Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Cyflawni Swyddogaethau) (Diwygio) (Cymru) 2002

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Yn Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Cyflawni Swyddogaethau) (Cymru) 2002, a wnaed o dan Ran II o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, gwnaed darpariaeth sy'n galluogi awdurdod lleol yng Nghymru sy'n gweithredu trefniadau gweithrediaeth i wneud trefniadau ar gyfer cyflawni ei swyddogaethau gweithrediaeth gan bwyllgorau ardal, gweithrediaeth awdurdod lleol arall neu ar y cyd ag un neu fwy o awdurdodau lleol eraill drwy gyd-bwyllgor.

Mae Rheoliad 12(1) o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Cyflawni Swyddogaethau) (Cymru) 2002 yn darparu mai dim ond aelod o'r weithrediaeth y gellir ei benodi i gyd-bwyllgor sy'n arfer swyddogaethau gweithrediaeth.

Er mwyn sicrhau y caniateir i weithrediaethau awdurdod lleol benodi naill ai aelodau o'r awdurdod lleol nad ydynt yn aelodau gweithrediaeth neu swyddogion yr awdurdod i wasanaethu ar gyd-bwyllgorau ar eu rhan, diwygir rheoliad 12(1) yn unol â hynny.