Offerynnau Statudol Cymru
2002 Rhif 2799 (Cy.267)
TAI, CYMRU
Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflenni a Manylion Rhagnodedig) (Diwygio) (Cymru) 2002
Wedi'u gwneud
12 Tachwedd 2002
Yn dod i rym
13 Tachwedd 2002
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflenni a Manylion Rhagnodedig) (Diwygio) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 13 Tachwedd 2002.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig ac nid ydynt yn effeithiol mewn perthynas â cheisiadau grant sy'n cael eu gwneud cyn y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym.
Diwygiadau
2.—(1) Mae'r ffurflen (Saesneg ei hiaith) a nodir yn yr Atodlen i Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig) 1996(3) yn cael ei diwygio fel a nodir yn y testun Saesneg o'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
(2) Mae'r ffurflen (Gymraeg ei hiaith) a nodir yn yr Atodlen i Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig) (Ffurflen a Manylion Cymraeg) 1998(4) yn cael ei diwygio fel a nodir yn y testun Cymraeg o'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(5).
D.Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
12 Tachwedd 2002
Rheoliad 2
YR ATODLEN
1. Ar ddiwedd cwestiwn 3.1, ychwanegwch—
“neu a ydy'r ddau ohonoch yn cael (ac a oes gennych hawl i gael) lwfans ceisio gwaith drwy gais ar y cyd?”.
2. Yng nghwestiwn 3.29 mewnosodwch y canlynol yn y lle priodol—
(a)“Lwfans Profedigaeth: £ ... ... ... ... ... ... ... ... £ ... ... ... ... ... ... ... ...Nodyn 84C”;
(b)“Lwfans ceisio gwaith drwy gais ar y cyd: £ ... ... ... ... ... ... ... ... £ ... ... ... ... ... ... ... ... Nodyn 48”;
(c)“Lwfans mam weddw: £ ... ... ... ... ... ... ... ... £ ... ... ... ... ... ... ... ... Nodyn 84D”;
(d)“Lwfans rhiant gweddw: £ ... ... ... ... ... ... ... ... £ ... ... ... ... ... ... ... ... Nodyn 84D”.
3. Ar ôl cwestiwn 3.34B, mewnosodwch—
“3.34C Rhowch fanylion unrhyw daliad a wnaed i chi neu i'ch partner i dalu iawn am ddigwyddiadau a ddigwyddodd yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Nodyn 90F”
4. Ym mharagraffau (a) a (b) o'r Awdurdodiad ar ddiwedd Rhan 3 o'r ffurflen, ar ôl “lwfans ceisio gwaith ar sail incwm” mewnosodwch “neu lwfans ceisio gwaith drwy gais ar y cyd”.
5. Yn nodyn 48—
(a)ar ôl “le Cymhorthdal Incwm” ychwanegwch “Os yw'r ddau bartner yn gymwys i gael lwfans ceisio gwaith o 19 Mawrth 2001 ymlaen dylent wneud “cais ar y cyd” am lwfans ceisio gwaith.”;
(b)ar ôl “Rhan 3”, yn yr ail le y mae'n digwydd, mewnosodwch “os yw'r cwpl yn cael lwfans ceisio gwaith drwy gais ar y cyd, caiff dau aelod y cwpl lenwi'r awdurdodiad ar ddiwedd Rhan 3.”.
6. Yn y rhestr ym mharagraff cyntaf nodyn 83 yn lle “neu yn Newis Tasglu Amgylchedd y Fargen Newydd lle yr ydych chi yn hunangyflogedig o dan Ddewis Cyflogaeth y Fargen Newydd a wnaed o dan adran 2 o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973;” rhowch “,yn Newis Tasglu Amgylchedd y Fargen Newydd lle yr ydych chi yn hunangyflogedig o dan Ddewis Cyflogaeth y Fargen Newydd, rhaglen y Cyfnod Gweithgaredd Dwys neu'r Cyfnod Gweithgaredd Dwys ar gyfer y rhai dros 50 a wnaed o dan adran 2 o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973 neu gymhorthdal i gefnogi eich hunangyflogaeth”.
7. Ar ôl nodyn 84B mewnosodwch—
“84C. Byddwch cystal â rhoi manylion unrhyw lwfans profedigaeth a gawsoch yn y 12 mis diwethaf. Telir lwfans profedigaeth i berson dros 55 oed ac o dan 60 oed a ddaeth yn weddw ar neu ar ôl 9 Ebrill 2001. Telir y lwfans o dan adran 39B o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992.”.
“84D. Telir lwfans mam weddw o dan adran 37 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992 a thelir lwfans rhiant gweddw o dan adran 39A o'r Ddeddf honNo. ”.
8. Ar ôl nodyn 90E, mewnosodwch—
“90F. Y taliadau a anwybyddir wrth gyfrifio cyfalaf yw'r rheiny sy'n daladwy i chi neu eich partner i dalu iawn i chi, eich partner, eich priod marw neu briod marw eich partner am fod, yn ystod yr Ail Ryfel Byd, yn gaethlafuriwr neu'n lafuriwr o dan orfodaeth neu'n riant i blentyn a fu farw neu am ddioddef anaf personol neu golli eiddo yn ystod y Rhyfel hwnnw.”.
9. Ar ddiwedd nodyn 93, ychwanegwch:
Dylech ateb “Nac ydw” i'r cwestiwn hwn os ydych ar seibiant mamolaeth, gyda hawl i gael tâl mamolaeth statudol o dan adran 164 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992 neu lwfans mamolaeth o dan adran 35 o'r Ddeddf honno, a dim ond ar gyfer y plentyn y mae'r seibiant mamolaeth yn berthnasol iddo y telir y taliadau gofal plant.”.
10. Yn nodyn 95A ar ôl “Rhan 3” mewnosodwch “Os yw cwpl yn cael lwfans ceisio gwaith drwy gais ar y cyd, caiff dau aelod y cwpl lenwi'r awdurdodiad ar ddiwedd Rhan 3.”.
Nodyn Esboniadol
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r Ffurflenni (dwyieithog) sydd i'w defnyddio gan berchen-feddianwyr a thenantiaid wrth wneud cais am grantiau adnewyddu tai o dan Bennod I o Ran I o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996.
Mae'r ffurflen Gymraeg sy'n cael ei diwygio wedi'i nodi yn yr Atodlen i Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion a Ragnodir) (Ffurflen a Manylion Cymraeg) 1998 (O.S. 1998/1113 fel y'i diwygiwyd).
Mae'r ffurflen Saesneg sy'n cael ei diwygio wedi'i nodi yn yr Atodlen i Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion a Ragnodir) 1996 (O.S. 1996/2891 fel y'i diwygiwyd).
Mae'r diwygiadau yn dilyn y diwygiadau sy'n cael eu gwneud gan Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Diwygio) (Cymru) 2002 (O.S. 2798) (Cy.266)i Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai 1996 (O.S. 1996/2890).
1996 p.53. Mae Swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol wedi'u trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Gweler erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn. I gael y diffiniad o “prescribed” gweler adran 101.
O.S. 1996/2891, a ddiwygiwyd gan O.S. 1996/3199, 1997/978, 1998/809, 1999/1607, 1999/3470 (Cy.56), 2000/1735 (Cy.119), 2001/2071 (Cy.143) a 2001/4006 (Cy.332).
O.S. 1998/1113 a ddiwygiwyd gan O.S. 1999/2316, 1999/3470 (Cy.56), 2000/1735 (Cy.119), 2001/2071 (Cy.143) a 2001/4006 (Cy.332).