xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Rheoliad 2
1. Ar ddiwedd cwestiwn 4.1, ychwanegwch—
“neu a ydy'r ddau ohonoch yn cael (ac a oes gennych hawl i gael) lwfans ceisio gwaith drwy gais ar y cyd?”.
2. Yng nghwestiwn 4.29 mewnosodwch y canlynol yn y lle priodol—
(a)“Lwfans Profedigaeth: £ ... ... ... ... ... ... ... ... £ ... ... ... ... ... ... ... ...Nodyn 44C”;
(b)“Lwfans ceisio gwaith drwy gais ar y cyd: £ ... ... ... ... ... ... ... ... £ ... ... ... ... ... ... ... ... Nodyn 8”;
(c)“Lwfans mam weddw: £ ... ... ... ... ... ... ... ... £ ... ... ... ... ... ... ... ... Nodyn 44D”;
(d)“Lwfans rhiant gweddw: £ ... ... ... ... ... ... ... ... £ ... ... ... ... ... ... ... ... Nodyn 44D”.
3. Ar ôl cwestiwn 4.34B, mewnosodwch—
“4.34C Rhowch fanylion unrhyw daliad a wnaed i chi neu i'ch partner i dalu iawn am ddigwyddiadau a ddigwyddodd yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Nodyn 50F”
4. Ym mharagraffau (a) a (b) o'r Awdurdodiad ar ddiwedd Rhan 4 o'r ffurflen, ar ôl “lwfans ceisio gwaith ar sail incwm” mewnosodwch “neu lwfans ceisio gwaith drwy gais ar y cyd”.
5. Yn nodyn 8—
(a)ar ôl “a chymerodd LCG ar sail incwm le Cymhorthdal Incwm” ychwanegwch “Os yw'r ddau bartner yn gymwys i gael lwfans ceisio gwaith o 19 Mawrth 2001 ymlaen dylent wneud “cais ar y cyd” am lwfans ceisio gwaith.”;
(b)ar ôl “Rhan 4”, yn yr ail le y mae'n digwydd, mewnosodwch “os yw'r cwpl yn cael lwfans ceisio gwaith drwy gais ar y cyd, caiff dau aelod y cwpl lenwi'r awdurdodiad ar ddiwedd Rhan 4.”.
6. Yn y rhestr ym mharagraff cyntaf nodyn 43 yn lle “neu yn Newis Tasglu Amgylchedd y Fargen Newydd lle yr ydych chi yn hunangyflogedig o dan Ddewis Cyflogaeth y Fargen Newydd a wnaed o dan adran 2 o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973;” rhowch “,Dewis Tasglu Amgylchedd y Fargen Newydd lle yr ydych chi yn hunangyflogedig o dan Ddewis Cyflogaeth y Fargen Newydd, rhaglen y Cyfnod Gweithgaredd Dwys neu'r Cyfnod Gweithgaredd Dwys ar gyfer y rhai dros 50 a wnaed o dan adran 2 o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973 neu fel cymhorthdal i gefnogi eich hunangyflogaeth”.
7. Ar ôl nodyn 44B mewnosodwch—
“44C. Byddwch cystal â rhoi manylion unrhyw lwfans profedigaeth a gawsoch yn y 12 mis diwethaf. Telir lwfans profedigaeth i berson dros 55 oed ac o dan 60 oed a ddaeth yn weddw ar neu ar ôl 9 Ebrill 2001. Telir y lwfans o dan adran 39B o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992.”.
44D. Telir lwfans mam weddw o dan adran 37 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992 a thelir lwfans rhiant gweddw o dan adran 39A o'r Ddeddf honNo. ”.
8. Ar ôl nodyn 50E, mewnosodwch—
“50F. Y taliadau a anwybyddir wrth gyfrifo cyfalaf yw'r rheiny sy'n daladwy i chi neu eich partner i dalu iawn i chi, eich partner, eich priod marw neu briod marw eich partner am fod, yn ystod yr Ail Ryfel Byd, yn gaethlafuriwr neu'n lafuriwr o dan orfodaeth neu'n riant i blentyn a fu farw neu am ddioddef anaf personol neu golli eiddo yn ystod y Rhyfel hwnnw.”.
9. Ar ddiwedd nodyn 53, ychwanegwch:
Dylech ateb “Nac ydw” i'r cwestiwn hwn os ydych ar seibiant mamolaeth, gyda hawl i gael tâl mamolaeth statudol o dan adran 164 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992 neu lwfans mamolaeth o dan adran 35 o'r Ddeddf honno, a dim ond ar gyfer y plentyn y mae'r seibiant mamolaeth yn berthnasol iddo y telir y taliadau gofal plant.”.
10. Yn nodyn 55A yn lle “Rhan 3” rhowch “Rhan 4. Os yw cwpl yn cael lwfans ceisio gwaith drwy gais ar y cyd, caiff dau aelod y cwpl lenwi'r awdurdodiad ar ddiwedd Rhan 4.”.