thai 1986 yn gymwys os bydd y naill neu'r llall o “the Ministers” wedi'i awdurdodi'n briodol i adennill y costau a dynnwyd gan y Gweinidog hwnnw fel y mae'n gymwys os yw Gweinidog wedi'i awdurdodi felly yn rhinwedd unrhyw ddeddfiad a bennir yn adran 42(1) o Ddeddf 1986. Mae adran 69(5) o Ddeddf 1991 yn awdurdodi'r naill neu'r llall o “the Ministers”, h.y. yr Ysgrifennydd Gwladol neu'r Gweinidog dros Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd (gweler adran 72(1) o Ddeddf 1991 i gael y diffiniad o “the Ministers”) i adennill y costau a dynnwyd gan y Gweinidog hwnnw mewn perthynas ag ymchwiliad a gynhaliwyd gan y Gweinidog hwnnw. Trosglwyddwyd pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Erthygl 2 o Atodlen 1 i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).

(3)

O dan ddarpariaethau Erthygl 2 ac Atodlen 1 i o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2000 (O.S. 2000/253 (Cy.5)) mae pwerau Gweinidog o dan adran 42 o Ddeddf Cynllunio a Thai 1986 yn arferadwy, mewn perthynas â Chymru, gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, ar y cyd ag unrhyw un o Weinidogion y Goron y maent yn arferadwy ganddo.