- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Erthygl 2(b)
1. Ni fydd y diwygiadau a wnaed i Ddeddf 1993 gan adrannau 115 i 120, 125 a 127 i 128 a'r diddymiadau yn Rhan 1 o Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn yn cael effaith mewn perthynas â chais am ryddfreiniad torfol—
(a)y rhoddwyd hysbysiad o dan adran 13 o Ddeddf 1993 mewn perthynas ag ef; neu
(b)y gwnaed cais am orchymyn o dan adran 26 o'r Ddeddf honno cyn y dyddiad cychwyn mewn perthynas ag ef.
2. Hyd nes y daw adrannau 121 i 124 i rym, mewn achos lle nad oes ond dau denant cymwys o fflatiau a gynhwysir yn yr adeiladau, ni chaiff adran 13(2)(b) o Ddeddf 1993 fel y'i diwygiwyd gan adran 119 ei bodloni oni bydd y ddau denant yn denantiaid sy'n cyfranogi yn ôl y diffiniad o “participating tenants” yn adran 14 o'r Ddeddf honNo.
3. Bydd is-baragraff (2A) o baragraff 4 o Atodlen 6 i Ddeddf 1993 a fewnosodwyd gan adran 128, hyd nes y dygir adrannau 121 i 124 i rym, yn cael effaith fel pe bai'r cyfeiriad at aelodau sy'n cyfranogi yn gyfeiriad at denantiaid sy'n cyfranogi yn ôl y diffiniad o “participating tenants” yn adran 14 o'r Ddeddf honNo.
4. Ni fydd y diwygiadau a wnaed i Ddeddf 1993 gan adrannau 130, 131 a 134 i 136, y diddymiadau o adrannau 5, 7, 8 ac 8A o'r Ddeddf honno yn Rhan 1 o Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn a'r diddymiadau yn Rhan 2 o'r Atodlen honno yn cael effaith mewn perthynas â chais am brydles newydd o fflat—
(a)y rhoddwyd hysbysiad o dan adran 42 o Ddeddf 1993 mewn perthynas ag ef; neu
(b)y gwnaed cais am orchymyn o dan adran 50 o'r Ddeddf honno
cyn y dyddiad cychwyn mewn perthynas ag ef.
5. Ni fydd y diwygiadau a wnaed i Ddeddf 1967 gan adrannau 138 i 141 ac adrannau 143 i 147 a'r diddymiadau yn Rhan 3 o Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn, yn cael effaith mewn perthynas â chais am ryddfreiniad neu brydles estynedig o dŷ—
(a)y rhoddwyd hysbysiad o dan adran 8 neu 14 o Ddeddf 1997 mewn perthynas ag ef; neu
(b)y gwnaed cais am orchymyn o dan adran 27 o'r Ddeddf honno
cyn y dyddiad cychwyn mewn perthynas ag ef.
6. Ni fydd y diwygiadau a wnaed i Ddeddf Landlord a Thenant 1987(1) gan adrannau 160 a 161 yn cael effaith mewn perthynas â chais a wnaed o dan Ran II o Ddeddf Landlord a Thenant 1987 cyn y dyddiad cychwyn.
7. Ni fydd y diwygiadau a wnaed i Ddeddf Landlord a Thenant 1987 gan adran 162 yn cael effaith mewn perthynas â chais a wnaed o dan adran 35 o Ddeddf Landlord a Thenant 1987 cyn y dyddiad cychwyn.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys